Ward plant Bronglais i ddychwelyd i gapasiti llawn ar ôl recriwtio nyrsys

Arwydd Ysbyty Bronglais
  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau bod nyrsys newydd wedi cael eu recriwtio i weithio ar y ward plant yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, gyda'r bwriad o ddychwelyd y ward i'w capasiti llawn maes o law.

Roedd gofid yn y canolbarth hydref y llynedd pan gafodd rhai o welyau Ward Angharad eu cau oherwydd diffyg staff.

Mae'r newyddion ynglŷn ag ymgyrch recriwtio lwyddiannus i ddenu rhagor o nyrsys i weithio ar ward Angharad yn Ysbyty Bronglais yn mynd i fod yn rhyddhad i lawer o rieni i fabanod a phlant ifanc yn ardal Aberystwyth, a'r canolbarth yn ehangach.

Ym mis Medi'r llynedd fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau y bydd nifer y gwelyau ar y ward yn cael eu cwtogi o naw i bump, a hynny oherwydd prinder nyrsys.

Mesur dros dro oedd hynny, yn ôl y bwrdd iechyd, am gyfnod o chwe mis o Dachwedd y cyntaf.

Daeth y cyfnod o chwe mis i ben ddydd Iau, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod wedi llwyddo i recriwtio chwech o nyrsys newydd.

Mewn datganiad byr, dywedodd Andrew Carruthers, prif swyddog gweithredu'r bwrdd iechyd, bod trefniadau yn cael eu gosod yn eu lle er mwyn sicrhau bod ward Angharad yn dychwelyd i gynnig y ddarpariaeth gofal arferol ar gyfer plant sâl sydd angen aros yn yr ysbyty am gyfnodau hirach.

Fe fydd cyhoeddiad pellach yn y dyfodol agos, meddai.

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith nawr yw y bydd y ward yn dychwelyd i gynnal naw gwely yn fuan ar ôl llwyddo i benodi chwech o nyrsys newydd

Yn ystod y chwe mis diwethaf, roedd y ward yn dal i gynnig gwasanaeth 24 awr, ac roedd mwyafrif y plant oedd angen gofal am hyd at 36 awr yn dal i gael eu trin yn Ysbyty Bronglais.

Roedd plant oedd yn ddifrifol wael, a oedd angen gofal am gyfnod hirach, yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Ond dim ond pum gwely oedd ar gael ar y ward am y cyfnod hwnnw – y gobaith nawr yw y bydd y ward yn dychwelyd i gynnal naw gwely yn fuan ar ôl llwyddo i benodi chwech o nyrsys newydd.