Chwe Gwlad: Siom i Gymru wrth iddyn nhw golli yn erbyn yr Alban

Blair Kinghorn o'r Alban yn sgorio cais cynta'r tîm cartref yn MurrayfieldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Blair Kinghorn o'r Alban yn sgorio cais cynta'r tîm cartref yn Murrayfield

  • Cyhoeddwyd

Roedd 'na siom i Gymru wrth iddyn nhw golli o 35-29 yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Er i berfformiad Cymru wella yn yr ail hanner, yr Alban oedd y tîm cryfaf ym Murrayfield.

Fe wnaeth yr ymwelwyr sgorio dau bwynt bonws - un pwynt am sgorio pedwar cais a phwynt arall am golli o fewn saith pwynt.

Wedi'r colledion blaenorol yn y bencampwriaeth, roedd cael canlyniad da i Gymru yn mynd i fod yn her.

Mae Cymru ar rediad o 16 gêm heb fuddugoliaeth, gyda un gêm yn weddill yn y bencampwriaeth eleni.

Byddan nhw'n wynebu Lloegr yn Stadiwm y Principality ar ddydd Sadwrn 15 Mawrth.

Blair Murray yn croesi'r llinell gais i Gymru yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Blair Murray yn croesi'r llinell gais i Gymru yn yr hanner cyntaf

Roedd prif hyfforddwr dros dro Cymru, Matt Sherratt wedi penderfynu na fyddai unrhyw newidiadau i'r tîm i wynebu'r Alban brynhawn Sadwrn.

Fe sicrhaodd Cymru driphwynt ym munudau cynta'r gêm wrth i Gareth Anscombe sgorio cic gosb.

Ond tarodd yr Alban yn ôl ychydig funudau'n ddiweddarach wrth i Blair Kinghorn sgorio cais cynta'r gêm i'w gwneud hi'n 7-3.

Roedd ergyd i Gymru wrth i Tom Rogers gael ei anafu gyda Joe Roberts yn dod ymlaen fel eilydd, cyn i Tom Jordan sgorio ei gais cyntaf i'r tîm cartref.

Roedd yr Alban yn edrych yn hyderus gyda'r bêl yn y dwylo, gan roi pwysau ar amddiffyn Gymru.

Tom Jordan yn sgorio ei ail gais i'r Alban yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tom Jordan yn sgorio ei ail gais i'r Alban yn yr hanner cyntaf

Roedd cyfnodau da i Gymru ac roedd perfformiad Jac Morgan yn yr hanner cyntaf yn gryf wrth iddo ennill ciciau cosb.

Yn dilyn cic daclus gan Anscombe, llwyddodd Cymru i sgorio eu cais cyntaf wrth i Blair Murray groesi'r llinell gais ond methodd Anscombe y trosiad.

Unwaith eto, fe wnaeth yr Alban daro yn ôl wrth i Darcy Graham sgorio eu trydydd cais mewn llai na hanner awr.

Roedd rhwystredigaeth wrth i Gymru ildio ciciau cosb a cafodd WillGriff John ei anfon i'r gell gosb ar ôl defnyddio ei goes i atal yr Alban rhag cael y bêl.

Manteisiodd yr Alban ar sawl camgymeriad gan Gymru, cyn i Tom Jordan groesi'r llinell gais i'w gwneud hi'n 28-8, wrth iddyn nhw gipio pwynt bonws.

Er i Gymru drio'n galed i ennill tir, roedd yr Alban yn dal i edrych yn fwy cyfforddus gyda'r bêl.

Blair Murray o Gymru a Tom Jordan o'r Alban yn brwydro am y bêlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Blair Murray o Gymru a Tom Jordan o'r Alban yn brwydro am y bêl

Ar ôl sgorio pedwar cais yn yr hanner cyntaf, dechreuodd yr Alban yn gryf yn yr ail hanner wrth i Blair Kinghorn sgorio pumed cais y tîm.

Roedd hwb i Gymru wrth i Ben Thomas fanteisio ar fwlch yn amddiffyn yr Alban a sgorio cais i'w gwneud hi'n 35-15, wedi trosiad gan Jarrod Evans.

Ben Thomas yn sgorio ail gais CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Thomas yn sgorio ail gais Cymru

Yn fuan wedi hynny, fe wnaeth Teddy Williams ymestyn dros y llinell gais ar gyfer trydydd cais Cymru.

Bu bron i'r Alban sgorio cais arall ond fe wnaeth ymdrech arwrol gan amddiffyn Cymru dalu ar ei ganfed i'r ymwelwyr.

Er i Taulupe Faletau groesi'r llinell gais yn y munudau olaf i Gymru, chafodd y cais ddim ei ganiatau wedi i Blair Murray neidio er mwyn osgoi tacl.

Roedd hwb i Gymru wrth iddyn nhw atal cais gan yr Alban cyn i Max Llewellyn sgorio cais yn y munudau olaf i'w gwneud hi'n 35-29.

Roedd perfformiad Cymru yn well o lawer yn yr ail hanner, ond doedd hynny ddim yn ddigon i ennill y gêm yn Murrayfield.

Pynciau cysylltiedig