Haneru'r rhanbarthau 'dal yn opsiwn' ar ddiwedd ymgynghoriad

"Mae'r trafodaethau yn parhau ac nid ydym wedi gwneud penderfyniad eto," medd Dave Reddin
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr rygbi Undeb Rygbi Cymru yn dweud bod haneru nifer y rhanbarthau o bedwar i ddau yn rhywbeth sy'n dal i gael ei ystyried, wrth i'r cyfnod ymgynghori ar y mater ddod i ben.
Ym mis Awst fe wnaeth y Dave Reddin ac uwch-swyddogion eraill URC gyhoeddi eu bod nhw'n ymgynghori ar ailstrwythuro rygbi ar lefel broffesiynol, gan gynnig pedwar model.
Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus i'r cynlluniau gyda chwaraewyr, rhanddeiliaid, gwleidyddion a'r timau proffesiynol, fe wnaeth 7,000 lenwi dogfen yn ymateb i'r cynlluniau.
Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i gwtogi'r rhanbarthau presennol - Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets - i ddau dîm.
Pwysleisiodd Reddin nad oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yma.
'Allwn ni ddim cadw pawb yn hapus'
"Mae'r trafodaethau yn parhau ac nid ydym wedi gwneud penderfyniad eto," meddai.
"Allwn ni ddim cadw pawb yn hapus, mae'n rhaid i ni wneud y penderfyniad cywir ar gyfer dyfodol rygbi Cymru yn y tymor hir, nid dim ond y tymor byr.
"Heb amheuaeth bydd newid i'r drefn bresennol.
"Felly bydd newid, does dim amheuaeth am hynny. Rydym am gyflwyno dadl fel bod pobl yn deall y newid ac yn ei gefnogi."
- Cyhoeddwyd1 Medi
- Cyhoeddwyd9 Medi
Mae'r chwaraewyr wedi bod ymysg y mwyaf gwrthwynebus i'r cynlluniau i gwtogi'r rhanbarthau.
Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (CCRC) wedi dweud wrth yr undeb bod eu cynigion ar gyfer y gêm elitaidd yn mynd i "yrru talent o Gymru".
Mae Jac Morgan, capten Cymru, wedi dweud na fyddai'n aros i chwarae yng Nghymru os yw'r Gweilch yn diflannu.
"Rydw i wedi siarad â Jac, mae'n amlwg yn un o'n talentau mwyaf gwerthfawr," meddai Reddin.
"Mae'n rhywun ni'n awyddus i'w gadw yng Nghymru. Mae Jac yn chwaraewr uchelgeisiol ac rydw i'n parchu ei sylwadau ar ran y Gweilch.
"Yr hyn rydyn ni eisiau ei greu yw system a fydd yn arwain at chwaraewyr Cymru yn dweud 'byddwn i wrth fy modd yn aros yma a hynny beth bynnag yw'r enw ar y drws, oherwydd dyma'r system orau i mi - un y gallaf ffynnu, ennill a theimlo'n rhan o fy hunaniaeth genedlaethol ac un lle gallaf helpu fy nhîm cenedlaethol i ddatblygu'.
"Rydw i'n gobeithio, trwy sgyrsiau parhaus gyda phobl fel Jac, y gallwn ni adeiladu rhywbeth sy'n hynod ddeniadol iddo ef ac eraill fel eu bod nhw eisiau aros."

Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i gwtogi'r rhanbarthau presennol i ddau dîm
Dywed Reddin fod yna addewid o benderfyniad terfynol gan fwrdd Undeb Rygbi Cymru erbyn diwedd mis Hydref.
"Rydym am ddarparu cymaint o eglurder â phosibl ac yna fe fydd yn benderfyniad i'r bwrdd," meddai Reddin.
Er y bydd yr union ddewis yn cael ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref, dywed Reddin efallai na fydd cytundeb ar yr union fanylion erbyn hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.