URC yn penodi Dave Reddin yn gyfarwyddwr rygbi

Dave ReddinFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dave Reddin wedi gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, Team GB a thimau rygbi Lloegr yn y gorffennol

  • Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai Dave Reddin fydd cyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elît yr undeb.

Roedd URC wedi bod yn chwilio am rywun i fod yn gyfrifol am brif dimau'r dynion a'r merched yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y cyfarwyddwr gweithredol Nigel Walker yn Rhagfyr 2024.

Mae Reddin wedi gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, Team GB a thimau rygbi Lloegr yn y gorffennol.

Un o'i gyfrifoldebau cyntaf fydd penodi prif hyfforddwr newydd i olynu Warren Gatland, a adawodd yn ystod ymgyrch y Chwe Gwlad eleni.

Y gred yw mai Steve Tandy - Cymro sydd ar hyn o bryd yn hyfforddwr amddiffyn gyda'r Alban - yw'r ffefryn ar gyfer y swydd honno.

Mae tîm dynion Cymru ar eu rhediad gwaethaf erioed o bell ffordd, wedi colli 17 gêm brawf yn olynol.

Dwy gêm oddi cartref yn erbyn Japan sy'n eu hwynebu nesaf ym mis Gorffennaf.

Mae tîm y merched wedi colli eu pedair gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni, ac maen nhw angen buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal ddydd Sul os am osgoi'r llwy bren.

Ond mae'r sefyllfa o ran prif hyfforddwr yn fwy sefydlog i'r merched, gyda Sean Lynn - sy'n cael ei ystyried ymysg y goreuon yn y gamp - wedi cymryd y rôl fis Mawrth.

Gareth Southgate a Dave ReddinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dave Reddin yn gweithio gyda thîm dynion Lloegr yng nghyfnod Gareth Southgate wrth y llyw

Dywedodd Reddin ei fod "wrth fy modd fy mod yn ymuno â rygbi Cymru ar gyfnod mor allweddol."

"Mae'n fraint cael fy mhenodi i un o swyddi pwysicaf y byd rygbi a hynny mewn gwlad sydd â hanes mor gyfoethog ac angerddol yng nghyd-destun y gamp.

"Wrth gwrs bod heriau sylweddol o'n blaenau ond 'rwy'n cael fy ysbrydoli gan weledigaeth a strategaeth Abi [Tierney] a'i thîm.

Bydd yn dechrau ei waith gyda URC o fis Gorffennaf ymlaen, ac yn rhan o benodi prif hyfforddwr newydd, cyn mynd yn llawn amser o 1 Medi.

"Fy nyletswydd cyntaf fydd canolbwyntio ar benodi prif hyfforddwr newydd tîm y dynion gan hefyd drwytho fy hun cyn gynted ag sy'n bosib yn niwylliant y gamp yma yng Nghymru.

"Bydd hynny'n fy ngalluogi i wneud y newidiadau cadarnhaol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol."

Bydd yn gweithio gyda phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, a ddywedodd bod penodiad Reddin yn "newyddion gwych".

Pwy ydy Dave Reddin?

Fe ddechreuodd Reddin ei yrfa rygbi fel hyfforddwr ffitrwydd gyda Chaerlŷr ym 1996.

Ef oedd arbenigwr ffitrwydd yr undeb rygbi yn Lloegr rhwng 1997 a 2006 - cyfnod a welodd Lloegr yn ennill Cwpan y Byd yn 2003.

Roedd hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Clive Woodward ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2005.

Yna, bu'n gyfarwyddwr perfformiad gyda Team GB yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, cyn ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Lloegr fel pennaeth gwasanaethau perfformiad yn 2014.

Bu'n gweithio gyda thîm dynion Lloegr yng nghyfnod Gareth Southgate wrth y llyw, cyn iddo adael yn 2019 i gyd-sefydlu asiantaeth Pitch32 - sy''n gweithio gyda buddsoddwyr i drawsnewid perfformiad sefydliadau, ar ac oddi ar y cae.

Yn fwy diweddar mae Reddin wedi bod yn gweithio gyda UK Sport yn helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer dyfodol campau Olympaidd.