David TC Davies: Polau'n rhagweld 'mwyafrif mawr i Lafur'

David TC Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David TC Davies ei ddyrchafu i'r cabinet fel Ysgrifennydd Cymru pan ddaeth Rishi Sunak yn brif weinidog

  • Cyhoeddwyd

Mae arolygon barn yn "pwyntio'n amlwg at fwyafrif mawr i Lafur", mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyfaddef.

Dywedodd David TC Davies: "Dydw i ddim yn dwp, ni allwch wfftio pob un pôl piniwn."

“'Dw i’n meddwl bod pobl yn wirioneddol bryderus ar hyn o bryd a ddim yn hapus o gwbl - does fawr o optimistiaeth allan yna,” meddai.

Roedd Mr Davies yn siarad â phodlediad papur newydd y Sun, Never Mind the Ballots.

Mae Llafur wedi parhau ar y blaen o tua 20 pwynt dros y Torïaid yn yr arolygon barn yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Dywedodd Mr Davies fod pobl wedi cael eu “bwrw” gan “sialensiau amrywiol” dros y bum mlynedd diwethaf, gan gynnwys y pandemig ac effaith y rhyfel yn Wcráin ar brisiau.

Mae yna hefyd "ymdeimlad o ansefydlogrwydd" oherwydd "beth sy'n digwydd yn y Dwyrain Canol ac, o bosibl, gallem gael ein llusgo i mewn i hynny mewn rhyw ffordd", meddai.

“Felly dwi’n meddwl bod pobl yn reit bryderus ar hyn o bryd, a ddim yn hapus o gwbl, does fawr o optimistiaeth allan yna,” meddai.

“Dwi’n teimlo dros bawb a dwi’n meddwl ein bod ni [gwleidyddion] yn mynd i’w gael yn y gwddf, pob un ohonom, o ganlyniad i hynny.”

'Anfodlonrwydd yng Nghymru hefyd'

Dywedodd Mr Davies fod yna hefyd "lawer o anfodlonrwydd yng Nghymru", o dan lywodraeth Lafur Cymru "a dyw pobl ddim yn hapus gyda'r pethau maen nhw wedi'u gwneud chwaith".

“Felly dwi wir ddim yn gwybod beth yn union sy'n mynd i ddigwydd, i ble mae pobl yn mynd i fynd” pan maen nhw'n pleidleisio, meddai.

Ond fe gyfaddefodd fod y polau piniwn yn ddifrifol i'r Ceidwadwyr.

"Dydyn nhw byth yn ei gael 100% yn iawn, ond maen nhw'n amlwg yn pwyntio at fwyafrif mawr i Lafur," meddai.

"Dydw i ddim yn gwybod pa mor fawr fydd hynny, ond dydw i ddim yn dwp chwaith. Ni allwch ddiystyru pob un pôl piniwn."

Cytunodd Ysgrifennydd Cymru "os yw'r polau hyd yn oed yn hanner cywir" yna "bydd Keir Starmer yn cerdded i mewn i Downing Street".

“Dydw i ddim yn gwybod a yw am fod gyda llawer o frwdfrydedd, neu a fydd llawer o bobl bron â dweud 'yr opsiwn lleiaf gwaethaf'.

“Mae’n ddrwg gen i am hynny, oherwydd mae’n rhaid i ni wneud mwy i gyfleu ein neges.”