Trelái: Dau ffrind wedi marw o anafiadau sylweddol i'r pen

  • Cyhoeddwyd
Kyrees a HarveyFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harvey Evans, yn 15, a Kyrees Sullivan, yn 16

Mae crwner wedi clywed bod aelod o'r cyhoedd wedi dod o hyd i ddau fachgen fu farw ar ôl i'w beic trydan fod mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, ar Ffordd Snowden yn ardal Trelái'r ddinas ar 22 Mai.

Fe wnaeth eu marwolaethau arwain at anhrefn yn dilyn y digwyddiad, gyda cheir yn cael eu difrodi a swyddogion heddlu'n cael eu hanafu.

Mae ymchwiliad hefyd yn cael ei gynnal bellach wedi iddi ddod i'r amlwg fod fan heddlu wedi bod yn dilyn y bechgyn ychydig cyn y digwyddiad - rhywbeth sydd wedi cyfrannu at y tensiynau yn lleol.

Clywodd Llys y Crwner ym Mhontypridd fod casgliadau rhagarweiniol archwiliad post mortem yn dangos fod y ddau wedi dioddef anafiadau angheuol ar ôl dod oddi ar y beic.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd teyrngedau eu gadael i'r ddau ffrind, Harvey Evans a Kyrees Sullivan, wedi'r digwyddiad

Bu farw Kyrees Sullivan o "ergyd sylweddol i'r pen", a bu farw Harvey Evans o ganlyniad i "ergyd sylweddol i'r pen a'r corff".

Daeth i'r amlwg wedi'r digwyddiad fod y sgwter trydan oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad yn anrheg pen-blwydd cynnar i Harvey Evans.

Penderfynodd y crwner Patricia Morgan fod y marwolaethau yn "dreisgar neu annaturiol" ac felly bod angen cwest llawn.

Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau'r heddlu i'r gwrthdrawiad yn parhau.

Dywedodd ei bod am estyn ei "chydymdeimladau mwyaf dwys i deuluoedd y trasiedi".

Pynciau cysylltiedig