Posib y bydd Joe Allen yn ymddeol ar ddiwedd y tymor

Disgrifiad,

Dywedodd Joe Allen fod ymddeol yn rhywbeth mae'n "ystyried trwy'r amser"

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr canol cae Abertawe a Chymru Joe Allen yn cyfaddef fod posibilrwydd y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Mae ei gytundeb gydag Abertawe yn dod i ben yn yr haf, a hyd yma does yna ddim trafodaethau wedi bod am gytundeb newydd.

"Mae'n rhywbeth yn naturiol dwi'n ei ystyried drwy'r amser ac yn meddwl amdano, ond does dim ateb ar y funud," meddai Allen.

"Dwi ddim yn siŵr iawn be' fydd yn digwydd."

Anafiadau wedi bod yn broblem

Yn 34 oed bellach, mae Allen yn ei ail gyfnod gydag Abertawe ar ôl iddo ailymuno â'r Elyrch o Stoke City yn 2022.

Mae anafiadau wedi bod yn broblem ers iddo ddychwelyd i Stadiwm Swansea.com, gyda'r anaf diweddaraf i'w droed yn golygu ei fod wedi colli'r rhan fwyaf o gemau Abertawe dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn dathlu sgorio yn y gêm gyfartal yn erbyn West Brom ar 4 Ionawr

"Mae llawer yn dibynnu ar beth fydd yn digwydd rhwng nawr a diwedd y tymor," meddai Allen.

"Os dwi'n aros yn ffit ac yn perfformio a helpu'r tîm, falle bydd siawns i gario 'mlaen.

"Ar y llaw arall os nad yw pethau'n mynd yn dda, dwi ddim yn perfformio neu'n cael problemau gydag anaf efallai y bydd yr ateb yn un gwahanol. Gawn ni weld."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn chwarae dros Gymru yn erbyn Gwlad yr Iâ fis Tachwedd

Un peth allai berswadio Allen i barhau i chwarae am o leiaf un tymor arall yw'r cyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd 2026.

Ar ôl ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2022, fe gafodd ei demtio i ddychwelyd i garfan Cymru gan y rheolwr newydd Craig Bellamy y llynedd.

Bydd rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn digwydd eleni, gyda Chymru yn yr un grŵp â Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakhstan a Liechtenstein.

"Mae Gwlad Belg yn dîm ni wedi dod i 'nabod yn dda ar ôl chwarae yn eu herbyn gymaint o weithiau," meddai Allen.

"Mae'r hyder yn uchel o fewn y garfan ar y funud.

"I gyrraedd Cwpan y Byd mae'n rhaid i ni berfformio bron yn berffaith, a dwi'n hyderus y gallwn ni wneud hynny."

Bydd Southampton v Abertawe yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA yn fyw ar BBC Two Wales am 16:15 ddydd Sul.