Rhybudd am wyntoedd cryfion a glaw trwm dros y dyddiau nesaf

- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y bydd gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn effeithio ar rannau helaeth o Gymru dros y dyddiau nesaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn am wynt, fydd mewn grym o 08:00 tan 15:00 ddydd Gwener.
Bydd yn taro arfordir y gogledd a'r de yn bennaf, ond mae'r rhybudd yn weithredol ar gyfer rhai mannau mwy mewndirol hefyd.
Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai hyrddiadau daro 70mya ar adegau, ac y gallai gael effaith ar drafnidiaeth a chyflenwadau trydan.
Erbyn hyn mae 'na rybudd am wyntoedd cryfion i Gymru gyfan ddydd Sul hefyd - a glaw trwm mewn mannau.
Mae'r rhybudd gwynt mewn grym rhwng 06:00 a 18:00, ond mae disgwyl i'r gwyntoedd mwyaf nerthol daro'n hwyr yn y bore ac yn fuan yn y prynhawn.
Fe allai glaw trwm syrthio am hyd at 12 awr yn y de ddydd Sul - rhwng 09:00 a 21:00 - meddai'r Swyddfa Dywydd.
Mae siawns bychan o lifogydd oherwydd hynny, gyda phosibilrwydd o tua 60-90mm o law yn y mannau gwlypaf, mwyaf agored.