Sir Fynwy: Cystadlu brwd mewn etholaeth sy'n las ers 2005

Y FenniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gystadlu brwd yn etholaeth Sir Fynwy, sydd wedi'i chynrychioli gan y Ceidwadwyr ers 2005

  • Cyhoeddwyd

O gymharu ag etholiadau blaenorol, mae llawer llai o arwyddion gwleidyddol tu fas tai pobl ac ar ochr y ffyrdd y tro hwn, meddai Bethan Harrington.

Mae’n rhaid i fi gyfaddef, o’n i wedi meddwl yr un peth wrth i fi yrru lan i gwrdd â Bethan ac aelodau eraill Clwb Gwawr y Fenni yn etholaeth Sir Fynwy i glywed beth sy’n bwysig iddyn nhw yn yr etholiad hwn.

Safon gwasanaethau cyhoeddus, costau byw, glendid afonydd - yr un pynciau y clywch chi mewn bron pob ardal arall, oedd eu hateb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Harrington yn credu bod pobl wedi "colli ffydd" a bod angen "gonestrwydd ein gwleidyddiaeth ni"

“Beth arall sy’n bwysig i bobl yw gonestrwydd ein gwleidyddiaeth ni – a dwi’n credu bod pobl wedi colli ffydd,” meddai Bethan Harrington, sy’n aelod o Blaid Cymru ac yn gobeithio gweld newid wedi'r etholiad ar 4 Gorffennaf.

Ond peidiwch â chael eich twyllo gan brinder y posteri.

Mae 'na gystadlu brwd am yr etholaeth hon – etholaeth sydd wedi ei chynrychioli gan y Ceidwadwyr ers 2005.

Y tro hwn, mae Llafur yn gwneud ymdrech fawr i’w hennill.

Os ydyn nhw’n llwyddo fe fydd aelod o gabinet Rishi Sunak – David TC Davies, ysgrifennydd gwladol Cymru – yn colli ei sedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil Smith iddo gael ei siomi’n fawr gan y ffordd mae’r diwydiant amaeth yn cael ei drin

Yng nghanol Y Fenni, nes i daro mewn i Neil Smith, ffermwr lleol a Cheidwadwr gydol ei oes.

Ond y tro hwn mae’n dweud iddo gael llond bol o’r ymgyrch ac iddo gael ei siomi’n fawr gan y ffordd mae’r diwydiant amaeth yn cael ei drin.

“Wedi dweud hwnna, dwi’n clywed beth mae’r Torïaid yn ei ddweud am roi mwyafrif anferth i Starmer,” meddai.

“Sai’n gwybod. Byddai'n siŵr o fod yn bennu lan yn pleidleisio Tori ar ddiwedd y dydd os dwi’n hollol onest.”

'Mwy o arian i'r ysgolion a'r NHS'

Sefydlogrwydd economaidd yw addewid Rishi Sunak – a hynny ar ôl i ni gyd deimlo effaith y cynnydd mewn costau yn ddiweddar.

A fydd hynny at dant y busnesau ym marchnad y dref, sy'n dweud wrtha i eu bod nhw wedi gorfod pasio’r costau yna ymlaen i’w gwsmeriaid?

Starmer, a’i addewid i dyfu’r economi, nid Sunak yw’r dewis i’r cigydd Darren Randal.

“Rhaid i ni roi mwy o arian i’r ysgolion a’r NHS,” meddai.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Llafur sy’n rhedeg Cyngor Sir Fynwy, yn dilyn etholiadau lleol llwyddiannus iddyn nhw ddwy flynedd yn ôl.

Mae newid wedi bod yn ffiniau’r etholaeth, sydd hefyd wedi codi gobeithion y Blaid Lafur.

Ond mae ‘na rywbeth arall sy’n bygwth grym y Ceidwadwyr yn Sir Fynwy ac mewn llawer o lefydd eraill ledled Prydain - Reform UK, plaid Nigel Farage.

I’r blaid honno fydd Kevyn Bodman yn pleidleisio, gan ddweud: “Dwi ddim yn hapus gyda’r nifer o fewnfudwyr sy’n dod fan hyn”.

“Dwi o blaid ffoaduriaid o Wcráin a Hong Kong, ond dwi’n poeni am y sefyllfa dros y sianel,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim yn hapus gyda’r nifer o fewnfudwyr sy’n dod fan hyn," meddai Kevyn Bodman

Byddai’n syndod pe bai Reform yn ennill seddi yng Nghymru y tro hwn, ond mi all pleidlais fawr iddyn nhw danseilio’r Ceidwadwyr mewn ardal sydd wedi cael ei hystyried yn gadarnle Torïaidd ers bron i 20 mlynedd.

Er mor brin ydy’r arwyddion – ac er i sawl un yn y Fenni dweud eu bod nhw wedi diflasu gan wleidyddiaeth – mae hon yn bendant un o’r seddi i gadw llygad arni ar noson yr etholiad.

Yr ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Sir Fynwy

  • Ioan Bellin - Plaid Cymru

  • Ian Chandler - Y Blaid Werdd

  • David Davies - Ceidwadwyr

  • June Davies - True & Fair Party

  • Catherine Fookes - Llafur

  • Owen Lewis - Annibynnol

  • Emma Meredith - Plaid Treftadaeth

  • William Powell - Democratiaid Rhyddfrydol

  • Max Windsor-Peplow - Reform UK