Dyn yn y llys wedi digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu yn Nhonysguboriau nos Wener.
Mae Alexander Stephen Dighton o Lantrisant yn wynebu saith cyhuddiad i gyd - gan gynnwys ceisio llofruddio ac ymosod ar weithiwr brys.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun fe wnaeth Mr Dighton - sydd wedi dewis cynrychioli ei hun - gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ymosod, cynnau tân yn fwriadol, achosi difrod troseddol, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant a bod ag arf llafnog yn ei feddiant.
Mae'r achos yn ymwneud â digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu yn Nhonysguboriau am tua 19:00 nos Wener, 31 Ionawr.
Fe wnaeth swyddogion ymateb yn dilyn adroddiadau bod rhywun yn difrodi cerbydau heddlu ac yn "achosi aflonyddwch".
Cafodd tri swyddog heddlu eu hanafu, a bu'n rhaid i ddau gael triniaeth ysbyty wedi'r digwyddiad.
Mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
Gan fod natur y cyhuddiadau mor ddifrifol, cafodd yr achos ei gyfeirio at Llys y Goron.
Fe fydd Mr Dighton yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl