Ysgol Dyffryn Aman: Llys yn clywed i ddisgybl fygwth lladd athro

Dyffryn Aman
  • Cyhoeddwyd

Clywodd llys i ferch 14 oed drywanu athrawon a disgybl sawl gwaith mewn ysgol ger Rhydaman, gan fygwth lladd un o'r athrawon.

Cafodd dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl arall, eu trywanu sawl gwaith yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn erbyn y ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, fe glywodd rheithgor sut wnaeth y ferch fygwth lladd athrawes yn ystod amser chwarae, cyn ei thrywanu sawl gwaith, cyn ymosod ar athrawes arall a disgybl.

Cafodd Ms Elias ei thrywanu yn ei breichiau, tra cafodd Ms Hopkin ei thrywanu yn ei gwddf, cefn, coesau a’i breichiau.

Clywodd y llys i ferch oedd yn ddisgybl yn yr ysgol ac a oedd ar yr iard ar yr un pryd gael ei thrywanu yn ei choesau.

Disgrifiad o’r llun,

Y ddwy athrawes a gafodd eu hanafu - Liz Hopkins a Fiona Elias

Mae'r diffynnydd, oedd yn eistedd yn y llys gyda'i thîm cyfreithiol yn hytrach nag yn y doc oherwydd ei hoedran, yn byw mewn uned ddiogel i bobl ifanc ers y digwyddiad.

Roedd yn gwisgo crys gwyn a siaced ddu wrth wrando ar William Hughes KC yn amlinellu achos y Goron.

Ym mis Awst plediodd yn euog i dri chyhuddiad o anafu bwriadol ac un o fod ag arf yn ei meddiant ar dir yr ysgol.

Mae wedi pledio yn ddieuog i dri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Mi wyliodd y rheithgor fideo o gamera cylch cyfyng Ysgol Dyffryn Aman o'r digwyddiad ar fore 24 Ebrill.

Roedd y deunydd yn dangos y ferch yn siarad gyda Ms Hopkin a Ms Elias cyn tynnu arf miniog allan o boced ei throwsus.

'Dwi’n mynd i dy f*****g lladd di'

Clywodd y llys sut wnaeth y ferch ofyn: “Ydych chi eisiau gweld beth sydd yn fy mhoced?”.

Yna dywedodd wrth droi at Fiona Elias “Dwi’n mynd i dy f*****g lladd di.”

Fe wnaeth hi drywanu’r ddwy athrawes sawl gwaith tra’u bod nhw’n ceisio ei rhwystro.

Gwelwyd athrawon eraill, Mr Stephen Hagget a Mr Darrel Campbell yn cyrraedd gan geisio tawelu’r ferch.

Dywedodd yr erlyniad, William Hughes KC, bod y ferch wedi dweud wrth Mr Stephen Hagget a Mr Darrel Campbell y byddai’n lladd Ms Elias os byddai’n ei gweld hi.

Yna symudodd y ferch i ardal arall o’r ysgol gan droi at ddisgybl arall a dweud “Dwi’n mynd i dy f*****g lladd di” ac ymosod arni hi.

Cafodd y ferch ei rhwystro a’i dal mewn ystafell lle cafodd ei harestio.

Mae'r erlyniad wedi gorffen amlinellu eu hachos ac mae disgwyl i'r achos barhau fore Mercher.

Cyllell yn ei bag ar achlysur arall

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos fe glywodd y llys bod cyllell wedi ei darganfod ym mag y ferch 14 oed yn gynharach yn y flwyddyn ysgol.

O ganlyniad roedd staff yr ysgol, a thad y ferch yn edrych ar gynnwys ei bag yn rheolaidd.

Clywodd y rheithgor i'r ferch ar ddiwrnod y digwyddiad adael y tŷ cyn i’w thad gael cyfle i edrych yn ei bag.

Dywedodd yr erlyniad bod y ferch wedi mynd â chyllell pysgota ei thad o’r ystafell fyw heb yn wybod i'w thad.

Roedd Ms Elias wedi siarad gyda’r ferch y diwrnod hwnnw gan ofyn iddi adael adeilad nad oedd ganddi’r hawl i fod ynddo.

Fe ddywedodd Ms Elias ar y pryd fod ganddi “lygaid sinistr” a'i bod yn chwarae gyda gwrthrych ym mhoced ei throwsus.

Symudodd Ms Elias tu allan gan ymuno â Ms Hopkin - yno dechreuodd y ddwy siarad gyda’r ferch a wnaeth ddilyn ei hathrawes allan.

Roedd Ms Elias yn dweud wrth y ferch bod ei throwsus ddim yn cyd-fynd gyda’r wisg ysgol a’n sôn am yr angen i siarad gyda’i rhiant am y mater.

Yna fe ofynnon nhw beth oedd yn ei phoced.

Dyna'r adeg, yn ôl yr erlyniad i'r ferch dynnu cyllell o'i phoced cyn ymosod ar y ddwy athrawes.

Mae'r ferch 14 oed na ellir ei henwi yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Clywodd y llys bod y ferch wedi gwneud “sawl sylw ansensitif” i swyddogion yr heddlu wrth iddi gael ei chludo i’r orsaf yn Llanelli.

Fe wnaeth hi gyfaddef wrth swyddogion ei bod hi wedi trywanu disgybl gan ddweud “oopsies.”

Ychwanegodd: “Dwi’n eithaf sicr ybydd hyn ar y newyddion - dyna un ffordd o fod yn enwog."

Gofynnodd hefyd a oedd y tri wedi marw.

Dywedodd William Hughes KC fod Heddlu Dyfed-Powys wedi chwilio cartref y ferch.

Fe ffeindion nhw ddarluniau yn cyfeirio at y disgybl gafodd ei thrywanu a Ms Elias.

Roedd un darlun o fenyw yn cynnwys y geiriau ‘Miss Frogface Elias’.

Roedd darlun arall yn cynnwys enw’r disgybl gafodd ei thrywanu a’n cynnwys y geiriau “llosgi”, “marw” a “torri eu cegau a’u llygaid”.

Mae’r ferch yn gwadu ceisio llofruddio ac mae disgwyl i'r achos barhau ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig