Oes ffordd well o wario arian i hybu'r Gymraeg yn Llundain? - Drakeford

Dywed Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford taw ond 10 o blant sy'n cael addysg ar hyn o bryd yn Ysgol Gymraeg Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried beth yw'r ffordd "mwyaf effeithiol" o wario arian ar hyrwyddo'r Gymraeg yn Llundain, yn ôl Ysgrifennydd y Gymraeg.
Roedd Mark Drakeford yn ymateb i gwestiynau gan y gwrthbleidiau am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i Ysgol Gymraeg Llundain.
Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn derbyn grant o £90,000 y flwyddyn gan y llywodraeth ond mae trafodaethau'n digwydd gyda'r ysgol dros ddyfodol y cyllid.
"Dydy'r ddadl ddim am yr arian," meddai Mr Drakeford.
"Y ddadl yw sut i ddefnyddio'r arian mewn y ffordd mwyaf effeithiol, ac mae'n drist i ddweud y ffaith yw mae nifer y disgyblion yn Ysgol Gymraeg Llundain yn is."
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
"10 o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd," dywedodd yr ysgrifennydd.
"Y ddadl yw beth yw y ffordd gorau i ddefnyddio'r arian sydd gyda ni i helpu yr iaith Gymraeg yn Llundain ac os mae pethau ni'n gallu gwneud sy'n fwy effeithiol i helpu pobl sydd yn Llundain sydd yn siarad Cymraeg a nid just i wario'r arian i gyd am 10 o blant."

Mae trafodaethau'n parhau rhwng yr ysgol a Llywodraeth Cymru, medd Mark Drakeford, ond mae mater ei hariannu yn un "anodd"
Dywedodd Mr Drakeford bod trafodaethau'n digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r ysgol, a bod y "sgwrs yn un bwysig i ni".
Mae hwn, meddai, yn bwnc "anodd" o ystyried hanes yr ysgol, ond bod yn rhaid i'r llywodraeth sicrhau "effeithiolrwydd yr arian ni'n gwario yma yng Nghymru a dyna'r ddadl ni'n gael yng nghyd-destun Ysgol Gymraeg Llundain".
"Dy'n ni ddim just yn gallu cadw i wneud be' ni wedi gwneud dros y blynyddoedd pan ni'n gallu gweld mae'r cyd-destun wedi newid."
Yr wythnos diwethaf dywedodd cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol Glenys Roberts bod y cyllid wedi ei sicrhau tan fis Mawrth 2026, ond bod y llywodraeth yn edrych ar "ailbwrpasu" yr arian y tu hwnt i hynny.
'Peryglu 70 mlynedd o dwf'
Wrth holi Mr Drakeford, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar y Gymraeg, Tom Giffard: "Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn cyfrannu swm anferth yn uniongyrchol tuag at y targed Cymraeg 2050, gan greu siaradwyr Cymraeg hyderus a rhugl, yn gwreiddio'r iaith Gymraeg ym mywydau beunyddiol pobl ifanc, ac yn adeiladu cymuned rhyng-genedlaethol o amgylch yr iaith Gymraeg.
"Fel dywedodd llefarydd dros yr ysgol, yn gwbl briodol, byddai ailgyfeirio'r arian i rywle arall nid yn unig yn chwalu llwyddiant y sefydliad, ond hefyd yn peryglu 70 mlynedd o dwf, dysg a hanes yr iaith Gymraeg yn ysgol Llundain.
"Fe allai gymryd blynyddoedd i ailadrodd y canlyniadau hyn, ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddai sefydliad newydd yn ei lle yn fwy llwyddiannus."
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru: "Rydym ni hefyd, dwi'n siŵr, yn 'nabod amryw o bobl sydd wedi bod drwy Ysgol Gymraeg Llundain, sydd wedyn wedi symud i Gymru a gwneud cyfraniad eithriadol o bwysig hefyd.
"A dwi'n meddwl, mi fydden ni i gyd wedi ein tristáu o feddwl bod yr ysgol yn dod i ben."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022