Dynion yn y llys mewn cysylltiad â 'rhyfel tir rhwng barbwyr'

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Fawr y Coed Duon, cyn cael eu galw i Drecelyn yn fuan 10 munud yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Mae saith dyn wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad ag adroddiadau o anhrefn dreisgar mewn dwy dref yng Ngwent yr wythnos ddiwethaf.
Clywodd Llys Ynadon Casnewydd bod yr achos yn ymwneud â "rhyfel tir rhwng barbwyr".
Clywodd y llys fod helynt wedi dechrau ar Stryd Fawr y Coed Duon brynhawn Iau, oherwydd anghytuno ynglŷn ag agor siop farbwr newydd yn Nhrecelyn gerllaw.
Dywedwyd bod 16 o bobl ynghlwm â'r digwyddiad, gyda nifer wedi dioddef anafiadau - ac un angen pwythau ar ôl cael ei drywanu.
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
Fe wnaeth saith o bobl ymddangos yn y llys ddydd Llun wedi'u cyhuddo o anrhefn dreisgar.
Y saith oedd:
Bave Hamed, 30, o'r Coed Duon
Shahab Husseini, 24, o Bont-y-pŵl
Sardam Ebrahimi, 25, o Oakdale
Bryar Muradi, 28, o Oakdale
Alan Karimi, 30, o Gaerdydd
Adnan Mohamad, 29, o Gaerdydd
Krmanj Sadiq, 29, o Gaerdydd
Ni chafodd yr un o'r saith fechnïaeth, ac mae disgwyl iddynt ymddangos nesaf yn Llys y Goron Casnewydd ar 17 Mawrth.