Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi sôn ei bod am drywanu athrawes

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ysgol ei chau wedi'r digwyddiad ar 24 Ebrill eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae rheithgor wedi clywed i ferch 14 oed ddweud wrth ddisgyblion eraill ei bod hi’n mynd i drywanu athrawes y diwrnod hwnnw.

Yn ôl tyst i'r achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ar fore 24 Ebrill, mi ddywedodd y diffynnydd y byddai hi’n “gwneud rhywbeth twp” yn yr ysgol, cyn iddi drywanu dau athro ac un disgybl.

Mae'r ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cyfaddef iddi drywanu Fiona Elias a Liz Hopkin yn ogystal â disgybl arall, ond mae hi yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Ar drydydd diwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe fe glywodd y rheithgor gan dad y ferch.

Roedd ei thad wedi cael ei alw i’r ysgol yn 2023 ar ôl i staff ddarganfod cyllell ym mag ei ferch ac oherwydd hynny ei fod yn edrych yn ei bag bob bore ond nad oedd wedi llwyddo i edrych yn y bag ar fore'r 24 o Ebrill.

Gwelodd y rheithgor y gyllell gafodd ei defnyddio i drywanu tri o bobl yn Ysgol Dyffryn Aman.

Dywedodd tad y ferch: “Nes i ddim llwyddo i wirio’i bag ar fore'r 24ain o Ebrill” gan ychwanegu ei fod heb weld ei ferch y bore hwnnw.

“Doedd neb ar ddi-hun nag o gwmpas yr amser gadawodd hi’r tŷ”, meddai'r tad.

Clywodd y rheithgor ei fod yn defnyddio’r arf i dorri bachau pysgota.

'Mynd i wneud rhywbeth twp'

Fe glywodd y rheithgor gyfweliadau a gafodd eu recordio gan yr heddlu gyda disgyblion oedd yn bresennol ar adeg y digwyddiad.

Dywedodd un disgybl, na ellir ei henwi oherwydd ei hoed, ei bod hi a’i ffrindiau wedi siarad gyda’r diffynnydd fore’r ymosodiadau yn y tai bach.

Yn ôl y tyst, fe ddywedodd y diffynnydd y byddai'n "gwneud rhywbeth twp, a allai arwain at gael fy ngwahardd o'r ysgol".

“Oedd hi’n mynd i wneud rhywbeth i Mrs Elias," meddai'r tyst.

"O’n i’n meddwl oedd hi’n mynd i slapio hi neu rywbeth. Doeddwn ni ddim yn gwybod pa mor ddifrifol bydde fe.”

Ychwanegodd y tyst: “Doeddwn i ddim yn deall pam fyddai hi eisiau slapio Mrs Elias.”

Clywodd y llys i'r diffynnydd drywanu Fiona Elias, Liz Hopkin ac yna disgybl arall ar iard yr ysgol yn ddiweddarach y bore hwnnw.

Disgrifiad o’r llun,

Fiona Elias a Liz Hopkin yn cyrraedd y llys fore Mercher

Yn ôl disgybl arall a gafodd ei chyfweld: “Dywedodd hi wrthon ni ei bod hi’n mynd i drywanu Ms Elias.”

Roedd y disgybl, na ellir ei henwi, yn dweud ei bod hi’n eistedd yn y neuadd gyda’r diffynnydd funudau'n unig cyn yr ymosodiadau.

Ychwanegodd: “Doeddwn i ddim yn ei chredu hi, tan iddi hanner dangos y gyllell i mi.

“Mae hi o hyd yn dweud pethau ni ddim yn credu.”

Yn ôl y tyst roedd y diffynnydd yn siarad gyda Fiona Elias yn y neuadd ac roedd Ms Elias yn dweud wrthi nad oedd hawl ganddi i fod yn y rhan yna o'r neuadd.

Dywedodd: “Doedd dim emosiwn ar ei hwyneb - oedd e fel ei bod hi wedi newid.”

Yn ôl y tyst roedd y diffynnydd yn chwerthin ar Ms Elias wedi’r sgwrs, gan fod, yn ôl y tyst, Ms Elias “yn amlwg ei hofn”.

Clywodd y rheithgor bod y ferch 14 oed a Ms Elias yn “cweryla’n gyson”, cyn i'r tyst ychwanegu bod y diffynnydd yn gallu bod yn “anghwrtais”.

'Meddwl bod hi’n jocian'

Roedd tyst arall, na ellir ei enwi, yn eistedd gyda’r diffynnydd funudau cyn yr ymosodiadau.

Yn ôl y tyst fe ddywedodd y diffynnydd mai "dyma’r tro olaf byddwch chi’n fy ngweld i am sbel" gan ychwanegu ei bod hi’n "cael ei gyrru ffwrdd am amser hir".

"O’n i’n meddwl bod hi’n jocian," meddai'r tyst.

Dywedodd fod ymddygiad y diffynnydd wedi newid ar ôl iddi weld Fiona Elias yn y neuadd.

“Roedd hi’n chwerthin a’n jocian, yno cerddodd Ms Elias mewn a newidiodd ei hwyneb yn llwyr," meddai.

Clywodd y rheithgor i athrawon gloi drysau eu dosbarthiadau wedi’r ymosodiadau.

Dywedodd y tyst: “Roeddwn i’n cael negeseuon yn dweud 'Mae [y ferch] wirioneddol wedi gwneud rhywbeth, doedd e ddim yn jôc’."

Mae'r ferch 14 oed yn gwadu tri chyhuddiad o lofruddio ac mae'r achos yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y rheithgor i athrawon gloi drysau eu dosbarthiadau wedi’r ymosodiadau

Yn ddiweddarach fe welodd y rheithgor gyfweliad heddlu gyda disgybl arall, oedd yn honni bod y disgybl a gafodd ei thrywanu wedi “slapio” y diffynnydd rhyw fis cyn yr ymosodiad.

Dywedodd fod "y ddwy yn gweiddi” gan ychwanegu fod y slap “yn edrych yn eithaf caled”.

Clywodd y rheithgor hefyd gyfweliad disgybl oedd yn honni clywed y diffynnydd yn dweud “mae gan fy nhad arfau”, wythnos cyn y digwyddiad.

“Dywedodd pe bai hi’n ymladd y byddai hi’n defnyddio cyllell," meddai'r disgybl.

Ychwanegodd bod y diffynnydd “yn casáu Ms Elias” gan ychwanegu ei bod hi “eisiau ei lladd hi”, yng ngeiriau’r tyst.

Pynciau cysylltiedig