Gêm gyfartal i Gymru oddi cartref yn erbyn Twrci
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Cymru frwydro i gael gêm gyfartal yn erbyn Twrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Sadwrn.
Dyma oedd pumed gêm Craig Bellamy wrth y llyw a nid yw Cymru wedi colli ers iddo gymryd yr awennau.
Roedd pedwar newid i'r tîm a ddechreuodd yn erbyn Montenegro fis diwethaf gyda Kieffer Moore, Wes Burns a'r amddiffynnwr Owen Beck i gyd wedi’u hanafu.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn parhau yn yr ail safle yng ngrŵp 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd,
Roedd yr hanner cyntaf yn llawn cyffro gyda chefnogaeth i'r tîm cartref yn atseinio'n gryf o un pen y cae i'r llall.
Er i Gymru gael sawl cyfnod ar y droed flaen i roi Twrci dan bwysau, y tîm cartref oedd yn rheoli'r meddiant gyda sawl cyfle addawol at y gôl.
Cafodd Twrci 11 ymdrech at y gôl yn ystod yr hanner cyntaf, o'i gymharu a dim ond un gan y Cymry.
Daeth cyfle mwyaf addawol y tîm cartref gyda rediad cyflym yr ymosodwr Ynus Akgun ond llwyddodd Karl Darlow i atal y bêl rhag croesi'r llinell.
Roedd saib yn y gêm ym munudau olaf yr hanner cyntaf wrth i Joe Rodon a Mark Harris dderbyn triniaeth ar y cae ar ôl taro eu pennau yn erbyn ei gilydd.
Wedi i'r gêm ail-ddechrau daeth eiliad o obaith i'r Cymry.
Fe wnaeth Harry Wilson gymryd cyfle gyda'i droed chwith ond tarodd y bêl yn erbyn y postyn mewn ymdrech agos iawn.
Yn dilyn hanner cyntaf llawn cyffro di-sgôr oedd hi ar yr egwyl.
Cafodd Cymru ddechrau mwy cyfforddus i'r ail hanner. Daeth Daniel James ymlaen i gymryd lle Mark Harris a dangosodd ei gyflymder wrth ymyl Sorba Thomas a Brennan Johnson.
Gyda'r dorf yn parhau i ysgogi'r tîm cartref, dechreuodd Cymru i golli'r bêl yn aml yng nghanol y cae.
Fe ildiodd Sorba Thomas gic rydd am gyffwrdd a'r bêl gyda'i law ond roedd ergyd Orkun Kokcu yn rhy llydan i roi Twrci ar y blaen.
Yr un oedd canlyniad y ddau gyfle nesaf - teithiodd y bêl yn llydan heibio'r gôl.
Daeth ergyd i Gymru wrth i Joe Rodon dderbyn garden felen ac ildio cic o'r smotyn i'r tîm cartref - tarodd y bêl y postyn unwaith eto.
Bydd Cymru yn croesawu Gwlad yr Iâ i Gaerdydd ddydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd