'Celwydd' galw Cymru yn wlad y gân ar ôl toriadau posib prifysgol

Geraint Cynan
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyhoeddiad y brifysgol yn rhan o batrwm ehangach o doriadau ym maes y celfyddydau yng Nghymru, meddai Geraint Cynan

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfeirio at Gymru fel 'gwlad y gân' yn "gelwydd" erbyn hyn, meddai cerddor blaenllaw wrth ymateb i doriadau posib ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ddydd Mawrth fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi eu bod yn bwriadu torri cannoedd o swyddi, ac yn ystyried cael gwared ar rai adrannau yn llwyr - gan gynnwys yr adran Gerddoriaeth.

Dywedodd Geraint Cynan fod yna "batrwm cyffredinol nawr o israddio a lleihau effaith y celfyddydau" yng Nghymru.

Pwysleisiodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd mai "cynigion sydd gerbron ar hyn o bryd a does dim penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud".

Yn ôl Prifysgol Caerdydd, maen nhw'n ystyried y newidiadau er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad.

Mae'r cynigion yn cynnwys cau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, uno adrannau eraill a thorri 400 o swyddi academaidd llawn amser.

Yn ogystal â cherddoriaeth, mae nyrsio, ieithoedd modern a chyfieithu, hanes yr henfyd a chrefydd a diwinyddiaeth ymhlith y pynciau fydd yn cael eu heffeithio.

Mae dros 9,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb sy'n galw am achub yr adran gerddoriaeth.

Izzy Hill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyhoeddiad yn "sioc fawr" i Izzy Hill, sy'n astudio cerddoriaeth yn y brifysgol

Mae rhai disgyblion ysgol a oedd yn bwriadu mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio wedi dweud eu bod yn bryderus iawn ynglŷn â'r dyfodol.

Ond mae rhai myfyrwyr presennol hefyd wedi eu synnu gan y cyhoeddiad.

Dywedodd Izzy Hill, sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio cerddoriaeth ar hyn o bryd: "Byddwn i'n graddio ar ddiwedd y cwrs, ond mae blwyddyn nesa yn mynd i edrych bach yn wahanol.

"Sai'n siŵr beth i ddisgwyl eto, ac mae'r staff yma yn yr adran gerddoriaeth yn ceisio ffigro mas be sy'n digwydd hefyd. Mae wedi bod yn sioc fawr i ni."

Lucas Palenek
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucas Palenek yn poeni y gallai prifysgolion eraill wneud penderfyniadau tebyg yn y dyfodol

Ychwanegodd Lucas Palenek, sydd hefyd yn astudio cerddoriaeth yn y brifysgol: "Ma' [Prifysgol] Bangor 'da ni, ond os yw un yn cau ma' fe'n rhoi shwt argraff i brifysgolion eraill.

"Beth ma' Bangor yn mynd i feddwl nawr? Beth maen nhw'n mynd i 'neud?"

'Patrwn o israddio'r celfyddydau'

Mae'r cerddor Geraint Cynan yn poeni mai dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau tebyg ym maes cerddoriaeth yng Nghymru.

"Mae hwn wedi dod ar gefn toriadau i gorws Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, ni'n sôn am y ffiasco sydd wedi digwydd gyda Neuadd Dewi Sant... y cynllun myfyrwyr ifanc yn y Coleg Cerdd a Drama [Caerdydd]," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ni'n sôn am batrwm cyffredinol yn fan hyn o israddio a lleihau effaith y celfyddydau

"Ydyn ni wir yn haeddu bod yn wlad y gân, a defnyddio'r teitl yna os nad ydyn ni'n fodlon ariannu pethau?

"'Wi ddim yn credu bo' ni, 'wi'n meddwl mai mater o gelwydd yw e mewn gwirionedd."

John Rea
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cyfansoddwr John Rea astudio yn yr adran gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Yn gyn-fyfyriwr yn y brifysgol, mae'r cyfansoddwr John Rea yn poeni am effaith colli'r adran gerddoriaeth ar fywyd diwylliannol Cymru gyfan.

"Pobl fel Karl Jenkins y dyfodol, Alun Hoddinott y dyfodol, enillydd fedal gyfansoddi yn yr Eisteddfod y llynedd - nath e raddio o Brifysgol Caerdydd," meddai.

"'Da ni'n colli rhywbeth gwerthfawr iawn. Mae'n hunaniaeth ni ynghlwm â cherddoriaeth, barddoniaeth a'r celfyddydau.

"'Da ni'n fyd enwog am wlad mor fach am ein hactorion, ein cerddorion a'n cyfansoddwyr. Ma'n golled fawr, ac yn ein prifddinas hefyd."

'Cynigion yn unig yw'r rhain'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd ei bod hi'n "bwysig pwysleisio mai cynigion yn unig yw'r rhain" ac "nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud".

"Fe fydd y brifysgol yn sicrhau y bydd pob myfyriwr yn gallu cwblhau eu hastudiaethau," meddai'r llefarydd.

"Os fydd unrhyw raglenni yn cau yn sgil y cynigion yma bydd cynlluniau'n cael eu datblygu er mwyn gwarchod a chefnogi myfyrwyr, gan sicrhau y bydd myfyrwyr yn parhau i gael profiad o'r safon uchaf.

"Byddwn ni'n ymgynghori gyda myfyrwyr a staff i drafod y cynlluniau hynny."