Cwynion bod bws o'r Felinheli yn 'afresymol o ddrud'

BwsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae tocyn dychwelyd ar y gwasanaeth bws 5C yn costio £5.10 i oedolion a £3.40 i blant

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion Y Felinheli yng Ngwynedd yn cwyno bod tocyn dychwelyd ar fws o'r pentref i Fangor neu Gaernarfon yn "afresymol o ddrud" ac annheg.

Gwasanaeth bws 5C o Gaernarfon i Landudno gan gwmni bysiau Arriva yw'r unig wasanaeth rheolaidd sy'n teithio trwy'r pentref.

Mae tocyn dychwelyd dyddiol yn costio £5.10 i oedolion a £3.40 i blant.

Roedd un a ddefnyddiodd y bws yn ddiweddar yn "gegrwth" o weld pris tri thocyn unffordd o un pen y pentref i'r llall, ac y byddai "tacsi wedi bod tua hanner y pris".

Mae cwmni bysiau Arriva yn dweud bod Tocyn Dyddiol Menai "yn galluogi cwsmeriaid i wneud teithiau diderfyn ar y bws o fewn ardal Menai, sy'n cynnwys Ynys Môn, Caernarfon, Bangor, Bethesda a Llanfairfechan".

'Gwasanaeth hanfodol'

Mae cadeirydd Cyngor Cymuned Y Felinheli, Eifion Williams yn dweud bod y "5C yn wasanaeth hanfodol i drigolion y Felinheli, yn enwedig y rhai sydd heb gar".

"Ond mae'r gost o £5.10 am siwrne ddychwelyd o Felin i Gaernarfon yn afresymol o ddrud," meddai.

Mae hefyd teimlad nad ydy'r gost yn deg mewn cymhariaeth â chostau teithio i Gaernarfon o bentrefi eraill yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Emyr Gareth: "Mae'n debyg fod cost tocyn dychwelyd o Lanrug i Gaernarfon - taith sydd hefyd tua phedair milltir - yn costio dim ond £2.70, tra bod Llanberis i Gaernarfon, sy'n wyth milltir o daith, yn costio £3.00.

"Sut all hyn fod yn deg?!"

Emyr GarethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Gareth o Gyngor Cymuned Felinheli yn dweud ei fod yn poeni fod y pris yn "rhoi pobl i ffwrdd o ddefnyddio bysau"

Yn siarad â Cymru Fyw, dywedodd Mr Gareth ei fod yn teimlo fod "cost y bws yn eithriadol o ddrud o Felin mewn cymhariaeth ag unrhyw le arall 'da ni 'di gallu ffeindio yn lleol".

"Poeni yda ni fod o'n rhoi pobl i ffwrdd o ddefnyddio bysau."

Dywedodd fod pobl yr ardal yn "rhwystredig", a bod y sefyllfa yn "iawn i bensiynwyr sy'n cael y daith am ddim, ond i bawb arall yn amlwg mae'n golygu bod y gwasanaeth bysus ddim yn ddefnyddiol".

Ychwanegodd ei bod yn rhatach i ddefnyddio car na mynd ar y bws - sydd yn waeth i'r amgylchedd - gan ddweud nad yw'n "apelgar na fforddiadwy".

"Mae'n 'neud i rywun feddwl dwywaith cyn defnyddio fo," meddai.

Elliw WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elliw Williams - yma gyda'i merch, Nel - yn dweud y bydd yn "meddwl ddwywaith cyn cymryd y bws eto"

Mae Elliw Williams yn byw yn Y Felinheli ac fe ddefnyddiodd hi'r gwasanaeth bws hwn yn ddiweddar, ond mae'n dweud na wnaiff hi eto am sbel.

Fe gafodd sioc am bris tri thocyn unffordd o un pen y pentref i'r llall.

Roedd hi yn y parc gyda'i merch chwech oed, Nel, a'i ffrind, ac ar ôl gwrando ar dipyn o gwyno am yr allt oedd i'w ddringo yn ôl adref, dyma Elliw yn penderfynu teithio rhan o'r siwrne ar y bws.

"Mae 'na gryn dipyn o allt, felly be wnawn ni ydy cael bws o'r siop i Cerrig yr Afon, sydd pen arall Felinheli," meddai.

"Dwi ddim yn siŵr os ydy o cweit yn filltir, ond roedd o'n £5.50 i'r tair ohonan ni! O'n i'n gegrwth!

"Roedd o'n £1.50 yr un iddyn nhw a £2.50 i fi.

"O ran defnyddio'r bws fel alternative i unrhyw beth, byddai tacsi wedi bod tua hanner y pris i fi!"

BwsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwasanaeth bws 5C Arriva yw'r unig wasanaeth rheolaidd sy'n teithio trwy'r Felinheli

Y gwasanaeth 5C yw'r unig wasanaeth bws o'r Felinheli i Fangor neu Gaernarfon, felly does dim dewis gan bobl ond defnyddio hwn os am fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae cyngor y pentref yn bryderus y bydd y gost yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd pobl yn osgoi'r bws ac yn gwneud y daith mewn car - rhywbeth fyddai'n mynd yn groes i darged Llywodraeth Cymru o sicrhau fod 45% o siwrneiau yn cael eu gwneud trwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040.

'64c y filltir'

Yn ôl llefarydd o gwmni Arriva: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu atebion trafnidiaeth gynaliadwy ac yn credu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig dewis amgen mwy fforddiadwy ac ecogyfeillgar yn lle gyrru.

"Ar gyfer y daith benodol rhwng Y Felinheli a Chaernarfon, mae'r pellter tua phedair milltir bob ffordd.

"Felly, byddai taith ddwyffordd yn costio tua 64c y filltir.

"Yn ogystal, rydym yn cynnig opsiynau teithio tymor hwy sy'n fwy cost effeithiol.

"Er enghraifft, dim ond £2.70 y dydd yw tocyn wythnosol parth Menai ar gyfer teithio anghyfyngedig, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig arbedion sylweddol o gymharu â chost tocynnau sengl a dydd."

Pynciau cysylltiedig