Dydd Dylan: 5 peth difyr am Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae'r darn yma'n addas i siaradwyr newydd.
Mae'n Ddydd Dylan ar 14 Mai. Mae'n gyfle i ddathlu bywyd a gwaith y bardd enwog Dylan Thomas.
Ar 14 Mai 1953, cafodd ei ddrama Under Milk Wood ei pherfformio am y tro cyntaf yn Efrog Newydd.
Dyma bum peth difyr am Dylan Thomas.
Cafodd ei fagu yn Abertawe
Cafodd Dylan Thomas ei eni yn Abertawe ar 27 Hydref 1914.
Roedd ei dad, David John Thomas yn athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe a'i fam, Florence Hannah Williams yn gwnïo dillad cyn iddi briodi.
Pan oedd yn blentyn roedd Dylan yn treulio’r haf ar fferm ei fodryb yn Sir Gaerfyrddin. Dyma wnaeth ei ysbrydoli i ysgrifennu ei gerdd Fern Hill.
Dechreuodd Dylan farddoni yn ei lyfr nodiadau pan oedd yn yr ysgol. Fe ysgrifennodd y rhan fwyaf o’i farddoniaeth pan oedd yn ei arddegau.
Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio fel newyddiadurwr i’r South Wales Evening Post. Symudodd Dylan Thomas i Lundain ym 1934 ac fe gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, sef Eighteen Poems.
Mae dylanwad y Gymraeg ar ei waith
Doedd Dylan ddim yn siarad Cymraeg gartref. Roedd ei rieni yn siarad Saesneg pan oedd yn tyfu i fyny.
Ond roedd yn deall Cymraeg ac mae rhai’n meddwl bod yr iaith Gymraeg yn ddylanwad mawr ar ei farddoniaeth.
Meddyliwch am y llinell yma o’i gerdd Vision and Prayer:
To the burn and turn of time
Mae’r llinell yn cynnwys odl fewnol a chyflythrennu. Yn ôl rhai, dyma ddylanwad y gynghanedd ar ei waith.
Bob blwyddyn bydd bardd yn ennill cadair am ysgrifennu cerdd mewn cynghanedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017
Roedd yn barddoni yn ei sied
Roedd Dylan yn byw yn y Boathouse yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin o 1949-1953.
Roedd Dylan a’i wraig Caitlin wrth eu bodd gyda’r lle.
Fe wnaeth droi’r sied wrth ymyl y tŷ yn stiwdio iddo ysgrifennu.
Roedd o’n yfed yn nhafarn y pentref sef y Brown’s Hotel.
Gorffennodd ysgrifennu ei ddrama 'Under Milk Wood' yn 1953, yn fuan cyn iddo farw.
Mae’n bosib ei fod wedi ysgrifennu llawer o’r ddrama yn ei sied yn Nhalacharn.
Heddiw, mae’r Boat House yn amgueddfa am hanes Dylan Thomas.
Fe yfodd 18 wisgi cyn marw
Roedd Dylan yn mynd ar deithiau i America i ddarllen ei farddoniaeth.
Roedd yn mynd i Efrog Newydd yn aml. Yno byddai’n yfed yn nhafarn The White Horse Tavern. Dyma un o dafarndai hynaf Efrog Newyd.
Yn ystod ei ddyddiau olaf, aeth Dylan i The White Horse Tavern lle dywedodd ei fod wedi torri record ar ôl yfed 18 wisgi.
Aeth yn ôl i’w ystafell yn The Chelsea Hotel. Rai dyddiau wedyn, roedd o yn yr ysbyty lle wnaeth o farw ar 9 Tachwedd 1953. Roedd o’n 39 mlwydd oed.
Rhai o'i ffans yw Taylor Swift a Band Pres Llareggub
Mae Dylan yn dal i ysbrydoli beirdd, cantorion ac artistiaid.
Mae Taylor Swift yn ei enwi yn ei chân newydd The Tortured Poets Department:
'You're not Dylan Thomas. I'm not Patti Smith. This ain't the Chelsea Hotel. We're modern idiots.'
Flynyddoedd yn ôl, newidiodd y canwr Bob Dylan ei gyfenw ar ôl darllen cerddi Dylan Thomas.
Roedd llun o Dylan ar lun albwm The Beatles o 1967, Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band.
Ydych chi’n licio Band Pres Llareggub? Wel, y pentref dychmygol yn Under Milk Wood yw Llareggub.
Dydd Dylan hapus i chi.
Geirfa
dathlu/celebrate
Efrog Newydd/New York
difyr/interesting
gwnïo/to sew
priodi/marry
treulio/to spend (time)
modryb/auntt
ysbrydoli/inspire
llyfr nodiadau/note book
barddoni/to write poetry
arddegau/teenage years
cerdd/poem
barddoniaeth/poetry
newyddiadurwr/journalist
cyhoeddodd/published
dylanwad/influene
odl fewnol/internal rhyme
cyflythrennu/alliteration
cynghanedd/a strict Welsh metre used to write poetry
amgueddfa/museum
hynaf/oldest
wisgi/whiskey
beirdd/poets
cantorion/singers
cyfenw/sirname
dychmygol/imaginary
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd9 Mai