Ysgol Dyffryn Aman: Athrawon yn credu y bydden nhw'n marw

Fiona Elias yn cyrraedd y llys fore Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Fiona Elias yn cyrraedd Llys y Goron Abertawe fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae athrawon a gafodd eu hanafu gan ddisgybl ar iard Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill wedi dweud eu bod yn credu y bydden nhw'n marw.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu gan ferch 14 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol.

Yn ei chyfweliad â'r heddlu fe ddywedodd Ms Elias: “Roedd hi’n edrych arnai gyda llygaid sinistr, roedd gen i deimlad ei bod hi'n mynd i wneud rhywbeth i mi.”

Mae’r ferch yn gwadu ceisio llofruddio.

Ar ail ddiwrnod yr achos llys fe glywodd y rheithgor gyfweliad yr heddlu â Fiona Elias ar ddiwrnod y digwyddiad.

Clywodd y llys fod y ferch wedi dwrth wrth Ms Elias: “Dwi’n mynd i dy ladd di, dwi’n mynd i dy f*****g lladd di.”

Roedd Ms Elias wedi canfod cyllell ym mag y ferch yn gynharach yn y flwyddyn ysgol.

Dywedodd Ms Elias, oedd yn dysgu’r disgybl, ei bod “naill ai’n hapus iawn neu mewn hwyliau gwael".

Fe ddywedodd pennaeth cynorthwyol Ysgol Dyffryn Aman fod y ferch yn neuadd isa’r ysgol ar 24 Ebrill - lle nad oedd ganddi hawl i fod.

Gofynnodd Ms Elias i’r ferch a chyd-ddisgyblion adael yr adeilad, ac yn ôl Ms Elias roedd hi’n ymddwyn yn “sili a dros ben llestri".

'Gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus'

Wedi iddi ofyn i’r ferch adael roedd y ferch yn edrych arni gyda “llygaid sinistr”, meddai.

“O’n i’n gwybod bod rhywbeth yn ei llygaid a'i bod yn chwarae gyda rhywbeth yn ei phoced.”

Roedd hi’n chwarae gyda’r arf mewn ffordd “bygythiol” (menacing), meddai Ms Elias.

Ychwanegodd: “Roedd gen i deimlad ei bo hi’n mynd i wneud rhywbeth i mi, yn eironig iawn ‘if looks could kill’”.

“Oedd hi’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus, ond dyna sut oedd hi”.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe

Ddydd Mercher fe welodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng o’r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Ar 24 Ebrill am 11:14 fe aeth y ferch allan i iard yr ysgol lle’r oedd Fiona Elias a Liz Hopkin.

Dywedodd Ms Elias ei bod yn ceisio esbonio pam nad oedd hi’n cael mynediad i’r neuadd, ond bod y ferch wedi dweud: “Dwi ddim eisiau esboniad. Dwi eisiau mynd mewn i’r neuadd.”

Yno fe dynnodd y ferch arf allan o’i phoced am 11:17. Cafodd Ms Elias anafiadau i'w breichiau a’i llaw chwith.

“Roeddwn i’n meddwl mod i’n mynd i farw. O’n i’n gallu gweld e yn ei hwyneb, oedd hi wedi colli hi. Oeddwn i jest eisiau gwneud yn siŵr bod y disgyblion yn ddiogel.”

Disgrifiad o’r llun,

Liz Hopkin yn cyrraedd y llys fore Mercher

Ychwanegodd bod aelod arall o staff cyfagos yn feichiog felly roedd hi eisiau iddi gadw draw.

Disgrifiodd Ms Elias yr arf fel “cyllell boced gyda llafn arian”.

Ddydd Llun fe glywodd y rheithgor bod y ferch wedi mynd â chyllell bysgota ei thad.

Esboniodd Ms Elias wrth yr heddlu sut wnaeth hi a Liz Hopkin geisio ei rhwystro - roedd y ddwy yn gweiddi am help.

Mae’r deunydd CCTV yn dangos Liz Hopkin yn ceisio rhwystro’r ferch tra bod Fiona Elias yn dianc.

Yn emosiynol yn ei chyfweliad dywedodd Ms Elias fod Ms Hopkin wedi gweiddi, “Fiona, jest cer”.

Fe ddisgynnodd yr arf i’r llawr am ychydig eiliadau, ac am 11:18 mae’r ferch yn ailafael yn y gyllell bysgota a’n trywanu Liz Hopkin bump o weithiau gan gynnwys yn ei gwddf.

Esboniodd Ms Elias ei bod wedi rhedeg mewn i swyddfa’r ysgol gan weiddi “Mae (y ferch) newydd drywanu fi".

Cafodd Fiona Elias ei rhyddhau o’r ysbyty'r diwrnod hwnnw.

'Mae hi'n mynd i ladd fi nawr'

Dywedodd Liz Hopkin wrth yr heddlu bod y ferch 14 oed “eisiau anafu Fiona”.

Ar ôl iddi geisio achub Fiona Elias, dywedodd Ms Hopkin: “Meddyliais 'mae hi’n mynd i ladd fi nawr.”

Ychwanegodd ei bod yn credu y byddai Fiona Elias wedi marw pe na bai hi wedi ymyrryd.

Esboniodd Ms Hopkin, oedd yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Dyffryn Aman, nad oedd hi yn adnabod y ferch 14 oed, ond roedd y ferch "yn ymddangos yn rhyfedd iawn... roedd hi’n syllu ar Fiona, a ddim yn blincio,” meddai.

Esboniodd sut i'r ferch ddechrau trywanu Ms Elias: “Roedd hi eisiau anafu Fiona".

Esboniodd ei bod hi a Fiona Elias yn gweiddi am help.

“Wrth edrych nôl, ddylen i fod wedi gweiddi ‘cyllell’, efallai byddai pobl wedi dod yn gynt," meddai.

Yn ôl Ms Hopkin, roedd y ferch yn gwisgo siaced felly roedd hi’n anodd dal gafael ynddi, a "wedyn wnaeth hi drywanu fi yn fy nghoes".

Yna fe ddisgrifiodd sut wnaeth y ferch droi i’w hwynebu a’i thrywanu hi yn ei gwddf a'i bod hi wedi meddwl "oh s**t, dyma ni".

Roedd gŵr a phlentyn Liz Hopkin yn yr ysgol ar y pryd: “Meddyliais mae’n mynd i ladd fi nawr gyda fy nheulu yn yr adeilad."

Clywodd y rheithgor bod Ms Hopkin yn gorwedd ar y llawr gyda gwaed yn dod allan o’i gwddf, a chafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn ambiwlans awyr.

Ar adeg ei chyfweliad gyda’r heddlu fe ddywedodd Liz Hopkin: “Dwi jest yn falch i fod yn fyw a bod Fiona yn fyw.”

Ychwanegodd, “Os bydden i heb ymyrryd byddai Fiona wedi marw.”

'Rhedodd hi ata i gyda chyllell'

Yn ddiweddarach gwelodd y rheithgor gyfweliad y disgybl a gafodd ei thrywanu gyda’r Heddlu, ble disgrifiodd y diffynnydd yn bygwth ei lladd cyn ymosod arni.

Does dim modd enwi'r ferch am resymau cyfreithiol.

Dywedodd ei bod hi ar iard yr ysgol gyda’i ffrindiau pan glywodd bod y ferch 14 oed wedi trywanu dau athro ar yr iard.

Disgrifiodd i’r diffynnydd weiddi ei henw a dweud “Dwi’n mynd i dy f*****g lladd di”.

“Yna rhedodd hi ata i gyda chyllell," meddai, gan ychwanegu ei bod yn teimlo'n “grac ac yn ofnus”.

Dywedodd y disgybl ei bod wedi disgyn i’r llawr, ac yna cheisio cicio’r diffynnydd i ffwrdd.

“Wnaeth hi dim ond fy nhrywanu i unwaith, ond roedd hi’n trio fy nhrywanu sawl gwaith," meddai.

Yn ôl y disgybl doedd hi ddim yn adnabod y diffynnydd yn dda.

Clywodd y rheithgor fod y ddwy ferch wedi cweryla ychydig wythnosau ynghynt ar y bws yr ysgol.

Yn ôl y ferch roedd yn “rhywbeth sili, merchetaidd” gan ychwanegu “roedden ni’n iawn y diwrnod wedyn".

Ffynhonnell y llun, PA Media

Clywodd y rheithgor hefyd dystiolaeth gan bennaeth cynorthwyol Ysgol Dyffryn Aman, Stephen Hagget, wnaeth geisio rhwystro’r ferch 14 oed ar ôl iddi drywanu'r ddwy athrawes.

Roedd Mr Hagget - sydd wedi bod yn athro yn Ysgol Dyffryn Aman ers 2009 - ar ddyletswydd ar iard yr ysgol ar 24 Ebrill.

Yn ôl Mr Hagget, rhedodd dau ddisgybl ato gan weiddi: “Syr, syr, mae ‘na ffeit!"

Wedi iddo gyrraedd y safle gwelodd y ferch 14 oed gyda neb o’i chwmpas.

“'Nes i sylwi ei bod hi’n dal cyllell yn ei llaw dde," meddai.

Dywedodd Mr Hagget iddo geisio tawelu meddwl y ferch gan ddweud “ti’n gwybod pwy ydw i”.

Yn ôl yr athro roedd y ferch yn syllu’n syth o’i blaen ac fe waeddodd: “Dwi’n mynd i f****g lladd hi os dwi’n ei gweld hi eto - Mrs Elias.”

Clywodd y rheithgor bod y ferch wedi symud o gwmpas yr ysgol, tra’r oedd Mr Hagget ac athro arall - Darrel Campbell yn - ei dilyn.

Yn ôl Mr Hagget, fe wnaeth y ferch bwyntio’r arf tuag at Mr Campbell ac yna rhedeg tuag at ddisgybl arall.

“Rhedodd hi tuag at [y ferch] a cheisio trywanu [y ferch] ddwywaith," meddai.

Cafodd y ferch ei thrywanu yn ei hysgwydd.

'Fel rhywbeth o ffilm arswyd'

Yn ddiweddarach ddydd Mercher fe ddangoswyd fideo i'r rheithgor a gafodd ei recordio ar ap Snapchat gan ddisgybl, yn dangos y diffynnydd yn trywanu'r disgybl arall.

Yn y fideo mae plant yn sgrechian ac athrawon yn ceisio eu symud i ffwrdd.

Yn rhoi tystiolaeth gerbron y llys dywedodd Darrel Campbell bod y ferch “wedi colli rheolaeth yn llwyr” ar y diwrnod dan sylw.

Yn ôl Mr Campbell, sydd wedi bod yn athro yn Ysgol Dyffryn Aman am 39 o flynyddoedd, mi wnaeth o Mr Hagget geisio tawelu'r ferch 14 oed wedi iddi drywanu'r ddwy athrawes.

Dywedodd Mr Campbell i’r diffynnydd droi at griw o ddisgyblion a sgrechian: “Dwi’n mynd i dy f*****g lladd di, b***h”.

“Oedd e’n swnio fel rhywbeth allan o ffilm arswyd," meddai Mr Campbell.

“Y fath gynddaredd, ymosodiad mor dreisgar, gallai fod wedi gwneud unrhyw beth. mi gollodd hi reolaeth yn llwyr.”

Yn ôl Mr Campbell fe drywanodd y diffynnydd ddisgybl arall sawl gwaith.

Dywedodd iddo lwyddo i gydio yn ei braich, ei rhoi mewn headlock a’i llusgo i ffwrdd i gornel yr iard.

Cafodd y gyllell ei rhyddhau ai gymryd i ffwrdd gan athro arall.

Mae’r ferch, 14, yn cyfaddef ei bod wedi trywanu ond yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio. Mae’r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig