'Heb Myrddin, bydden ni ddim wedi cael Lord of The Rings na Game of Thrones'

Nod y prosiect ydy gwneud Myrddin yn hysbys i bawb, meddai Dr Dylan Foster Evans
- Cyhoeddwyd
Yn chwedl y Brenin Arthur, un o'r ffigyrau allweddol yw ei gyfaill, y dewin Myrddin.
Ond mae stori Myrddin yn llawer mwy Cymreig na'r disgwyl, ac yn mynd yn ôl ymhellach na'r chwedl Arthuraidd.
Mae tîm o ymchwilwyr o brifysgolion Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect ers 2021 i ddod â chasgliad o farddoniaeth Cymraeg sydd, mae'n debyg, yn perthyn i Myrddin - neu Merlin yn Saesneg - i'r golwg unwaith eto.
"Y peth am Myrddin yw ei fod o'n un o'r cymeriadau enwocaf o lenyddiaeth Ewropeaidd o'r Oesoedd Canol hyd heddiw," meddai arweinydd y prosiect, Dr Dylan Foster Evans, wrth raglen Radio Wales Breakfast.
"Heb Myrddin, dwi ddim yn credu y bydden ni wedi cael The Lord of The Rings, na Game of Thrones. Mae pawb wedi clywed yr enw."
'Ffigwr byd-enwog'
Dywedodd Dr Evans os bu Myrddin yn byw erioed byddai hynny wedi bod yn y chweched ganrif, ond bod hynny'n anodd i'w brofi gan fod y cyfnod mor bell yn ôl a "phrin dim ffynonellau".
Daw'r farddoniaeth y mae'r prosiect wedi'i archwilio o'r 12fed ganrif a barddoniaeth Gymraeg ydi hi.
"Er ein bod ni'n gwybod am y gwaith yma drwy'r ysgrifau," meddai Dr Evans, "dyw'r gwaith heb gael ei drin yn iawn, nid yw wedi'i olygu, na'i gyfieithu, a dydy o ddim wedi bod ar gael i bobl."
Ond mae'r prosiect hwn yn gobeithio newid hynny, meddai.
"Mae gennym ni'r ffigwr byd-enwog yma yng Nghymru, a nod y prosiect hwn yw gwneud hynny'n hysbys i bawb."

Mae Dr Evans yn pwysleisio nad Myrddin gyfansoddodd y farddoniaeth hon, ond yn hytrach ei bod wedi'i chyfansoddi yn ei lais.
Daw'r farddoniaeth o ysgrifau sydd fymryn yn hŷn na'r ysgrifau o farddoniaeth Gymraeg cynharaf oedd wedi'u harchwilio ynghynt – mae rheiny'n dyddio o tua'r 13eg ganrif.
Os nad ef yw'r bardd, pwy yw Myrddin?
Yn yr ysgrifau hyn caiff Myrddin ei ddisgrifio fel "Arglwydd pwysig, a fu'n ymladd mewn brwydr a'i gyrddodd o'i go'".
"Wedi hynny, mae'n cilio i goedwig ac yn ymddiddan â chyfoedion yn fanno," meddai Dr Evans.
"Gallai rheiny fod yn foch bach yn y goedwig, neu efallai'n goeden. Yn aml mae'n sôn am yr hyn sydd o'i amgylch.
"Mae o hefyd yn broffwyd. Mae'n sôn am y dyfodol, am yr hyn sydd i ddod ac am yr hyn a ddaw o'r Cymru a'u llywodraethwyr.
"Felly mae'n edrych ymlaen, yn edrych yn ôl, yn meddwl am yr amgylchedd, yn meddwl am ddyfodol y Cymry.
"Ac yn y deunydd Cymraeg cynnar, nid yw'n cael ei gysylltu ag Arthur. Mae hynny'n rhywbeth sy'n digwydd yn hwyrach gan un o ffigyrau pwysig yr Oesoedd Canol, dyn o'r enw Sieffre o Fynwy."

Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r ysgrifau gafodd sylw gan y prosiect
Mae'r Cymry wedi dychwelyd at ffigwr Myrddin dro ar ôl tro, eglurodd Dr Evans, "yn enwedig mewn cyfnodau o argyfwng, fel Rhyfel y Rhosod yn y 15fed ganrif, neu'r rhyfel cartref yn yr 17eg ganrif".
"Pan oedd y Cymry yn mynd drwy gyfnodau o newid mawr, yn aml iawn at lais Myrddin y bydden nhw'n troi i archwilio'r materion hynny."
Dywedodd: "Mae'r cwestiwn a oedd o'n bodoli yn llai pwysig na'r cwestiwn pam a sut yr oedd o'n cael ei ddefnyddio, a pham mai ei lais o oedd pobl Cymru eisiau ei glywed."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024