Ymchwilio i honiad o hiliaeth yn erbyn clwb o Gymru

Parc PenydarrenFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae honiad o hiliaeth wedi'i wneud ar ôl gêm CPD Tref Merthyr a Hungerford Town ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed o Gymru yn ymchwilio i honiad o hiliaeth ar ôl gêm ddydd Llun.

Mae CPD Tref Merthyr, sy'n chwarae'n seithfed haen cynghrair Lloegr, yn dweud eu bod wedi cael gwybod am ddigwyddiad honedig ym Mharc Penydarren.

Mae Hungerford Town wedi cyhuddo “rhan o’r dorf gartref” o gam-drin yr amddiffynnwr Ramarni Medford-Smith yn hiliol yn ystod y gêm yn y Southern League Premier South.

Dywedodd Merthyr eu bod yn "condemnio'n gryf" unrhyw ymddygiad o'r fath.

Ar ôl y gêm dywedodd rheolwr Hungerford, Danny Robinson, bod "pêl-droed yn amherthnasol heddiw ar ôl yr hyn aeth fy chwaraewr drwyddo".

“Mae cael eich cam-drin yn hiliol yn 2024 yn gwbl anfaddeuol ac mae angen i rywbeth mawr ddigwydd.

Ychwanegodd na fyddai wedi beio'r chwaraewr am adael y cae, ond eu bod wedi trafod a'i fod o eisiau parhau.

"Mae wedi difetha perfformiad gwych gan dîm da iawn", meddai Robinson.

'Gwaharddiad oes'

Enillodd Merthyr y gêm 3-0 i symud yn ôl i safleoedd y gemau ail gyfle.

Dywedodd y clwb mewn datganiad ar ôl y gêm eu bod yn gweithio gyda swyddogion y gêm a Hungerford Town i ddelio â’r digwyddiad honedig “cyn gynted â phosibl”.

Dywedodd y clwb: "Mae ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau. Fodd bynnag, fel clwb cymunedol, mae CPD Tref Merthyr yn condemnio'n gryf y defnydd o iaith hiliol, sarhaus neu homoffobig o unrhyw ddisgrifiad: boed hynny gan gefnogwr rheolaidd neu achlysurol; gartref neu oddi cartref.

“Yn syml, ni fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei dderbyn, a bydd camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw unigolyn sy'n cael ei adnabod - gan gynnwys gwaharddiad oes o’r clwb, ac unrhyw gamau cyfreithiol a allai ddilyn.”

Mae'r clwb yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr honiadau i gysylltu â nhw.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Heddlu De Cymru wedi cael cais am eu hymateb.