Dim newid i dîm Cymru fydd yn wynebu'r Alban yn y Chwe Gwlad

Daeth Cymru'n agos at sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Iwerddon yn eu gêm ddiwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr dros dro Cymru, Matt Sherratt wedi cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i'r tîm fydd yn wynebu'r Alban yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Mae Dewi Lake bellach yn holliach i fod ar y fainc yn dilyn anaf, gyda Keiron Assiratti hefyd yn ôl ymysg yr eilyddion.
Dangosodd tîm Cymru arwyddion o welliant yn y gêm Chwe Gwlad ddiwethaf yn erbyn y Gwyddelod bron i bythefnos yn ôl.
Os na fydd unrhyw newidiadau funud olaf, dyma fydd y tro cyntaf i Gymru roi tîm di-newid ar y cae ers 2019.
Mae Cymru ar rediad o 15 gêm heb fuddugoliaeth, gyda dwy gêm yn weddill yn y bencampwriaeth eleni.
Fe fydd y gic gyntaf ym Murrayfield am 16:45 brynhawn Sadwrn.

Ar ôl ennill yn erbyn yr Eidal yn eu gêm agoriadol, mae'r Alban wedi colli yn erbyn Iwerddon a Lloegr
Mi fydd Elliot Dee yn dechrau fel bachwr, gyda Nicky Smith a WillGriff John pob ochr iddo yn y rheng flaen.
Bydd Will Rowlands yn gobeithio adeiladu ar ei berfformiadau da yn yr ail reng, gyda Dafydd Jenkins wrth ei ymyl.
Jenkins a Tommy Reffell oedd yr unig ddau oedd yn dechrau yn erbyn yr Albanwyr yn y gystadleuaeth y llynedd.
Jac Morgan a Taulupe Faletau sy'n dechrau gyda Reffell yn y rheng ôl, gydag Aaron Wainwright wedi'i adael ar y fainc.
Dywedodd Faletau'r wythnos hon nad ydy o wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran ei obeithion o fynd ar daith y Llewod yr haf yma.
Max Llewellyn a Ben Thomas fydd canolwyr Cymru, gyda Gareth Anscombe a Tomos Williams hefyd yn dechrau.
Mae cyfle arall i Ellis Mee, Blair Murray a Tom Rogers ddisgleirio, gyda Josh Adams yn parhau i fod yn absennol oherwydd anaf.
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Mae Cymru'n teithio i Murrayfield gyda thair colled yn y bencampwriaeth hyd yn hyn, tra bod yr Alban yn bedwerydd - ar ôl curo'r Eidal yn eu gêm gyntaf.
Dywedodd Sherratt fod Cymru wedi "gosod her i ni'n hunain yr wythnos hon, i barhau i wella".
"Rydym eisiau cadw'r un bwriad a'r dewrder wnaethon ni ddangos y tro diwethaf, ond wrth adeiladu ar ein gêm."
Tîm Cymru
Murray; Rogers, Llewellyn, B Thomas, Mee; Anscombe, Tomos Williams; Smith, Dee, John, Rowlands, D Jenkins, Morgan (capt), Reffell, Faletau.
Eilyddion: Dewi Lake, G Thomas, Keiron Assiratti, Teddy Williams, Wainwright, R Williams, J Evans, J Roberts.