Gwahardd ceir er mwyn dod â bywyd newydd i ganol Wrecsam

O ddydd Llun, dim ond un pwynt mynediad fydd yna i gerbydau i ganol y ddinas
- Cyhoeddwyd
Bydd traffig yn cael ei wahardd ynghanol Wrecsam ar adegau penodol o'r dydd er mwyn ceisio gwneud y ddinas yn fwy deniadol a chyfeillgar i gerddwyr.
Mae'n dilyn misoedd o waith ar adfywio canol y ddinas, gyda phedair stryd eisoes wedi eu troi i fod ar gyfer cerddwyr yn unig.
Bydd ardaloedd gwyrdd yn cael eu cyflwyno hefyd, yn ogystal â phlannu coed a gosod dodrefn stryd newydd.
Yn ôl Cyngor Wrecsam fe fydd hynny yn "newid diwylliant" ac i roi hwb i fusnesau lletygarwch.
Ond tra bod yna obeithion y bydd y newid yn llwyddiant, mae rhai perchnogion busnesau yn bryderus.

Mae Ashraf Mohammed yn edrych ymlaen i roi byrddau a seddi i'w gwsmeriaid eistedd y tu allan i'w gaffi
Mae Ashraf Mohammed, sy'n rhedeg caffi High Street Feeder, yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw reoli yn ofalus sut mae cynnyrch yn eu cyrraedd nhw, oherwydd y bydd yr amseroedd y gall cerbydau gyrraedd canol y ddinas yn cael ei gyfyngu.
Ond dywedodd "nad oedd dewis ond cefnogi'r cynllun" gan bod y gwaith bellach wedi cael ei gwblhau.
"Doedden ni ddim yn gallu gweld y weledigaeth, ond rwy'n teimlo'n hyderus y gall y datblygiad ddod â rhagor o fusnes a mwy o siopwyr," meddai.
Poeni sut bydd rhai cwsmeriaid yn cyrraedd
Ond tydi Julie Stanley, sydd berchen ar Café De Galles ar Stryd yr Eglwys, sydd hefyd o fewn y parth gwahardd traffig, ddim mor siŵr.
Mae'n dweud bod ei busnes eisoes wedi dioddef yn ystod y gwaith adnewyddu, ac er ei bod yn hoffi canlyniadau'r gwaith hwnnw, mae'n poeni am y gwaharddiad traffig.
"Mae llawer o fy nghwsmeriaid yn oedrannus, a rhai yn anabl," meddai.
"Dwi ddim yn gwybod sut bydd rhai ohonyn nhw yn cyrraedd yma."
O ddydd Llun, dim ond un pwynt mynediad fydd yna i gerbydau i ganol y ddinas drwy Stryd Efrog, gyda mynediad rhwng 06:00 a 11:30 yn unig - wedi hynny fe fydd yna ddirwyon.
Fydd parcio ar y Stryd Fawr, oedd ar gael i ddeiliaid bathodyn glas, ddim bellach yn cael ei ganiatáu y tu hwnt i'r oriau cyfyngedig.

Mae Ronald Stevenson yn poeni y bydd y newidiadau yn ei gwneud hi'n anoddach iddo
Dywedodd Ronald Stevenson, 77, y byddai'r rheolau newydd yn achosi problemau iddo.
"Mae gen i spinal stenosis, dyna pam bod gen i ffrâm gerdded, felly mae angen i fi allu mynd mor agos â phosib at y lle dwi angen mynd iddo. Nid y fi fydd yr unig un fydd ddim yn hapus am hynny chwaith," meddai.
Ond yn ôl Fitzroy Williams, oedd yn ymweld â Wrecsam o Birmingham, mae ardaloedd di-draffig yn saffach.
"Mae'n dda, mae'n caniatáu i bobl gerdded yn rhydd," meddai.
Mae Susan Hughes, sy'n byw yn Wrecsam yn credu bod yr adnewyddu yn edrych yn dda.
Gyda Wrecsam bellach yn ddinas, mae'n credu bod angen gwneud mwy i gael pobl i mewn i'r canol.
"Rwy'n cytuno â fo... os ydyn nhw eisiau dod â mwy o ddiwylliant i mewn. Mae Wrecsam yn lle braf i fyw - rwy'n meddwl ei fod yn edrych yn llawer gwell."
'Adeg cyffrous i Wrecsam'
Dywedodd Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio ar Gyngor Wrecsam, Nigel Williams y bydd y cyfyngiadau traffig yn newid mawr, ond y byddai'n dod â buddiannau.
"Ein gwledigaeth, yn enwedig ar y stryd fawr, ydy cael diwylliant caffis," meddai.
"Mae yna adeiladau hardd yma... a llawer o fusnesau lletygarwch, bariau a bwytai.
"Felly fe fydd hyn yn rhoi'r cyfle iddyn nhw gael ardaloedd gyda seddi y tu allan, fydd gobeithio yn cynyddu eu masnach o'r dydd i mewn i'r min nos hefyd."
Fe ychwanegodd bod dros ddwsin o fannau parcio wedi eu creu yn agos at y parth gwaharddedig, fel y gall canol y ddinas barhau i fod yn hygyrch i bawb.
"Mae'n adeg cyffrous i Wrecsam," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022