3 Llun: Lluniau pwysicaf Dylan Morris
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y cerddor o Bwllheli, Dylan Morris sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma..
Mi oedd carnifal Pwllheli yn rhan fawr o'n bywydau ni'n tyfu fyny ac yn ddigwyddiad mawr i'r gymuned.
Mi oedd fy chwaer a minnau yn cystadlu ar draws Pen Llŷn bob blwyddyn mewn gwisg ffansi a Mam a Nain yn prysur neud gwisgoedd am wythnosau o flaen llaw. Ond y tro cyntaf i mi gymryd rhan oedd yn 1984 pan oni’n 5 oed a chefais fy newis i fod yn Prince Charming sef pryd gafwyd y llun yma ei dynnu.
Yn ogystal â hyn mi fues hefyd yn Mr Carnifal Pwllheli am dair blynedd yn olynol a'r adegau yna yw'r atgofion cyntaf sydd gennai o fod ar lwyfan.
Nes i erioed ddychmygu 40 mlynedd wedyn y buaswn yn ôl ar y llwyfan ond y tro hwn yn canu a pherfformio.
Y bobl bwysicaf yn fy mywyd - fy ngwraig Sera a fy mhlant Tomos, Aron a Cari.
Tynnwyd y llun yma ar noson dathlu pen-blwydd Tomos yn 18 a dwi dal methu credu fod gen i fab yr oed yna.
Mae hi wedi bod yn newid byd i ni gyd fel teulu dros y blynyddoedd diwethaf ond mae eu cefnogaeth a'u cariad yn golygu cymaint, ac wedi fy ngalluogi i ffurfio gyrfa dwi’n ei garu gymaint.
Mae llawer hefyd 'di bod yn holi am Cari, ac er nad ydi hi wedi bod yn canu yn ddiweddar mae hi wedi bod yn cystadlu a pherfformio mewn sioeau dawnsio yn cynnwys yn y Tower Ballroom yn Blackpool gydag Ysgol Ddawns Pwllheli lle fuodd nhw yn llwyddiannus iawn.
Dyma un o'n hoff luniau o fy Nhaid a Nain, Now a Betty, dau sydd wedi cael gymaint o ddylanwad ar fy mywyd.
Fel plentyn treuliais llawer iawn o benwythnosau hapus yn eu cartref ym Mhenrhos ger Pwllheli a fanno cefais fy nghyflwyno i gerddoriaeth Cymraeg.
Mi oedd Taid yn gallu troi ei law at rwbath ac mi ddysgais gymaint ganddo ac mi oedd yn ysbrydoliaeth fawr yn ogystal â fy ffrind gora.
Bu farw yn 2016 i diwmor ar yr ymennydd a'r golled honno oedd cefndir y gân Dagrau yn y Glaw a ysgrifennais ar yr albwm gyntaf.
Dwi'n falch fod gennai gymaint o atgofion hapus efo fo ond fy nhristwch mwyaf yw na chafodd erioed weld be' dwi 'di gyflawni dros y pedair blynedd diwethaf.
Mae Nain yn 90 flwyddyn yma ac yn dal i ddod i wylio fi'n canu gymaint â mae'n gallu.
Mae'n deud na fi ydi 'No.1' hi fel canwr ond mi ddudodd yr un peth wrth Dafydd Iwan yn ddiweddar felly dwi'n meddwl fod ni'n rhannu'r safle yno rŵan.
Hefyd o ddiddordeb:
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023