Anrhydeddu pedwar am gyfraniad arbennig i'r Urdd

Mae sylfaenydd Adran Sgeti, Menna Bennett Joynson a Phennaeth y Gwasanaeth Cerdd Beripatetig yng Nghastell-nedd Port Talbot, Wayne Pedrick ymhlith y llywyddion
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwirfoddolwyr fydd yn cael eu hanrhydeddu am eu "cyfraniad arbennig dros y degawdau" yn Eisteddfod yr Urdd eleni wedi eu cyhoeddi.
Pedwar Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 fydd Davida Lewis, Janet Jones, Menna Bennett Joynson a Wayne Pedrick.
Mae'r Urdd yn disgrifio'r anrhydeddau fel "cyfle i ddiolch i griw o wirfoddolwyr lleol am werth degawdau o waith gwirfoddol", gyda seremoni i ddilyn yn ystod yr ŵyl ddiwedd mis Mai.
Dywedodd Llio Maddocks ar ran y mudiad fod "gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith a chyrhaeddiad yr Urdd" a bod y pedwar dan sylw wedi rhoi dros 160 o flynyddoedd o gefnogaeth i'r Urdd.
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Pwy yw Llywyddion Anrhydeddus 2025?
Davida Lewis

Fe wnaeth Davida Lewis sefydlu Côr Plant Waunarlwydd a Chôr Waunarlwydd
Wedi ei magu yn Abertawe, mae Davida Lewis wedi treulio'i hoes ym mro'r Eisteddfod.
Ffurfiodd dau gôr lleol; Côr Plant Waunarlwydd yn 1965 a Chôr Waunarlwydd yn 1970, ac mae'r corau wedi cael cryn lwyddiant yn lleol ac yn rhyngwladol ers 60 mlynedd.
Mae'r corau'n parhau a Davida bellach wedi trosglwyddo'r awenau arweinyddol ac yn mwynhau bod yn aelod.
Bydd dwyn y teitl Llywydd Anrhydeddus yn yr Eisteddfod yn ei hardal yn goron ar y cyfan, wedi iddi gael llu o brofiadau a llwyddiant mewn Eisteddfodau dros y degawdau.
Menna Bennett Joynson
Cafodd Menna ei geni yn Llanidloes cyn i'w theulu symud i Lanuwchllyn ac yna Aberystwyth.
Mae wedi cael cryn lwyddiant yn y maes canu cerdd dant yn Eisteddfodau'r Urdd, ac yn ystod ei swydd fel athrawes gerdd yn Rhydfelen cafodd gyfle i hyfforddi'r disgyblion i ganu a chystadlu yn yr Eisteddfod.
Yn 1976 symudodd Menna i Abertawe gyda'i gŵr a magu tri o blant yn lleol.
Sefydlodd Menna Adran Sgeti yn 1978 a ddatblygodd wedyn yn Aelwyd yr Urdd Sgeti, ac aethant ymlaen i gael cryn lwyddiant yn Eisteddfodau'r Urdd.
Penodwyd Menna yn athrawes gerdd yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn athrawes delyn beripatetig yn yr ardal.
Mae'n nodi bod ei dyled a'r holl brofiadau mae hi a'i disgyblion wedi cael trwy'r Urdd wedi cyfoethogi ei bywyd yn fawr.
Janet Jones

Janet Jones yw arweinydd 'Parti Llwchwr'
Wedi'i magu yng Nghasllwchwr, mae Janet yn byw yng Nghastell-nedd ers dros 40 mlynedd.
Bu'n cystadlu'n gyson ar lwyfannau gan ennill sawl prif wobr yn Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Janet yw arweinydd 'Parti Llwchwr' ac mae hi wedi rhannu ei doniau cerddorol wrth hyfforddi plant i ganu a pherfformio mewn Eisteddfodau a digwyddiadau lu dros y blynyddoedd.
Sefydlodd 'Adran Nedd' yn 1993 er mwyn cynnig profiadau diwylliannol a Chymreig i ieuenctid yr ardal, ac yn dilyn llwyddiant y grŵp, sefydlodd 'Uwch Adran Nedd' i sicrhau bod y profiadau'n parhau.
At hyn mae wedi bod yn aelod gweithgar o Bwyllgor Cylch Nedd ac Afan, ac yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Rhanbarthol. Janet yw un o Is-gadeiryddion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Dur a Môr eleni.
Wayne Pedrick
Profiad cyntaf Wayne o Eisteddfod yr Urdd oedd trwy ei blant Lisa ac Aled, fel disgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Gwaun Cae Gurwen ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Roedd y ddau wrth eu boddau'n cystadlu, gydag Aled yn cipio gwobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2003 yn Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan.
Roedd Wayne yn gweithio yn y gwaith glo lleol. Yn 1998 cafodd swydd fel athro pres peripatetig, gan annog a chefnogi ei ddisgyblion i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, fel unawdwyr ac fel ensemble.
Fe'i penodwyd yn Bennaeth y Gwasanaeth Cerdd Beripatetig yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2016 ac mae'n helpu rhedeg tair cerddorfa ieuenctid ac iau, tri band pres ieuenctid ac iau a Chôr Ieuenctid a Band Mawr.
Mae Wayne hefyd yn rhoi o'i amser i feirniadu cystadlaethau offerynnol mewn Eisteddfodau Rhanbarth a Chenedlaethol.

Laurel Davies yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2025
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Laurel Davies fod "y pedwar ohonyn nhw'n cynrychioli'r rhanbarth yn arbennig".
"Mae rhanbarth gorllewin Morgannwg yn rhanbarth eang iawn, ac fel pwyllgor gwaith o'n ni'n awyddus iawn i sicrhau bod cynrychiolaeth o'r ardal gyfan.
"Ni'n credu bod y pedwar sydd gyda ni wir yn haeddu'r gydnabyddiaeth."
Ychwanegodd Ms Davies ei bod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu Cymru gyfan i'r fro ymhen ychydig wythnosau.
"Ma' effaith yr Eisteddfod i'w weld yn barod... Beth o'n ni moyn oedd bod y profiadau mae'r Eisteddfod yn ei gynnig i blant yn cael ei ehangu.
"Be' ni 'di gweld yn yr ardal fan hyn yw ysgolion ail iaith yn gweld sut mae'r Eisteddfod yn gallu cynnig profiadau a chyfleoedd... a bod yr Eisteddfod hefyd yn perthyn iddyn nhw."
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam rhwng 26 a 31 Mai.