Ateb y Galw: Ellis Lloyd Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'n gyflwynydd, yn ddylanwadwr TikTok ac yn berfformiwr drag o'r enw Catrin Feelings... Ellis Lloyd Jones sy'n Ateb y Galw i Cymru Fyw yr wythnos yma.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Mae rhaid i fy atgof cyntaf fod yn fi a fy chwaer yn canu ar beiriant karaoke cawsom ni ‘Dolig pryd o'n i’n rili ifanc. Jyst ni'n dau yn ymladd dros pwy sy’n gallu canu 5,6,7,8 gan Steps!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Tyddewi – mae ‘na rhywbeth movie-esque amdan y lle. Dwi hefyd yn caru llefydd gyda straeon sy’n cysylltu a thirnodau. Mae Tyddewi jyst yn ticio pob bocs rili!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi wastad yn dweud mai'r nosweithiau gorau dwi erioed wedi cael yw’r rhai dwi methu cofio (lol). Dwi’n rili joio house parties felly mae rhaid i fi weud un house party ges i ‘Dolig dwetha. O'dd ffrindiau fi gyd ‘na a chawsom ni ginio Nadolig, cwpl o gemau a lot i yfed! A lot o pep talks!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Camp, Comedy, Cŵl (lol)
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy’ o hyd yn gwneud i ti wenu?
Fy gig 'drag' cyntaf! Dwi wastad yn meddwl am fy hun yn 15 mlwydd oed ac os galle fi gweld beth dwi’n neud nawr bydde Ellis bach yn chuffed. Odd e jyst ar ôl dod allan o lockdown. Roedd y Queer Emporium yn Gaerdydd yn gwneud digwyddiad lle gall perfformwyr drag berfformio am y tro cyntaf. Weles i poster ac on i’n gwybod odd rhaid i fi neud e. Smashed of course!
Beth oedd y digwyddiad wnaeth godi mwya' o gywilydd arnat ti?
Ces i bach o rebel phase pryd on i’n ifanc: methu gwersi cerddoriaeth, dwyn £2 o pwrs mam i prynu pasty yn y ffreutur. Ond y peth mwyaf drwg nes i o'dd crafu car rhywun gyda hoelen! Odd e’n proper scary, nath y dyn a oedd yn berchen y car weld yr holl beth. Nath e ffonio'r heddlu a fy nhad ac o'dd pawb ar y stryd yn gwylio trwy eu ffenestri nhw. Moooooor embarrassed!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
OMG so dwi ‘di mynd trwy bach o breakup yn ddiweddar, ac yr wythnos nes i dorri lan gydag ex fi nath Ariana Grande ryddhau We Can't Be Friends a nes i jyst gwrando i’r gân ‘na ar repeat ac yn proper sgrechan yn crio am literally 5 awr! Joio!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Prynu, prynu, prynu! Pob tro mae ‘na arian yn fy manc mae ‘na ryw rym sy’n cymryd drosta fi i wario pob ceiniog! Ac ar ôl talu fy tax return dwi ‘di sylwi bo' fi methu neud hwnna rhagor!
Beth yw dy hoff lyfr? Pam?
Bydd Miss John, fy hen athrawes Cymraeg, yn browd o’r ateb yma. Tylluan Wen! So pryd on i’n astudio Tylluan Wen yn yr ysgol o'dd pawb yn cymryd y mic allan o’r ffilm ac y llyfr. Ond o'dd ‘da fi rhyw fath o obsesiwn!
Nes i greu meme page ar Instagram, nes i newid profile pictures fi i Sian James, ac hefyd gwisgo lan fel Martha o Tylluan Wen ar gyfer crôl prifysgol. Ond dwi dal gyda chopi o Tylluan Wen nes i ddwyn o’r ysgol (#rebel) a dwi dal i ddarllen e pryd dwi’n teimlo’n proper bored. Good read, would recommend!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod?
Www mae dau ateb ‘da fi! 1. Amy Winehouse, dwi wastad wedi caru vibe a banter hi. Byswn ni'n dau yn hilarious combo. 2. Diana Spencer, cuppa a chêcs gyda Diana! Dream afternoon tea! Dwi’n siwr bydde hi yn good laugh. Dychmyga hi a Amy Winehouse gyda’i gilydd though!
Oes rhywbeth does dim llawer o bobl yn gwybod amdanat ti?
Y peth yw dwi’n eitha agor ar socials a phopeth ond falle rhywbeth does dim llawer o bobl yn gwybod amdana fi yw dwi’n rili dda at manifestation! Dwi wedi cracio’r code o sut i manifest-io pethau mewn i fy mywyd. Dwi’n berson rili pwerus, weithie rhy pwerus (lol)!
Beth fyddet ti’n neud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?
Jyst bwyta be' bynnag fi ishe heb boeni am roi pwysau arno. Actually dwi wastad ‘di cal y breuddwyd ‘ma o fi yn ishte ar glogwyn yn gwylio’r haul yn machlud. Byswn i’n ishte ar glogwyn gyda phicnic masif a gwylio’r haul yn machlud (neu ffrwydro).
Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Grŵp o luniau sy’n debyg sy’ ‘da fi sy’n rili bwysig i fi sef lluniau o fy Mam a Dad gyda fy Drag Person 'Catrin Feelings'. Mae’n rili pwysig i fi fod fy Mam a Dad yn cefnogi fi trwy popeth dwi’n neud (yn enwedig gyda fy ngyrfa Drag).
Maen nhw wedi dod i cwpl o fy gigs ac wedi bod mor gefnogol! Falle'n rhy gefnogol i’r pwynt lle nhw yw’r pobl olaf yn y bar a wedyn mae rhaid i fi yrru nôl adre i’r Rhondda achos maen nhw wedi gael gormod i yfed (lol)!
Petaet ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Www sai’n gwbod! Mae’r syniad o fod yn rhywun arall yn ofni fi (lol)! Byse rhaid i fe fod yn rhywun rili cyfoethog sy’n byw yn rhywle crand fel Beverly Hills. Newn ni weud Kim Kardashian!
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024