Galw am fwy o ymwybyddiaeth am brentisiaethau i ferched

- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am wneud mwy i addysgu pobl ifanc am y cyfleoedd sydd ar gael o ran prentisiaethau - yn enwedig gyda merched.
Yn ôl dynes ifanc o Sir Ddinbych sydd bellach yn brentis, bechgyn sy'n cael eu targedu, a doedd neb wedi sôn bod prentisiaethau ar gael i ferched pan roedd hi yn yr ysgol.
Daw ar ôl i un o bwyllgorau'r Senedd ddweud bod yn "rhaid i ysgolion, colegau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i gyflwyno prentisiaethau fel dechrau cryf i yrfa".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod prentisiaethau yn cael eu hyrwyddo trwy ymgyrchoedd marchnata, a bod eu cyllid ar gyfer prentisiaethau wedi cynyddu.
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
Mae Pwyllgor Economi'r Senedd yn credu y bydd yn haws ennill bywoliaeth, a gwella sgiliau os ydy Llywodraeth Cymru'n codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau.
Fe ddywedon nhw hefyd, drwy annog pobl i wneud prentisiaethau, bydd yn "creu gweithlu mwy cynhyrchiol a rhoi hwb i'r economi".
Ymhlith argymhellion y pwyllgor i'r llywodraeth mae galw am:
ymgysylltu gwell a hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr addysg hyfyw i fyfyrwyr;
datrys rhwystrau o ran recriwtio a chadw aseswyr a hyfforddwyr prentisiaethau;
ymchwilio i godiadau i dalu am brentisiaethau fel rhan o'r agenda gwaith teg.

"Hwn 'di'r peth gorau dwi 'di 'neud o ran gyrfa - ti'n dysgu fel ti'n 'neud arian," meddai Katie Dolben
Doedd Katie Dolben, 22 oed o ardal Rhewl ger Rhuthun, ddim yn mwynhau ei swydd ar ôl graddio, felly fe ddechreuodd hi gwrs prentisiaeth fis Medi y llynedd ym maes mesur meintiau (quantity surveying) i gwmni peirianneg sifil Jones Bros.
"Dwi'n falch bod fi'n 'neud o. Hwn 'di'r peth gorau dwi 'di 'neud o ran gyrfa - ti'n dysgu fel ti'n 'neud arian," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"O'n i angen cael fy ngradd achos doeddwn i ddim yn gwybod be o'n i isio 'neud, ond os o'n i'n gwybod trwy'r ysgol bod prentisiaethau yn 'wbeth 'swn i'n gallu 'neud, 'swn i probably wedi dewis 'neud un cyn mynd i brifysgol."
Ychwanegodd: "O'n i ddim yn gwybod fod o'n beth i ferched rili. Oedd o jest yn cael ei hybu i hogia'.
"Dwnim os mae hynny'n wir i bawb, ond fel 'na oedd o'n teimlo'n ysgol fi - dwi'n hybu prentisiaethau i bob un person ifanc rŵan."
Dywedodd Katie na ddylai'r cyfrifoldeb i gyd ddisgyn ar fyfyrwyr i ymchwilio i brentisiaethau, ac mae'n credu y dylai cyflogwyr ac ysgolion gydweithio mwy i godi ymwybyddiaeth am y cyfleoedd sydd ar gael.

"Dwi wedi bod yn brentis am flwyddyn ac mae'n anhygoel," meddai Erin Baxter
Mae Erin Baxter, 19 oed o ardal Mostyn, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd ac yn gwneud cwrs prentisiaeth ym maes peirianneg sifil.
Roedd hi wedi gwneud TGAU a Safon Uwch ac wedi cael lle ym Mhrifysgol Loughborough i astudio peirianneg sifil ym mis Medi.
Ond ar ôl i'r arholiadau ddod i ben wnaeth Cwmni Jones Bros gysylltu â'r ysgol, meddai Erin, gan ddweud bod ganddyn nhw gyfleoedd am brentisiaethau.
Fe wnaeth un o'r athrawon rannu'r ebost gyda'r disgyblion ac fe aeth Erin amdani a chael lle.
"Dwi wedi bod yn brentis am flwyddyn ac mae'n anhygoel," meddai ar Dros Frecwast.
"Dwi'n meddwl dwi'n cael mwy allan ohono fo na be' 'swn i'n cael o brifysgol oherwydd dwi'n dysgu, mae gen i swydd, mae gen i gyflog."
'Rhywbeth sy'n cael ei hybu i fechgyn'
Mae Erin yn dweud bod dim digon o ymwybyddiaeth am brentisiaethau yn gyffredinol.
"Mae'n rhywbeth efallai sy'n cael ei hybu i fechgyn neu i bobl sydd isio bod allan o'r ysgol yn syth ar ôl TGAU," meddai.
"Does 'na ddim digon o ymwybyddiaeth am y mathau gwahanol o brentisiaethau sydd ar gael.
"'Di nhw ddim jest mewn peirianneg a phethau fel 'na - mae 'na gymaint o brentisiaethau mewn swyddi gwahanol ac os oes gennych chi syniad am be 'da chi isio 'neud yn y dyfodol, mae'n werth mynd amdani."

"Be' sy'n bwysig ydi bod y llywodraeth yn gwneud rhywbeth amdan hyn," meddai Emily Roberts
Mae Emily Roberts yn rheolwr cymuned a sgiliau i barc gwyddoniaeth M-Sparc ar Ynys Môn.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd bod prentisiaethau gradd yn gyfle i bobl astudio am ddim ac ennill cyflog wrth weithio mewn swydd am dair blynedd.
Er ei fod yn "gyfle gwych", dywedodd fod y niferoedd wedi bod yn isel y blynyddoedd diwethaf.
"Mae 'na lot o resymau am hyn. Mae'r ysgolion a'r colegau yn cael arian am gael disgyblion i mewn.
"Os mae incentive i gadw pobl, pam fyddech chi'n dweud wrthyn nhw am gyfleoedd sy'n digwydd tu allan i'r ysgol neu'r brifysgol?
"Felly mae'r adroddiad yma'n amserol iawn.
"Mae'r argymhellion a be' mae'n gynnig yn dda iawn, ond be' sy'n bwysig ydi bod y llywodraeth yn gwneud rhywbeth amdan hyn ac yn helpu hefo'r cyfleoedd fel bod pobl ifanc yn ymwybodol - ac mae'n bwysig bod hynny ddim yn effeithio ar ysgolion a cholegau."
'Trawsnewid mawr'
Ychwanegodd Emily: "Mae 'na drawsnewid mawr am fod hefo sut mae pobl yn ymdopi ag addysg, a dydi'r llwybr 'da ni'n cael ein bwydo yn yr ysgol o fynd i addysg ac wedyn i'r brifysgol ddim mor glir ddim mwy.
"Ella bod hynny'n beth da achos mae pobl yn licio dysgu mewn ffyrdd gwahanol a gweithio mewn ffyrdd gwahanol.
"Mae'r cyfleoedd yna am ddod yn fwy amlwg, ond y neges a'r marchnata 'na sy'n mynd i fod yn un anodd i'r ysgolion ond hefyd i'r cyflogwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried adroddiad ac argymhellion y pwyllgor ac ymateb maes o law.
"Mae prentisiaethau yn cael eu hyrwyddo drwy ein hymgyrchoedd marchnata blynyddol a thrwy sefydliadau amrywiol gan gynnwys cyflogwyr, darparwyr dan gontract, colegau a Gyrfa Cymru sydd wedi'u cysylltu â phob ysgol uwchradd ledled Cymru ac sy'n cynnig arweiniad gyrfaoedd i bob person ifanc cyn iddynt adael yr ysgol.
"Mae ein cyllid craidd ar gyfer prentisiaethau wedi codi o £97m y flwyddyn yn 2020 i £144m y flwyddyn yn y gyllideb ddiweddaraf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.