Llifogydd wedi difrodi eiddo am yr eildro yn ne Cymru

Diffoddwyr tân yn helpu person i ddiogelwch yn dilyn llifogydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sydd wedi bod yn aros i ddychwelyd i'w cartrefi yn dilyn llifogydd naw mis yn ôl wedi cael eu taro eto.
Mae'r glaw dros nos wedi effeithio ar gynlluniau, wrth i rai ddisgwyl bod yn ôl yn eu heiddo ym Mhen-y-bont ar Ogwr o fewn ychydig fisoedd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod criw wedi helpu menyw oedrannus i ddiogelwch gyda dŵr at eu canol mewn eiddo ar y llawr gwaelod.
Yn ôl Liam Reilly, sy'n 30, efallai y byddai'n rhaid iddo ef a'i bartner Ceri Thomas, sy'n 29, aros sawl mis ychwanegol cyn y byddan nhw'n gallu symud yn ôl i'w heiddo.

Dyma'r ail waith i fflat Liam Reilly gael llifogydd yn y 12 mis diwethaf
Fe gafodd Mr Reilly alwad yn oriau mân y bore i ddweud bod ffos gerllaw wedi gorlifo eto gyda dŵr yn mynd i mewn i'w fflat ar y llawr gwaelod am yr ail dro ers mis Medi diwethaf.
"Mae'n teimlo fel bod ein bywydau yn cael eu rhoi ar stop," meddai.
"Rydym yn sownd gydag eiddo na allwn fyw ynddo, ac mae'n rhaid i ni dalu amdano.
"A nawr byddwn ni'n byw gyda theulu."
Er bod Yswiriant gan Mr Reilly a Ms Thomas, fe gollon nhw bopeth yn ystod y llifogydd cyntaf felly roedd yr eiddo'n wag cyn y tywydd garw nos Wener.
"Mae'n rhaid i chi drio cadw i fynd" meddai.

Dywedodd Ms Fjaelberg fod "popeth yn barod" iddi symud yn ôl i mewn cyn y llifogydd diweddaraf
Mae Kim Fjaelberg, sy'n 66, wedi byw mewn fflat yn Nhŷ Caer Castell ers 2003.
Ar ôl i'r llifogydd y llynedd ddifrodi ei thŷ, bu'n byw mewn llety dros dro tra'i fod yn cael ei atgyweirio.
Dywedodd ei bod wedi talu tua £5,000 mewn costau ers mis Medi.
Roedd hi i fod i symud yn ôl i mewn yn yr wythnosau nesaf.
Yn ei dagrau, fe ddywedodd: "Dyma'r ail dro i mi fynd trwy hyn, mae'n dorcalonnus".
"Archebais ddodrefn ar gyfer fy ystafell wely, nawr mae'n rhaid i mi eu canslo.
"Ble ydw i'n mynd o fan hyn?" gofynnodd.
Mae digwyddiadau syrcas y penwythnos hwn wedi cael eu gohirio ar ôl i Ben-y-bont ar Ogwr wynebu llifogydd
Mae syrcas gafodd ei heffeithio wedi mynnu y bydd y sioe yn parhau - unwaith i bopeth sychu.
Roedd Uncle Sams Great American Circus wedi gosod eu pebyll a'u cerbydau ym maes sioe Pen-y-bont ar Ogwr pan gawson nhw eu deffro gan lifogydd.
Dywedodd Paul Martinez, rheolwr y syrcas, nad oedd gan y perfformwyr lawer o amser i ymateb.
"Cawsom rybudd am 1yb pan oedd pawb yn cysgu," meddai.
"Roedd yn wyllt, roedd yr holl garafanau wedi'u gorlifo yn ogystal â'r babell fawr. Roedd cadeiriau'n arnofio o gwmpas."

Mae Huw Tudur wedi byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers 20 mlynedd
Mae Huw Tudur sy'n rhedeg gwely a brecwast o'r enw Mair's yng nghanol y dref wedi disgrifio'r olygfa neithiwr.
Dywedodd y dyn 57 oed bod y dŵr "i fyny i 'mhigyrnau. Fe allwch chi fod wedi arnofio canŵ i lawr ganol y stryd."
Aeth ymlaen i ddweud bod tafarn Weatherspoons y dref "wedi ei chael hi'n wael unwaith eto".
"Achos ni a nhw ydy'r prif lefydd i aros yn y dref ni'n cydweithio efo'n gilydd.
"Natho nhw ffonio fi neithiwr i ofyn os oedd gen i le, does genai ddim yn anffodus, oherwydd mae gyda nhw drigolion sydd methu â defnyddio'r cyfleusterau."
Dywedodd, "roedd hi'n feiblaidd bron y ffordd roedd y dŵr yn mynd trwy'r dref neithiwr"
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi diwygio rhybudd tywydd ar gyfer stormydd yng Nghymru a rhannau o Loegr ddydd Sadwrn, gan newid yr ardal sydd am gael ei heffeithio i rannau o'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, mae adroddiadau bod glaw trwm a stormydd taranllyd wedi bod ledled Cymru nos Wener a bore dydd Sadwrn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.