Pam fod Gething yn cefnu ar bolisïau Drakeford?

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cyhoeddiad bod newidiadau posib i’r flwyddyn ysgol yn cael eu gosod ar y silff yn dilyn patrwm cyfarwydd.

Ers i Vaughan Gething gymryd yr awenau fel Prif Weinidog Cymru ym mis Mawrth mae polisïau eraill wedi eu gohirio.

Mae newidiadau i’r system daliadau i ffermwyr, a arweiniodd at brotestiadau mawr, wedi eu hoedi tan 2026 – blwyddyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.

Mae diwygio treth y cyngor yn bolisi mawr arall mae gweinidogion wedi penderfynu ei adael i’r llywodraeth nesaf.

Addasu polisïau

Mae yna farc cwestiwn hefyd dros gynlluniau i gyflwyno rheolau fyddai’n sicrhau bod o leiaf hanner yr ymgeiswyr mewn etholiadau i Senedd Cymru’n fenywod.

Mae polisïau eraill wedi eu haddasu, gyda newidiadau ar droed i’r polisi 20mya.

Ac mae’r llywodraeth wedi newid ei rheolau ynghylch difa gwartheg beichiog sydd â TB.

Gyda’i gilydd, mae yna beryg y gallai’r penderfyniadau hyn roi’r argraff bod y llywodraeth yn amharod neu’n ofn gwneud penderfyniadau anodd neu amhoblogaidd.

Ac wedi’r cyfan, dyma lywodraeth a phrif weinidog sy’n barod o dan bwysau mawr.

Mae Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher ar ôl iddo dderbyn rhoddion dadleuol i’w ymgyrch arweinyddiaeth.

Does dim mwyafrif ganddo ym Mae Caerdydd ychwaith, ac mae ei sefyllfa’n wannach ers i Blaid Cymru ddymchwel y cytundeb cydweithio oedd gan y blaid gyda Llafur yn y Senedd.

Mae’n werth nodi fodd bynnag bod y penderfyniad i oedi’r diwygiadau i dreth y cyngor yn un o’r rhesymau a roddodd arweinydd Plaid Cymru dros ddod â’r cytundeb i ben.

Byddai Llywodraeth Cymru’n dadlau bod y penderfyniadau yma’n dangos ei bod yn gwrando ac eisiau ymgynghori’n drylwyr cyn gweithredu.

Byddai cefnogwyr Mr Gething yn awgrymu hefyd ei fod yn cyflawni ei addewid pan gafodd ei benodi i ganolbwyntio “ar beth sydd bwysicaf i fywyd dyddiol pobl”.

Serch hynny, beth bynnag fo’r rheswm dros ddilyn y trywydd yma, mae yna beryg bod penderfyniadau’r llywodraeth yn tanseilio’r holl waith wnaeth gweinidogion blaenorol o dan arweinyddiaeth rhagflaenydd Mr Gething, Mark Drakeford.

Tybed beth mae e’n ei feddwl wrth wylio’r cyfan nawr o feinciau cefn Llafur.