Merched mewn bandiau yn dal i deimlo 'ofn go iawn'

ChromaFfynhonnell y llun, Cowshed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie Hall wedi bod yn rhannu rhai o'i phrofiadau personol hi o gasineb at ferched

  • Cyhoeddwyd

Mae prif leisydd y band roc, Chroma yn galw am wneud mwy i fynd i'r afael â'r hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel casineb parhaus tuag at fenywod yn y diwydiant cerddoriaeth.

Daw sylwadau Katie Hall wrth i'r band baratoi i rannu llwyfan gyda Foo Fighters ar eu taith o amgylch y byd.

Fe soniodd am un achos lle yr oedd dyn dieithr wedi dweud wrth aelodau gwrywaidd y band ei fod "am gael rhyw" gyda hi.

Roedd y band yn siarad fel rhan o ymgyrch 'Iawn' Llywodraeth Cymru, sy'n annog dynion ifanc i helpu dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Mae diogelwch merched yn bwnc sydd yn agos at galon y band o ardal Rhondda Cynon Taf, a'r llynedd fe wnaethon nhw ryddhau albwm o'r enw 'Ask for Angela' - enw a ddaeth o ymgyrch sy'n cael ei weithredu i gefnogi merched mewn bariau, clybiau a busnesau trwyddedig ar hyd y Deyrnas Unedig.

Mae'r ymgyrch yn annog pobl sy'n teimlo dan fygythiad i fynd at aelod o staff a gofyn am 'Angela', er mwyn rhoi gwybod eu bod angen cymorth.

“’Nes i weld poster yr ymgyrch mewn toiled a 'nes i feddwl ei fod yn ddiddorol achos mae’n cydnabod bod dal risgiau i bawb, hyd yn oed yn yr oes fodern,” meddai Katie.

“Fel menyw, mae’r ofn yn un go iawn. Bob tro dwi’n cerdded adref o dŷ ffrind sydd dim ond lawr y ffordd, maen nhw’n poeni ac yn dweud wrtha’ i decstio pan dwi’n cyrraedd.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Chroma yn cefnogi Foo Fighters yng Nghae Criced Old Trafford, Manceinion

Fe gyfeiriodd Katie at un digwyddiad penodol pan yr oedd dyn, nad oedd hi'n ei adnabod, wedi dweud wrth aelodau eraill y band ei fod am gael rhyw gyda hi.

"’Nath y dyn ‘ma ddod lan i’r ddau ohonoch chi (Zac a Liam) a dweud, ‘dwi’n mynd i gael rhyw gyda Katie ar ôl y sioe," meddai.

"Daeth y bois lan ata i a dweud ‘Katie, paid â mynd yn agos at y dyn ‘na.’

"Dwi’n gwybod bydd y bois wastad yn gofalu amdana i 100%, ond mae e dal yn anghredadwy.”

Fe fydd Chroma yn cefnogi Foo Fighters ar eu taith ryngwladol ym Manceinion ar 13 Mehefin, rhywbeth y mae Katie wedi ei ddisgrifio fel "breuddwyd".

Bydd y band byd enwog o America yn perfformio mewn sawl dinas yn y DU eleni, gan gynnwys yng Nghaerdydd, a bydd 70% o'r artistiaid sy'n eu cefnogi yn artistiaid benywaidd unigol neu yn fandiau sydd â phrif leisydd sy’n fenyw.

'Pwysig cael y sgyrsiau anodd'

Yn ôl aelodau eraill Chroma, y chwaraewr bas Liam Bevan a'r drymiwr Zac Mather, mae gan ddynion yn y diwydiant cerddoriaeth gyfrifoldeb i beidio goddef casineb a cham-driniaeth yn erbyn menywod.

“Mae e i wneud gyda gwybod sut allwn ni fel dynion wneud yn well i ymateb i unigolion pan maen nhw’n dweud rhywbeth sy’ ddim yn swnio’n iawn,” meddai Zac.

“Mae’n bwysig i gael y sgyrsiau anodd yna gyda dynion heb deimlo dy fod yn rhoi dy hunan mewn sefyllfa beryglus ble gallan nhw fod yn dreisgar neu ddiystyrru'r hyn ti’n dweud.”

Ychwanegodd Liam: "Ers i ni sefydlu, ry’n ni wedi cael lot o sgyrsiau. Mae ‘na bethau dwi erioed wedi meddwl ddwywaith amdanyn nhw fel dyn.

“Dim ond pan ti yn yr amgylcheddau yna eto, mae gen ti ongl newydd ar beth all fod yn digwydd o dy gwmpas efallai na fydde ti wedi’i sylwi arnyn nhw o’r blaen.”

Mae Katie hefyd o'r farn mai cael dynion i herio ymddygiad gwael dynion eraill yw'r unig ffordd y gall pethau newid.

"Mae’n bwysig i leisio’r pethe ‘ma achos efallai byddai’r person yna ddim yn ymwybodol o’r darlun ehangach neu’n ymwybodol eu bod nhw’n ei wneud e.”