Cyn-weinidog addysg yn wynebu colli ei swydd ym Mhrifysgol Caerdydd

Leighton Andrews oedd yn gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Cymru rhwng 2009 a 2013
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog addysg Cymru wedi sôn am ei ddicter wrth i'w swydd yn darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd ddod dan fygythiad.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y brifysgol ei bod yn bwriadu torri 400 o swyddi a rhoi'r gorau i ddysgu pynciau gan gynnwys cerddoriaeth a nyrsio er mwyn mynd i'r afael â bwlch o £31m yn y gyllideb.
Dywedodd Leighton Andrews, sy'n athro yn Ysgol Busnes Caerdydd, fod staff wedi derbyn llythyrau yn rhybuddio bod eu swyddi yn y fantol.
Mae disgwyl i aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) ymgynnull y tu allan i'r Senedd ddydd Mawrth i brotestio'r cynigion ac i annog Llywodraeth Cymru i gamu i mewn i helpu cyllid prifysgolion.
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
Dywedodd yr Athro Andrews, a oedd yn gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Cymru rhwng 2009 a 2013: "Yn ddiamau, mae fy iechyd meddwl wedi cael ei niweidio gan gyhoeddiadau'r brifysgol a'r modd y maen nhw wedi gwneud hynny."
Fel gweinidog addysg fe wnaeth cyn-AS y Rhondda oruchwylio cyfnod o newid i brifysgolion pan rybuddiodd nhw i "addasu neu farw".
'Pawb yn flin'
Wrth ysgrifennu yn ei gylchlythyr 'Welcome to Ukania', sy'n ymdrin â materion am gyflwr y DU, dywedodd yr Athro Andrews, "nad oedd yn hawdd canolbwyntio ar ddysgu" ar ôl y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf.
"Byddaf yn sicr yn cydweithredu â chydweithwyr mewn ysgolion busnes ar y cyd ar hyn, ac eraill ar draws y brifysgol, ac yn ymuno mewn gweithredu undeb llafur swyddogol lle y gallaf," meddai.
Fe rybuddiodd yn erbyn canolbwyntio'r dicter at unigolion fel arweinwyr prifysgolion.
"Dwi'n flin, mae pawb yn flin, ond fe allwn ni fod yn sifil," meddai.

Cafodd cynnig o ddiswyddiad gwirfoddol rhwng Mehefin a Medi 2024 ei dderbyn a'i chymeradwyo ar gyfer 155 o staff
Mae'r brifysgol wedi dweud yn y gorffennol bod yn rhaid cymryd camau i fynd i'r afael â thwll du o £30m yn ei chyllideb gyda phwysau costau uwch a gostyngiad yn niferoedd myfyrwyr rhyngwladol yn effeithio ar y sector addysg uwch cyfan.
Cafodd cynnig o ddiswyddiad gwirfoddol rhwng Mehefin a Medi 2024 ei dderbyn a'i gymeradwyo ar gyfer 155 o staff, gyda'r ail rownd wedi cau.
Y brifysgol Russell Group yw'r mwyaf yng Nghymru, gyda 32,725 o fyfyrwyr yn 2023.