Methiant arweinyddiaeth wedi bod yn S4C - darpar gadeirydd y sianel

Fe wnaeth Delyth Evans addo "cyfnod newydd i S4C" os caiff ei phenodi'n gadeirydd
- Cyhoeddwyd
Mae "methiant arweinyddiaeth" wedi bod yn S4C, yn ôl yr ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fod yn gadeirydd nesaf y sianel.
Dywedodd Delyth Evans wrth bwyllgor o Aelodau Seneddol yn San Steffan ddydd Mercher bod "angen trawsnewid S4C er mwyn darparu ar ran cynulleidfaoedd".
Fe wnaeth gydnabod nad oedd yn "gyfforddus gyda'r ffigyrau gwylio" ac mai "her yw arwain corff sydd wedi bod trwy amser anodd iawn".
Yn 2023 roedd ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio gan aelodau o dîm rheoli S4C a chafodd dau uwch swyddog blaenllaw eu diswyddo.
Er nad yw ei phenodiad wedi'i gadarnhau eto, mae Ms Evans yn debygol o olynu Rhodri Williams, a gamodd i lawr fel cadeirydd parhaol y sianel y llynedd.
Amddiffyn annibyniaeth S4C
Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS), sy'n gyfrifol am benodiadau cyhoeddus y sianel.
Fe wnaeth gweinidogion gyhoeddi'r ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio yn dilyn panel asesu oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau Cymru a'r DU.
Dywedodd Ms Evans bod denu cynulleidfaoedd yn "her enfawr - wna i ddim smalio fy mod i'n gyfforddus gyda'r ffigyrau gwylio, dydw i ddim".
Pwysleisiodd yr angen i "sicrhau gwerth am arian", a dywedodd mai "cael S4C yn y lle iawn i ddarparu cynnwys y byddai pobl ifanc yn eu mwynhau yw un o'r heriau mwyaf".
Dywedodd mai ei gweithred gyntaf fyddai "sefydlu diwylliant y bwrdd [rheoli]".
Dywedodd hefyd "ei bod yn hynod bwysig bod gwleidyddion yng Nghaerdydd a San Steffan wedi bod yn gefnogol i'r iaith... ni allwn gymryd hynny'n ganiataol".
Ychwanegodd y byddai'n amddiffyn annibyniaeth S4C yn "gadarn".

Yn Ionawr 2024 dywedodd cadeirydd S4C ar y pryd, Rhodri Williams, bod S4C wedi cael y flwyddyn "anoddaf yn hanes y sianel"
Bu Ms Evans yn Aelod Cynulliad - fel yr oedd bryd hynny - dros y Blaid Lafur am gyfnod ac yn ddirprwy weinidog yn llywodraeth Lafur Cymru.
Pan ofynnwyd iddi sut y byddai'n ddiduedd fel cadeirydd S4C, atebodd bod didueddrwydd y cadeirydd a'r sefydliad "yn gwbl hanfodol i lwyddiant S4C".
"Mae darpariaeth S4C yn ddibynnol ar gefnogaeth trawsbleidiol," meddai.
"Byddwn i'n ffôl iawn pe bawn i'n bersonol yn tanseilio hynny mewn unrhyw ffordd."
Diolchodd i'r cadeirydd dros dro Guto Bebb ac i Sioned Wiliam, a fu'n brif weithredwr dros dro, am eu gwaith wrth roi arweinyddiaeth sefydlog i S4C wedi'r cyfnod cythryblus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2024