Y tad a'r mab, y labordy steroidau a'r gosb 'a achubodd ein perthynas'

Mae'r berthynas rhwng Andrew Dodd a'i fab Macaulay wedi bod yn heriol ar brydiau, ond fe wnaeth y ddau glosio tra yn y carchar am eu troseddau
- Cyhoeddwyd
"Y tro cyntaf i fi gymryd steroidau oedd efo fy mrawd yn fy ystafell wely. O'n i'n 14, neu 'falla newydd droi'n 15."
Roedd yr arddegau'n gyfnod anodd i Macaulay Dodd, oedd yn flin ac yn ddryslyd wedi i'w rieni wahanu.
Trodd at ei frawd hŷn a'i ffrindiau, oedd yn mynychu'r gampfa'n aml, am arweiniad ar sut i ymdopi.
Ychydig o flynyddoedd wedi iddo chwistrellu ei hun yn ei ben-ôl am y tro cyntaf, roedd Macaulay yn rhan allweddol o un o gangiau steroid anghyfreithlon mwyaf y DU, gan gynhyrchu cyffuriau gwerth £1.2m.
Nawr mae'n rhannu ei stori yng nghyfres newydd y BBC, Confessions of a Steroid Gang, sy'n dangos llwyddiant a methiant menter a ddechreuodd fel ffordd o ennill mwy o arian, ac a ddaeth i ben, yn rhannol, gan y siop trin cŵn a gafodd ei sefydlu i lanhau'r arian.
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
Roedd Andrew Dodd yn bysgotwr cocos ar lannau Aber Dyfrdwy - gwaith anodd, blinedig a chorfforol oedd yn "torri rhai dynion".
Roedd hefyd yn magu ei ddau fab ar ben ei hun ar ôl ysgariad, ac roedd ei berthynas â Macaulay yn dirywio.
Dywedodd fod byw gyda mab oedd yn "flin ac afreolus" yn anodd, ac roedd hefyd eisiau "gwneud i fyny" i'w blant "am yr hyn nad oedd ganddyn nhw".
Yna sylwodd ar ddyn mewn tafarn un noson oedd "i weld efo popeth".
Holodd sut allai fforddio'i ddillad drud a'r sawl diod yr oedd wedi prynu'r noson honno.
Atebodd y dyn: "Dwi'n gweithio yn y busnes steroidau." Geiriau a newidiodd bywyd Andrew.

Bwriad Andrew Dodd yn y lle cyntaf oedd ennill digon o arian trwy greu a gwerthu steroidau i dalu rhent
Doedd gan Andrew ddim syniad faint o bobl - hyd at 1.5 miliwn yn y DU yn unig - oedd yn defnyddio steroidau i newid eu cyrff.
Pan glywodd hynny, gwelodd ffordd o ennill ychydig o arian ychwanegol.
"Os ydy hynny'n £200 yr wythnos, £800 y mis, dyna'r rhent wedi'i dalu. Mae'n risg isel. Beth all fynd o'i le?"
Roedd Macaulay bellach yn 18 oed, a newydd adael cartref y teulu yng Nglannau Dyfrdwy ar adeg pan oedd ei berthynas â'i dad ar ei gwaethaf erioed.
Roedd yn byw allan o'i gar ac roedd Andrew yn poeni amdano, felly fe ffoniodd ei fab a chynnig gwaith iddo.
"Os o'n i'n mynd i wneud hyn, o'n i angen rhywun o'n i'n gallu ymddiried ynddyn nhw," eglurodd. "Pwy 'da chi'n ymddiried ynddo fwy na'ch mab?"
'Cyffro a risg'
Pan glywodd Macaulay mai'r nod oedd sefydlu labordy i greu steroidau, fe gafodd ei synnu.
"Mae fy nhad o hyd wedi bod yn berson gonest. Doedd o erioed wedi bod mewn trafferth o'r blaen," meddai.
"Ar yr un pryd, roedd yr alwad ganddo'n eitha' cyffrous.
"'Da chi'n gwneud rhywbeth sy'n anghyfreithlon felly mae yna ychydig o gyffro neu risg sy'n mynd law yn llaw efo hynny."

Defnyddiodd Macaulay Dodd steroidau yn y lle cyntaf er mwyn bod yn debyg i bobl roedd yn edmygu yn y gampfa
Nid yw'r gyfraith ynghylch steroidau anabolig yn syml.
Maen nhw'n gyffur Dosbarth C, dolen allanol, ond mae yna eithriad sy'n ei gwneud hi'n gyfreithlon i'w cael ar gyfer defnydd personol.
Y gosb uchaf am eu cyflenwi neu eu cynhyrchu yw 14 mlynedd yn y carchar neu ddirwy ddiderfyn.
Mater i Andrew a Macaulay oedd eu lleoliad - tref fach "lle mae pawb yn 'nabod ei gilydd... pe bai ni 'di sefydlu pethau yn ein bro byddwn ni 'di cael ein dal cyn i ni ddechrau".
Felly symudon nhw 20 milltir o'u cartref i ddinas gadeiriol Llanelwy a dod o hyd i ffermdy unig, a'i drawsnewid yn labordy creu steroidau.
'Mae pobl angen arian hawdd'
Mewnforio'r cynhwysion craidd oedd y cam nesaf, yn bennaf testosteron synthetig, o China.
Er mwyn osgoi sylw swyddogion tollau, fe drefnodd Andrew rwydwaith o bobl, oedd heb fod mewn trafferth gyda'r heddlu, oedd yn fodlon derbyn parseli heb ofyn unrhyw gwestiynau.
"Mae pobl angen arian hawdd..." meddai Macauley. "Mor ddrwg â mae'n swnio, pobl mewn angen 'da chi'n defnyddio, ynde?"
Dilynodd y ddau gyfarwyddyd eu cyswllt yn y dafarn ar sut i greu'r steroidau, ond roedd peryglon ynghlwm â'r broses.
"I bob pwrpas 'da chi'n anadlu cyffuriau," meddai Andrew.
"Wrth edrych yn ôl, o'n i'n eitha' blin yn ystod y cyfnod yna. Bosib 'mod i'n cymryd mwy o steroidau na lot o fy nghwsmeriaid."
'Wedi creu anghenfil'
Nawr roedd rhaid eu gwerthu.
Gan gysylltu â phobl trwy'r dyn o'r dafarn - partner busnes Andrew erbyn hynny - dechreuon nhw werthu cynnyrch ar-lein dan yr enw Renvex, i bobl oedd yna'n ailwerthu'r cyffuriau am bris uwch.
Dywedodd Dr Honor Doro Townshend, ymchwilydd steroidau a throseddegwr: "Mae prynu steroidau ar-lein bron mor hawdd â phrynu dillad ar-lein.
"Mae'n blatfform sy'n edrych yn gyfreithlon... chi'n dewis eich cynnyrch a faint 'dach chi eisiau, ac mae'n cael ei danfon i'ch tŷ."
Hyd heddiw mae modd darllen adolygiadau o 12 mlynedd yn ôl am Renvex ar un o'r fforymau steroid mwyaf poblogaidd.

Dyma gyfran o'r poteli steroid wedi eu cynhyrchu gan Andrew a Macaulay Dodd, a gafodd eu darganfod gan yr heddlu
Yn sydyn fe ddatblygodd y cynllun syml i ennill arian ychwanegol yn "swydd llawn amser" i bob pwrpas.
Ond gyda mwy o archebion, roedd angen mwy o gynhwysion, ac roedd hynny'n golygu cynnydd yn nifer y parseli o dramor.
"Byddwch yn ofalus o'r hyn 'da chi'n dymuno - 'da chi'n creu anghenfil yn y pendraw," meddai Andrew.
I lanhau'r symiau cynyddol o arian oedd yn eu cyrraedd, sefydlodd Andrew wasanaeth trin cŵn, Posh Paws, yn Rhuthun.
Ond roedd yr heddlu wedi dechrau ymchwiliad ar ôl i'r Asiantaeth Ffiniau ryng-gipio rhai o'u parseli.
"Gan fod nifer o'r parseli'n mynd i gyfeiriadau preswyl yng ngogledd Cymru, fe wnaethon nhw gyfeirio'r achos atom ni," meddai arweinydd ymchwiliad, yr Uwcharolygydd Lee Boycott.
Sylwodd un o ddadansoddwyr yr heddlu batrwm - bod parseli'n cael eu danfon i gartrefi pobl oedd erioed wedi bod mewn trafferth gyda'r heddlu.
Ond roedd lleoliad man cynhyrchu'r steroidau yn dal yn ddirgel.
'Ddim yn ystyried fy hun yn droseddwr'
Dywedodd Andrew: "Do'n i ddim wir yn ystyried fy hun yn droseddwr... o'n i'n gweld fy hun fel perchennog busnes."
Ond wrth i'r heddlu dechrau holi rhai o'r bobl oedd yn derbyn parseli ar ei ran, daeth pwynt "lle do'n i ddim yn licio fy hun lot bellach".
Dros yr wythnosau nesaf fe wnaeth yr awdurdodau barhau i atal sawl archeb ac roedd yna adborth negyddol ar-lein gan gwsmeriaid anhapus.
Yna daeth yr heddlu o hyd i swmp o steroidau mewn fflat yn Llundain oedd yn eiddo i ddeliwr ar-lein, Terence Murrell.
Un o'i brif steroidau? Renvex.

Aeth Terence Murrell ar ffo cyn cael ei arestio yn Bali a'i garcharu yn 2021
Roedd Andrew a Macaulay erbyn hyn wedi dod o hyd i gyflenwr yn China a gytunodd i guddio'r cynhwysion mewn pecynnu losin.
Agorodd Andrew siop losin i dwyllo'r heddlu. Fe gynyddodd nifer yr archebion eto.
Ond fe amlygodd ddogfen yn fflat Murrell daliad i fusnes trin cŵn yn Rhuthun - y busnes a greodd Andrew i lanhau arian cyffuriau.
Daeth mwy o dystiolaeth i'r fei wrth edrych ar ffonau rhai o'r bobl oedd yn derbyn y parseli o dramor. Roedd pob un â rhif ffôn Andrew.
Daeth yr heddlu o hyd i'w gyfeiriad a'i ffilmio yn cludo bagiau llawn gwastraff o'r labordy steroidau i'r ganolfan ailgylchu.
'Rhyddhad o gael fy arestio'
Cafodd y tad a'r mab eu harestio wedi cyrch ar eu tŷ yn oriau mân y bore.
Roedd yr heddlu o'r diwedd wedi darganfod y labordy steroidau oedd yn ganolbwynt i fenter gwerth dros filiwn o bunnau.
"Falle bod hwn yn swnio'n rhyfedd, ond roedd bron teimlad o ryddhad ar y pryd," cofia Andrew.
"'Da chi ddim yn d'eud celwydd bellach, 'da chi ddim yn twyllo'ch teulu, eich ffrindiau.
"Mae'n teimlo fel ei fod o drosodd, mae o wedi gorffen."

Cafodd 12 o bobl ddedfrydau am eu rhan yn y fenter steroidau: Rhes uchaf (o'r chwith i'r dde): Annie Roberts, Andrew Dodd, Brian Craig, Christina Fisher, Craig Anholm, David Jenkins. Rhes waelod: Helen Massey, Colin Mark Sullivan, Macauley Dodd, Maureen Jenkins, Samantha Fletcher, Scott Watson.
Daeth i'r amlwg bod cyswllt gwreiddiol Andrew yn y dafarn, a ddaeth yn bartner busnes iddo, eisoes ar fechnïaeth dros ymgyrch steroidau aflwyddiannus arall.
Dair blynedd ar ôl eu harestio, yn 2018, plediodd y ddau yn euog mewn llys a chael eu dedfrydu i bum mlynedd o garchar.
Adeg y dedfrydu, prin oedden nhw'n siarad â'i gilydd, ond byddai carchar yn trawsnewid eu perthynas.
Gofynnodd Andrew i rannu cell gyda Macaulay, oedd bellach yn 23 oed.
"Y funud aethon ni mewn i'r gell efo'n gilydd, roedd rhaid cefnogi'n gilydd - 'da ni'n dîm rŵan," meddai.
"Bendant, carchar wnaeth achub ein perthynas ni," ychwanegodd Macaulay.
Roedd carchar hefyd yn gorfodi Macauley i roi'r gorau ar gymryd steroidau, oedd wedi gwneud iddo deimlo "ar goll" a'i stopio rhag "cael cyfle i brofi pwy yn union ydw i".
Newidiodd y carchar Andrew hefyd.
"Dwi wedi talu am yr hyn dwi wedi'i wneud. Doedd o ddim yn iawn, dwi'n gwybod hynny, a fydda i byth yn ei wneud o eto."