Beth ddylai gwleidyddion ei wneud am gostau byw?
- Cyhoeddwyd
Mae ceisio arbed arian wedi bod yn un o’r heriau mwyaf mae Emily Evans wedi ei wynebu dros y blynyddoedd diwethaf wrth i gostau byw gynyddu’n sylweddol.
Hoffai Emily, sy'n 23 oed ac yn dod o Rydaman, weld llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig yn codi cyflogau.
“Mae popeth yn mynd lan ac mae bwyd yn costio llawer ac mae’n galed cadw trac ar bopeth,” meddai.
Mae cyfradd chwyddiant diweddara Banc Lloegr wedi cyrraedd y tareged am y tro cyntaf ers bron i dair blynedd.
Fe gynyddodd prisiau 2.3% yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn - y cynnydd arafaf ers Medi 2021.
Ond mae'r ffigyrau chwyddiant diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher wedi cyrraedd targed Banc Lloegr am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Fe syrthiodd y ffigyrau o 2% yn y flwyddyn hyd at fis Mai.
Yn ôl Rishi Sunak mae hyn yn dangos bod yr economi wedi “troi cornel” oherwydd camau gan y Ceidwadwyr.
Croesawu'r gostyngiad wnaeth canghellor yr wrthblaid Lafur, Rachel Reeves, ond mynnodd fod pobl yn parhau ar eu colled.
Yn y cyfamser wrth barhau â'r ymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol, mae Plaid Cymru yn galw am gyllid teg i Gymru o San Steffan i fynd i'r afael â phroblemau'r gwasanaeth iechyd.
'Mae'n rili anodd arbed arian'
Yng nghanol Rhydaman, roedd amrywiaeth barn ynglŷn â sut y gall llywodraeth nesaf y DU fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
Gobaith Emily Evans yw prynu tŷ ond mae costau byw cynyddol dros y tair blynedd diwethaf wedi effeithio ar ei gallu i arbed arian ac felly mae hi'n dal i rentu.
“Mae’n rili anodd arbed arian ac mae morgeisi yn galed i gael ac mae’r banciau'n rhoi prisiau lan pob blwyddyn a dyw Covid ddim wedi helpu,” meddai.
“I fi, byddai gweld cyflogau yn mynd lan yn helpu,” ychwanegodd.
Mae pris bwyd wythnosol wedi cynyddu’n sylweddol i Andrea Williams sy’n gyn-brifathrawes ac wedi ymddeol erbyn hyn.
Mae angen i wleidyddion siarad yn amlach â phobl gyffredin, meddai, i ddeall yn iawn sut mae prisiau uchel yn effeithio ar fywyd unigolion bob dydd.
“Mae fy nghalon yn mynd allan i bobl di-waith neu’r rhai sydd â rhyw fath o nawdd ariannol. Mae’n anoddach iddyn nhw,” meddai Andrea.
“Fi’n credu bod angen [i wleidyddion] siarad â phobl i gael eu barn nhw ac hefyd i weld drostyn nhw eu hunain y tlodi ac achosion y tlodi.
"Nhw sydd â’r chwip, nhw sydd yn rhedeg y wlad a dwi’n credu bod angen iddyn nhw eistedd lawr i gael barn pobl a gweld sut gallen nhw helpu.”
'Fi wedi colli ffydd'
Roedd nifer o bobl ar y stryd fawr yn siomedig â pherfformiad gwleidyddion o bob plaid dros y blynyddoedd diwethaf.
Er bod Aled Rees wedi pleidleisio ym mhob etholiad yn y gorffennol, eleni mae wedi penderfynu peidio bwrw pleidlais.
Mae'n dweud nad oes yr un blaid wedi ei argyhoeddi y gallan nhw fynd i’r afael â chostau byw cynyddol a heriau eraill.
“I ddweud y gwir, dwi ddim yn trystio dim un ohonyn nhw felly byddai ddim yn pleidleisio y tro hyn," meddai.
"Pwy bynnag sy’n dod i fewn, s'dim un ohonyn nhw yn newid pethau.
"Fi wedi colli ffydd 100% i ddweud y gwir.”
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Mai
Er i brisiau bwyd, nwyddau ac ynni barhau i gynyddu yn 2024, mae cyfradd y cynnydd wedi arafu.
Gobaith Banc Lloegr yw gweld cyfradd chwyddiant yn disgyn i 2% ddydd Mercher.
Mi allai hynny effeithio ar benderfyniad y Banc i dorri cyfraddau llog ymhellach ddydd Iau.
Er bod y darlun economaidd wedi gwella ychydig, mae dal rhywfaint o ansicrwydd, yn ôl Dr Robert Bowen, darlithydd busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae cyfuniad o ffactorau yn dylanwadu ar beth sy’n digwydd yn yr economi a dwi’n credu beth rydyn ni wedi gweld dros y ddwy flynedd diwethaf yw bod ffactorau allanol wedi cael rôl - er enghraifft effeithiau ar gadwyni cyflenwad oherwydd y rhyfel yn Wcráin a hefyd Brexit.
"Mae’r effeithiau yma yn cyfuno ac yn cael effaith ar yr economi. Mae’n anodd iawn felly i wneud rhywbeth i ddatrys hynny.
"Beth sydd yn bwysig a beth mae llywodraethau yn gallu ei wneud yw gosod strategaeth ar gyfer yr economi a gwneud yn siŵr bod yna sicrwydd a hyder gan bobl i fynd allan a gwario arian,” dywedodd Dr Bowen.
Beth yw addewidion y pleidiau?
Yn eu maniffesto, mae’r Ceidwadwyr yn dweud na fyddai’n rhaid i bobl sy’n hunan-gyflogedig dalu yswiriant gwladol pe baen nhw aros mewn grym. Bydden nhw hefyd yn rhoi mwy o arian i bensiynwyr a helpu pobl i brynu eu tŷ cyntaf.
Mae Llafur yn dweud mai nhw yw’r blaid fydd yn creu cyfoeth drwy leihau biliau, codi cyflogau a chodi trethi'r cyfoethog er mwyn ariannu’r sector cyhoeddus.
Yn ôl Plaid Cymru, byddan nhw’n helpu dros 300,000 o deuluoedd yng Nghymru trwy gynyddu budd-dal plant £20 yr wythnos.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo gostwng biliau ynni drwy sicrhau bod cartrefi yn cael eu hinswleiddio a chyflwyno strategaeth fwyd i fynd i’r afael â chostau bwyd.
Mae’r blaid Reform yn dweud na fydd yn rhaid i bobl dalu treth incwm tan eu bod nhw'n ennill £20,000 y flwyddyn ac mi fydden nhw hefyd yn cael gwared ar Dreth ar Werth ar filiau ynni.
Byddai'r Blaid Werdd yn cyflwyno treth ychwanegol ar y mwyaf cyfoethog a dod â’r rheilffyrdd, dŵr ac ynni o dan reolaeth y llywodraeth.