Dedfrydu dau o Geredigion am ladd mochyn daear a'i daflu i gors

Mochyn daearFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Siôn Davis a Gwynli Edwards saethu mochyn daear yn farw, cyn taflu ei gorff i gors

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn o Geredigion wedi cael eu dedfrydu am ladd mochyn daear, cyn llusgo ei gorff marw a'i daflu i gors yn Sir Gâr.

Cafodd Siôn Davis a Gwynli Edwards eu dedfrydu ddydd Mercher i 16 mis o garchar wedi'i ohirio.

Clywodd y llys eu bod wedi saethu'r mochyn daear yn farw yn ardal Esgairdawe yn Sir Gâr ar 6 Ionawr 2024, cyn llusgo ei gorff marw i lawr rhiw, a'i daflu i gors gyfagos.

Cafodd y ddau eu dal ar ôl i aelod o'r cyhoedd anfon ffotograffau o'u hymddygiad amheus i'r RSPCA.

Bu'r RSPCA yna'n cydweithio â thîm troseddau gwledig Heddlu Dyfed-Powys i erlyn Davis ac Edwards.

Tyst wedi tynnu lluniau o'r cyfan

Ar 6 Ionawr 2024 fe welodd aelod o'r gymuned griw yn amharu ar set moch daear yn ardal Esgairdawe.

Fe welodd y ddynes bod anifail trwm yn cael ei lusgo i lawr y rhiw, cyn iddo gael ei daflu dros ffens i mewn i gors.

Dywedodd ei bod hefyd wedi gweld dyn arall yn cario ci â gwaed ar ei goesau mewn un fraich, a gwn yn y llall.

Roedd gan y tyst gamera gyda lens delesgopig, ac fe lwyddodd i dynnu lluniau o'r cyfan a hysbysu'r RSPCA.

Ar yr un diwrnod fe gasglodd yr RSPCA dystiolaeth o'r lleoliad, gan gynnwys corff marw'r mochyn daear.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am y digwyddiad hefyd, ac fe gadarnhaodd archwiliad pellach o'r corff bod yr anifail wedi'i saethu'n farw.

Mochyn daearFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lladd mochyn daear yn anghyfreithlon heb y trwyddedau a chaniatâd priodol

Cafodd Davis ac Edwards eu hadnabod o'r lluniau a'u harestio fis Ebrill 2024.

Daeth chwiliadau pellach o'u heiddo o hyd i gyfanswm o naw gwn, gan gynnwys y gwn yr oedd yr heddlu'n credu y defnyddiwyd i ladd y mochyn daear.

Daethon nhw hefyd o hyd i'r beic cwad a welodd y tyst, ynghyd ag eitemau sy'n gysylltiedig â hela moch daear.

Talu costau o £4,960

Cafodd Siôn Davis ei gyhuddo ymyrryd â set moch daear, defnyddio arf saethu i ladd mochyn daear, a lladd mochyn daear yn fwriadol.

Plediodd yn euog i'r tri chyhuddiad yn Llys y Goron Llanelli ar 27 Mawrth eleni.

Plediodd Gwynli Edwards yn euog i ymyrryd â set moch daear a meddu ar fochyn daear marw.

Cafodd y ddau eu dedfrydu ddydd Mercher i 16 mis o garchar wedi'i ohirio, ac fe gaf Davis orchymyn hefyd i gyflawni 250 awr o waith cymunedol di-dâl.

Yn ogystal, cafodd y ddau eu gorchymyn i dalu costau o £4,960.