Y gath o Gricieth aeth ar goll... a'i ffeindio 90 milltir i ffwrdd!

Cheryl Jones gyda Lleucu ar y ffordd adref i Gricieth o Grucywel
- Cyhoeddwyd
Pan aeth Lleucu'r gath ar goll ym mis Ebrill, roedd ei pherchnogion, Dei a Cheryl Jones o Gricieth, yn dechrau anobeithio y byddan nhw'n ei gweld hi eto.
Ond wedyn cawson nhw alwad ffôn, a dysgu fod Lleucu wedi mynd am antur... ac wedi ei ffeindio yng Nghrucywel yn ne Powys!
"O'ddan ni wedi bod yn cerdded taith Cambria o ochrau Dolgellau i Gonwy am wyth diwrnod," eglurodd Dei ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Oedden ni'n dod adre nôl a doedd Lleucu ddim i'w gweld o gwbl."
Er holi'r cymdogion, chwilio drwy'r ardal a rhoi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, doedd yna ddim sôn ohoni.
'Mae hon yn perthyn i rywun'
Dair wythnos yn ddiweddarach, roedd Dei a Cheryl ar daith feicio yn Ynysoedd Heledd (Hebrides) pan ddaeth galwad ffôn gan swyddfa milfeddyg yn Y Fenni.
"Mae'r ddynas 'ma'n deud wrtha ni – 'have you got a cat named Lucy?'
"No we haven't."
"Have you lost a cat?"
"Yes, named Lleucu."

Mae Dei a Cheryl yn amau fod Lleucu wedi teithio mewn car o Gricieth i Grucywel
Ar ôl cael ymddiheuriad am gamynganu ei henw, cafodd Dei a Cheryl y newyddion gwych fod Lleucu wedi ei ffeindio'n fyw ac yn iach yn Nghrucywel.
"O'dd pobl oedd wedi cael gafael arni yng Nghrucywel wedi edrych ar ei hôl hi yn yr ardd," meddai Dei.
"Doedden nhw ddim yn mynd â hi i'r tŷ am fod ganddyn nhw gath yn barod, felly roedd Lleucu yn cael bwyd tu allan efo nhw.
"Dyma nhw'n penderfynu yn y diwedd 'mae hon yn perthyn i rywun – mae hi rhy ddof'.
"Dyma nhw'n mynd â hi i'r [filfeddygfa yn] Y Fenni. Roedden ni wedi ei chippio hi, wrth gwrs, felly dyna sut oedden nhw'n gwybod lle oedden ni."
"Dyma nhw'n penderfynu yn y diwedd 'mae hon yn perthyn i rywun – mae hi rhy ddof'."
Dei Jones yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru
Ar ôl dychwelyd o'r Alban, aeth y pâr yn syth i lawr i'r de i hawlio eu cath anturus, ac mae hi'n awr yn ôl yn ddiogel yn Nghricieth, ac yn denu sylw mawr.
Gan fod y stori yn profi gwerth rhoi meicro-sglodyn yn eich anifeiliaid anwes, mae Lleucu bellach yn cael ei chynnwys ar wefan y filfeddygfa, ac mae hi hefyd ar dudalen flaen papur bro ardal Eifionydd, Y Ffynnon.
Ond sut bod Lleucu wedi cyrraedd y pen yna o Gymru yn y lle cyntaf?
Roedd ffrind i Dei a Cheryl, Richard, wedi dod i gerdded taith Cambria gyda nhw, ac wedi gadael ei gar tu allan i'w tŷ cyn gyrru'n ôl i Grucywel ar ddiwedd y daith gerdded.
Yn nghar Richard y teithiodd Lleucu siŵr o fod, ond mae dyfalu mawr ynglŷn â lle yn y car roedd hi, ac mae Lleucu yn cadw'i dull teithio – a'r rheswm dros ei thaith gudd – iddi hi'i hun.
"Dan ni ddim yn siŵr os aeth hi i i mewn i'r car neu'r bŵt, neu weithiau mae cathod yn mynd i mewn i'r injan.
"'Dan ni ddim yn gwybod achos mae Lleucu cau deud wrtha ni!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2023