Cymeradwyo Delyth Evans yn gadeirydd S4C

Delyth EvansFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Delyth Evans ei holi gan y Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cymeradwyo Delyth Evans, fel yr ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth y DU, i fod yn gadeirydd S4C.

Daw'r gymeradwyaeth ar ôl i'r pwyllgor trawsbleidiol holi Ms Evans am y materion a fyddai'n flaenoriaeth iddi pe bai'n cael ei phenodi.

Yn y cyfweliad hwnnw ddydd Mercher dywedodd bod "angen trawsnewid S4C er mwyn darparu ar ran cynulleidfaoedd".

Fe wnaeth gydnabod nad oedd yn "gyfforddus gyda'r ffigyrau gwylio" ac mai "her yw arwain corff sydd wedi bod trwy amser anodd iawn".

Cafodd ei holi hefyd am berthnasedd ei phrofiad blaenorol a'i chynlluniau i ymateb i'r heriau sy'n wynebu S4C.

Yn eu hadroddiad ar benodiad Ms Evans, dywedodd y pwyllgor bod "dull a dealltwriaeth Delyth Evans wedi gwneud argraff," a'i bod wedi dangos ei bod yn ymgeisydd addas i gadeirio S4C.

Mae'r pwyllgor yn ychwanegu y byddan nhw'n gwahodd Ms Evans i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ar ddiwedd ei chwe mis cyntaf yn y swydd.

Byddai hynny, medden nhw, yn canolbwyntio ar "ymddiriedaeth a thryloywder, ysgogi gwelliannau mewn llywodraethu, a sicrhau cyllid hirdymor S4C y tu hwnt i 2028".

Mae Ms Evans yn gyn-wleidydd Llafur, wedi bod yn Aelod Cynulliad (Senedd bellach) dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru o 2000-2003.

Ers hynny mae hi wedi gweithio fel prif weithredwr elusen Smart Works, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru, yn llywodraethwr yng Ngholeg Gwent ac yn ymddiriedolwr gyda'r Urdd a'r Alacrity Foundation.

Ar un adeg roedd yn newyddiadurwr raglen materion cyfoes S4C - Y Byd ar Bedwar.

Bydd Ms Evans yn olynu'r cadeirydd dros dro Guto Bebb a'r cadeirydd parhaol diwethaf, Rhodri Williams.

Pynciau cysylltiedig