Dyn yn yr Old Bailey wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio plismyn

Alexander Stephen DightonFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alexander Stephen Dighton yn wynebu saith cyhuddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed wedi ymddangos yn llys yr Old Bailey wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i dri swyddog gael eu hanafu y tu allan i orsaf heddlu fis diwethaf.

Mae'r achos yn ymwneud â digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, nos Wener 31 Ionawr.

Mae Alexander Stephen Dighton o Lantrisant yn wynebu saith cyhuddiad i gyd, gan gynnwys ceisio llofruddio ac ymosod ar weithiwr brys.

Fe wnaeth Mr Dighton ddewis cynrychioli ei hun yn y llys yn Llundain.

Swyddogion yn ymchwilio
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tri swyddog eu hanafu, gyda dau yn cael eu cludo i'r ysbyty am driniaeth yn dilyn y digwyddiad

Fe wnaeth swyddogion ymateb yn dilyn adroddiadau bod rhywun yn difrodi cerbydau heddlu ac yn "achosi aflonyddwch".

Cafodd tri swyddog eu hanafu, gyda dau yn cael eu cludo i'r ysbyty am driniaeth. Fe gafodd y ddau eu rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach.

Fe gafodd Mr Dighton ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn yr Old Bailey eto ar gyfer gwrandawiad arall ar 28 Mawrth.

Pynciau cysylltiedig