Delyth Evans yn cael ei ffafrio fel Cadeirydd S4C

Ar hyn o bryd mae Delyth Evans yn aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Delyth Evans wedi ei henwi fel yr ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fod yn Gadeirydd S4C.
Roedd Ms Evans yn newyddiadurwr cyn cael ei hethol yn Aelod Cynulliad - fel yr oedd bryd hynny - dros y Blaid Lafur yn 2000.
Ers hynny mae hi wedi gweithio fel prif weithredwr elusen Smart Works, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru, yn llywodraethwr yng Ngholeg Gwent ac yn ymddiriedolwr gyda'r Urdd a'r Alacrity Foundation.
Bydd Ms Evans yn ymddangos o flaen pwyllgor o ASau yn San Steffan ar 23 Ebrill er mwyn cael ei holi cyn y bydd modd cadarnhau'r penodiad.
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2024
Ddechrau 2024 cyhoeddodd Rhodri Williams na fyddai'n parhau yn rôl y cadeirydd yn dilyn cyfnod cythryblus i'r darlledwr.
Cafodd y cyn-AS Guto Bebb ei benodi dros dro, ond dywedodd yntau nad oedd eisiau'r swydd yn barhaol.
Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS), sy'n gyfrifol am benodiadau cyhoeddus y sianel.
Fe wnaeth gweinidogion gyhoeddi'r ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio yn dilyn panel asesu oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau Cymru a'r DU.
'Profiad helaeth'
Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy, bod "gweledigaeth [Ms Evans] am ddyfodol S4C yn dangos dealltwriaeth eang o'r cyfryngau a diwylliant yng Nghymru".
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, bod gan Ms Evans "record wych mewn darlledu a phrofiad helaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus".
Ym mis Ionawr, dechreuodd Geraint Evans yn ei swydd fel prif weithredwr y sianel, yn dilyn ymadawiad Sian Doyle.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu'r penodiad o ystyried bod Ms Evans yn gyn-wleidydd Llafur.
"Mae'r cyhoedd yn disgwyl didueddrwydd gan y wasg yng Nghymru, nid ailgylchu gwleidyddol", meddai Andrew RT Davies AS.
"Os yw'r wasg eisiau i bobl ymddiried ynddynt, mae angen rhoi stop ar y penodiadau cosy o Fae Caerdydd."
Dywedodd llefarydd ar ran y DCMS: "Cafodd y broses o benodi Cadeirydd newydd S4C ei rhedeg yn unol â Deddf Darlledu 1990 a'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus."