Chwe Gwlad: Cymru yn colli yn erbyn yr Eidal

Yr Eidal v CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Eidal 22-15 Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm rygbi Cymru wedi ymestyn eu rhediad gwael gyda cholled yn erbyn yr Eidal yn ail gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r golled o 22 pwynt i 15 yn golygu bod Cymru wedi colli 14 gêm brawf yn olynol, sy'n ymestyn record o ran colledion.

Parhau felly mae'r cwestiwn a fydd Warren Gatland yn parhau fel prif hyfforddwr gyda Chymru eisoes wedi mynd dros flwyddyn galendr cyfan heb ennill gêm brawf.

Fe fydd gêm nesaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn, 22 Chwefror.

Cymru v Yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images

Wedi'r golled drom yn erbyn Ffrainc wythnos diwethaf, roedd y gêm yn Stadio Olimpico Rhufain yn gyfle i dîm Warren Gatland adennill mymryn o barch.

Roedd rhaid i Gymru wneud newidiadau i'r tîm aeth allan yn y Stade de France, gyda'r cefnwr Liam Williams allan oherwydd anaf i'w pen-glin a'r clo Dafydd Jenkins allan oherwydd salwch.

Roedd hi'n ddechrau bratiog i'r gêm, gyda'r ddau dîm yn cicio'n amlach na'r arfer yn y glaw.

Daeth pwyntiau cyntaf Cymru o'r bencampwriaeth ar ôl 17 munud, gyda chic cosb gan Ben Thomas yn ei gwneud hi'n 3-3 ar ôl cic cosb gan Tommaso Allan i'r Eidalwyr.

Ond gydag ychydig dros hanner y 40 gyntaf yn weddill, daeth cais cyntaf y gêm gan Ange Capuozzo ar ôl symudiad campus gan Paolo Garbisi a giciodd y bêl i'r cornel o sgrym. Fe ddilynodd Garbisi gyda throsiad.

Yn dilyn dwy gic cosb arall gan y tîm cartref, ymatebodd Cymru gyda'u cyfnod gorau o'r hanner, yn chwarae yn 22 yr Eidal hyd at yr egwyl ond yn methu i ennill rhagor o bwyntiau.

Cymru v Yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cais cyntaf Cymru o'r Chwe Gwlad gan Aaron Wainwright i sicrhau diwedd cystadleuol i'r gêm

O fewn pum munud o'r ail hanner fe newidiodd Gatland ei reng flaen gyfan gyda Nicky Smith, Elliot Dee a Keiron Assiratti yn camu ar y cae.

Yn brwydro am ffordd yn ôl i'r gêm, daeth Cymru'n agos gyda rhediad da gan Blair Murray ond fe enillodd Allan y ras yn y diwedd.

Yn y cyfnod a ddilynodd, fe wnaeth yr Eidal fethu dwy gic cosb cyn i Allan ei gwneud hi'n 19-3 ar ôl i Josh Adams adael y cae am drosedd ar Garbisi.

Gydag ychydig dros 10 munud i fynd, daeth cais cyntaf Cymru o'r Chwe Gwlad gan Aaron Wainwright ond methodd Dan Edwards y trosiad gyda'i ergyd yn taro'r postyn.

Roedd angen dau gais gan Gymru i fynd ar y blaen ond cafodd y momentwm ei atal wedi i gic cosb arall gan Allan ei gwneud hi'n 22-8 i'r Eidalwyr.

Roedd llygedyn o obaith i Gymru yn y diwedd ar ôl cais cosb ond nad oedd yn ddigon i osgoi dwy golled o'r bron yn erbyn yr Eidalwyr.

Pynciau cysylltiedig