Gwynedd i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2028?

arwydd croesoFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gynghorwyr sir Gwynedd gymeradwyo gwahoddiad swyddogol i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2028.

Bydd cabinet y cyngor yn trafod adroddiad ddydd Mawrth nesaf, sy'n gofyn i aelodau gymeradwyo "ymrwymiad mewn egwyddor" i wahodd yr ŵyl mewn tair blynedd.

Mae'r argymhelliad hefyd yn gofyn am gymeradwyo cyfraniad o £200,000 tuag at gostau cynnal yr Eisteddfod, sy'n cyfateb i tua 8% o'r holl gostau.

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Gwynedd oedd Y Bala yn 2014, a chyn hynny Glynllifon ger Bangor yn 2012 a Llŷn yn 1998.

Mater i'r Urdd a'r pwyllgorau lleol fyddai penderfynu ar union leoliad yr ŵyl.

"Mae costau cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi cynyddu yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf," meddai'r adroddiad, sydd hefyd yn cydnabod "budd economaidd i'r ardal yn sgil croesawu'r ŵyl".

"Yn 2023, roedd gwerth economaidd yr ŵyl yn Sir Gâr yn £8.5m, ac felly mae'r cyfraniad ariannol gan yr Awdurdod Lleol perthnasol yn fuddsoddiad mewn gŵyl sy'n dod â budd yn ôl i'r ardal."

Bydd yr ŵyl eleni yn cael ei chynnal ym Mharc Margam, Port Talbot, cyn teithio i Ynys Môn yn 2026, a Chasnewydd yn 2027.

Pynciau cysylltiedig