Hwyliau Melin Llynon yn troi unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae hwyliau Melin Llynon wedi dechrau troi eto a Lloyd Jones y melinydd yw’r dyn sy’n gyfrifol am hynny.
Mae Lloyd yn gweithio gyda’r pobydd Richard Holt sy’n rhedeg busnes Melin Llynon ar Ynys Môn.
Gwrandewch ar sgwrs Lloyd Jones ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru.
Roedd Lloyd yn gweithio yn y felin rhwng 1999 a 2016.
Ond nid yw’r felin wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd ac mi gollodd Lloyd ei waith fel melinydd yn 2016.
Mae Lloyd yn falch iawn i fod yn ôl yn gweithio yno.
Meddai: “Mae’n odidog i weld hi’n troi eto.
“Mae’n braf bod yn ôl. Dwi’n hogyn o Landdeusant a dwi’n rhan o Landdeusant.
“Dwi wedi dod nôl i redeg y felin. O’n i yma am 15 mlynedd yn gweithio.
“Ges i fy nysgu gan y melinwr wnaeth drwsio'r felin yn 1974. Nhw wnaeth ddysgu’r grefft i fi.”
Cafodd Melin Llynon ei adeiladu yn Llanddeusant yn 1775 er mwyn cynhyrchu blawd.
Hi yw’r unig felin wynt sydd dal i weithio yng Nghymru heddiw.
Y gobaith yw i gynhyrchu blawd sydd ddigon da i fwyta. Bydd Lloyd yn troi hwyliau'r felin bob penwythnos, pan mae'r tywydd yn dda.
Yn y gorffennol roedd dros 50 o felinau ar Ynys Môn. Roedd y melinau yn gallu cynhyrchu digon o flawd i fwydo Cymru i gyd.
Roedd Melin Llynon yn cynhyrchu rhwng tri a chwech tunnell y flwyddyn o flawd. Roedd y blawd yn cael ei werthu.
Meddai Lloyd: “Mae o yn gyfrifoldeb mawr... edrych ar ei hôl hi a bod yn ofalus efo hi. Hon ydy’r unig un yng Nghymru sydd dal i droi.”
hwyliau/blades
melin/mill
melinydd/miller
cyfrifol/responsible
pobydd/baker
(g)odidog/splendid
trwsio/repair
crefft/craft
cynhyrchu/producing
blawd/flour
gorffennol/past
tunnell/ton
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd21 Mai 2024