Bywyd rhyfeddol Evan Morgan, arglwydd gwyllt Tredegar

Dyn gyda pharot mewn partiFfynhonnell y llun, National Trust Images
Disgrifiad o’r llun,

Evan Morgan (chwith) gyda'i barot o'r enw Blue Boy ar ei ysgwydd mewn parti yn Nhŷ Tredegar yn 1933

  • Cyhoeddwyd

Roedd Evan Morgan, Barwn ac Is-Iarll Tredegar yn ffigur ecsentrig ac yn un o fonheddwyr cyfoethocaf y Deyrnas Unedig.

Mae'n un o gymeriadau Cymreig mwyaf unigryw yr 20fed ganrif.

Roedd yn fardd, yn ocwltydd, yn aelod o gylch mewnol dau Bab, yn ysbïwr aflwyddiannus ac yn gyfaill i nifer helaeth o enwogion ei gyfnod.

Felly pwy yn union oedd Evan Morgan?

Dyma ychydig o hanes y bonheddwr anwadal a oedd yn un o Forganiaid Tŷ Tredegar, ger Casnewydd - un o deuluoedd bonheddig mwyaf dylanwadol Cymru ar hyd y canrifoedd.

Dau bortread o EvanFfynhonnell y llun, National Trust Images
Disgrifiad o’r llun,

Dau bortread o Evan

Ganwyd Evan Morgan ar 11 Gorffennaf 1893 yn Chelsea, Llundain i'r arglwydd Cymreig Courtenay Morgan, sef 3ydd Barwn ac Is-Iarll 1af Tredegar, a'r Foneddiges Katherine Carnegie.

Magwyd Evan yn Nhŷ Tredegar, plasty mawreddog y teulu ar gyrion Casnewydd, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Eton ac yna aeth i goleg Eglwys Crist ym Mhrifysgol Rhydychen, lle roedd nifer o'i gyndeidiau wedi astudio.

Yno, roedd Evan yn is-lywydd Cymdeithas Geltaidd Rhydychen.

Roedd gan Evan ddyhead i ddod yn fardd ac yn artist enwog, ond yn anffodus roedd yn fardd sâl a dim mwy na chymedrol gyda'i frwsh paent - er i nifer o'i baentiadau gael eu harddangos yn yr Académie des Beaux-Arts ym Mharis yn y 1910au.

Serch hynny, roedd yn arbenigwr ar gelf y Dadeni, ac fe ddaeth yn ymgynghorydd celf i'r teulu brenhinol.

Hefyd, fe lwyddodd i gyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei fywyd.

Dau ddynFfynhonnell y llun, National Trust Images
Disgrifiad o’r llun,

Evan (chwith) a'r Tywysog Paul o Groeg yng ngardd Tŷ Tredegar yn yr 1930au

Gwnaeth Evan enw i'w hun yn ifanc fel ecsentric ac un oedd yn frwd am y celfyddydau. Roedd y Frenhines Mari, gwraig y brenin Siôr V yn ei alw'n ei 'hoff bohemian'.

Daeth Evan yn ffrindiau agos gyda llenorion mawr y dydd fel Aldous Huxley, Robert Graves, H.G. Wells a'r artist Cymreig Augustus John, a beintiodd ddarlun o Evan.

Cafodd ei bortreadu yn nofel enwog Aldous Huxley, Crome Yellow yn 1921 fel 'Ivor Lombard'.

Mae'n debyg i Huxley ddweud "Why even bother trying to make up characters for one's books when real people like Evan Morgan already exist?"

Roedd Evan hefyd yn ffrindiau gyda'r gwleidyddion David Lloyd George a Brendan Bracken, a fyddai'n dod yn arweinydd y Weinyddiaeth Bropaganda yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dyn a changarwFfynhonnell y llun, National Trust Images
Disgrifiad o’r llun,

Evan a'i gangarŵ Somerset

Yn ei gartref yn Nhŷ Tredegar, roedd Evan yn cadw llu o anifeiliaid gwyllt a oedd yn cynnwys cangarŵ o'r enw Somerset, arth o'r enw Alice a haid o adar egsotig.

Roedd ganddo barot o'r enw Blue Boy oedd yn ffefryn ganddo a oedd yn cadw cwmni i Evan yn y partïon enwog roedd yn cynnal yn y plasty, lle fyddai criwiau o enwogion y dydd yn dod i aros am y penwythnos.

Mae'n debyg fod Evan yn falch iawn o'i Gymreictod, fel yr esbonia Paul Busby, hanesydd swyddogol Tŷ Tredegar:

"Roedd yn aml yn sôn wrth bobl am y ffaith ei fod yn ddisgynnydd i hen dywysogion Cymru.

"Gwnaeth o hyd yn oed berfformio fel bardd mewn un Eisteddfod Genedlaethol."

 Pab Bened XV a'r Pab Pïws XIFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Evan yn siambrlen i'r Pab Bened XV a'r Pab Pïws XI

Yn 1919, fe drodd Evan at Gatholigiaeth.

Daeth yn siambrlen i'r Pab Bened XV a'r Pab Pïws XI.

Fe symudodd Evan i fyw yn Rhufain er mwyn astudio yng ngholeg diwinyddol y Pontificio Collegio Beda – y gobaith oedd dod yn offeiriad, uchelgais na chafodd ei gwireddu.

Byddai Evan yn mynd i fyw yn y Fatican fel rhan o 'gylch mewnol' y Pab am o leiaf un mis y flwyddyn yn y cyfnod.

Daeth yn enwog yn Rhufain am yrru o gwmpas y ddinas mewn Rolls-Royce oedd â chabinet alcohol ac allor symudol yn y cefn!

Ond roedd gan Evan hefyd ddiddordeb mawr yn y goruwchnaturiol a'r 'Ocwlt'.

Roedd yn gyfaill mawr i Aleister Crowley, ocwltydd mawr y dydd, a ddyfeisiodd grefydd newydd o'r enw Thelema oedd yn cymysgu elfennau o hen grefyddau paganaidd a hud a lledrith.

"Roedd Evan yn byw ar ei delerau ei hun yn llwyr - fel rhamantydd pur oedd yn ymhyfrydu yn y pethau rhyfedd a'r cyfriniol.

"Doedd neb cweit yn gwybod beth i ddisgwyl ohono o eiliad i eiliad!" meddai Paul Busby, gan grisialu cymeriad y bonheddwr.

DynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr ocwltydd Aleister Crowley, a oedd yn cael ei alw'n The Great Beast - mae'n debyg fod ymroddiad Evan at ddefodau'r ocwlt wedi ofni hyd yn oed ef!

Trodd Evan un o'r ystafelloedd yn Nhŷ Tredegar yn 'stafell magik', lle roedd yn cynnal Offerennau Duon (black masses).

Ymwelodd Crowley ag Evan nifer o weithiau yn y plasty, ac roedd e'n cymryd rhan yn y defodau hyn gydag ef.

Rhoddodd Crowley'r teitlau The Adept of Adepts a'r Black Monk i Evan am ei ddoniau goruwchnaturiol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Evan yn gweithio i MI8, adran o Wasanaethau Cudd-Ymchwil y Fyddin Brydeinig oedd yn casglu cudd-wybodaeth signalau.

Swydd Evan oedd ceisio canfod negeseuon cyfrinachol y Natsïaid.

Fel rhan o'i waith yn ystod y rhyfel, treuliodd Evan lawer o amser yn creu cynllun i ollwng cannoedd o golomennod dychwel (homing pigeons) o awyren er mwyn danfon negeseuon cudd i filwyr Prydeinig dramor.

Yn anffodus, bu'r ymgyrch yn fethiant llwyr, ac yn destun embaras i Evan.

Ond fe ddaeth moment mwyaf trychinebus ei yrfa ym maes cudd-ymchwil pan ddatgelodd gyfrinachau rhyfel wrth ddwy girl guide oedd yn ymweld â'i swyddfa un dydd.

Yn sgil hynny, cafodd Evan ei ddwyn o flaen llys marsial, gan dreulio cyfnod yn Nhŵr Llundain am ei esgeulustod.

Dyn
Disgrifiad o’r llun,

Maxwell Knight - spymaster MI5 a ffrind i Evan Morgan

Gallai Evan fod wedi wynebu cyfnod hir yn y carchar neu gael ei ddienyddio, ond fe gafodd ei achub o ganlyniad i'w gysylltiadau gydag asiantaeth MI5.

Un o'r rhain oedd Maxwell Knight, un o gyn-benaethiaid MI5 a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gymeriad enwog M yn y nofelau James Bond.

PartiFfynhonnell y llun, National Trust Images
Disgrifiad o’r llun,

Evan a'i ail wraig (dde), y Dywysoges Olga, a gwesteion yn Nhŷ Tredegar

Priododd Evan ei wraig gyntaf, yr actores Lois Sturt, yn 1928. Hi oedd seren y ffilm The Glorious Adventure, y ffilm liw Brydeinig gyntaf.

Bu farw hithau'n sydyn yn 1937 o drawiad ar y galon.

Yn 1939, priododd Evan ei ail wraig, y dywysoges Olga Dolgorouky o Rwsia, cyn ysgaru yn 1943.

Bu farw Evan Morgan ar 27 Ebrill 1949 yn 55 oed, yn ddi-blant.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig