'Lladrad Amgueddfa Sain Ffagan yn rhan o batrwm ar draws Ewrop'

Fe gafodd coron Marie-Amélie ei dwyn yn ystod lladrad amgueddfa'r Louvre ym Mharis ar 19 Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae lladrad gemwaith hanesyddol o amgueddfa yng Nghymru yn rhan o batrwm ehangach dros Ewrop a welodd lladron yn targedu'r Louvre yn Ffrainc hefyd, yn ôl prif swyddog.
Dywedodd prif weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson, fod pris uchel aur a maint bychan eitemau fel gemwaith wedi arwain at ladron yn targedu sefydliadau sy'n gwarchod trysorau cenedlaethol.
Ddechrau Hydref fe wnaeth trysorau unigryw gael eu cymryd o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, ger Caerdydd.
Dywedodd Ms Richardson bod yr hyn ddigwyddodd yn Sain Ffagan ar 6 Hydref yn debyg i'r hyn ddigwyddodd yn amgueddfa fyd-enwog y Louvre ym Mharis yn ddiweddarach yn y mis.
Dywedodd Ms Richardson bod rhaid penderfynu beth i'w rannu gyda'r cyhoedd yn sgil y pryderon, ond bod rhaid cael balans oherwydd "be' ydy'r pwynt os mae'r pethe arbennig tu ôl i ddrysau ar gau".

Fe wnaeth lladron ddwyn gwerth £77m o emwaith mewn wyth munud wedi iddyn nhw dorri i mewn i amgueddfa'r Louvre ym Mharis o'r balconi yma
Am 09:30 ar 19 Hydref ym Mharis, fe wnaeth lladron ddefnyddio craen i gael mynediad i ystafell ar lawr cyntaf y Louvre yn fuan wedi i'r drysau gael eu hagor i'r cyhoedd.
Cafodd trysorau o gyfnod Napoleon eu dwyn cyn i sawl person ddianc ar feiciau modur.
Fis ynghynt yn Ffrainc fe gafodd gwerth €600,000 o aur ei ddwyn o Amgueddfa Hanes Naturiol ym Mharis, ac fe gafodd eitemau gwerth €6.5m eu dwyn o Amgueddfa Porslen yn Limoges.
Dair blynedd yn ôl fe gafodd darnau aur eu dwyn o Amgueddfa Geltaidd a Rhufeinig yn Augsburg, yr Almaen.
Tafarn eiconig y Vulcan yn ailagor yn Sain Ffagan
- Cyhoeddwyd9 Mai 2024
Storio gwerth 150 mlynedd o hanes... cyn i'r adeiladwyr gyrraedd
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
'Sanffaganaidd' ymhlith cannoedd o eiriau newydd i'r geiriadur
- Cyhoeddwyd19 Awst
Dywedodd Ms Richardson mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru: "Mae 'na trend ar hyn o bryd dros Ewrop ac mae lladron yn chwilio am aur a phethau fel aur.
"Mae'n fach ac mae'n ddrud so dydyn nhw ddim yn chwilio am bethau fel Picassos neu bethau tricky fel yna. Maen nhw isio pethau bach, werth lot o bres. Mae'r Louvre wedi cael yr un profiad."
Mae'n anodd iawn i ladron werthu eitemau fel hyn oherwydd byddai arbenigwyr yn gwybod yn syth eu bod wedi eu dwyn. Y pryder ydy eu bod yn cael eu dinistrio er mwyn gwerthu'r aur a'r gemau, ac mae Amgueddfa Cymru yn rhannu'r ofnau hyn.
Meddai'r prif weithredwr: "Mae genno ni ofn bod nhw isio meltio nhw lawr - dyna'r peth. Achos dim ots iddyn nhw, maen nhw just isio'r aur.
"Does ganddyn nhw ddim diddordeb yn yr hanes felly mae'r tîm yn yr amgueddfa yn poeni am hynny."

Roedd prif weithredwr Amgueddfa Cymru Jane Richardson yn siarad mewn cyfweliad gyda Beti George
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw tua 00:30 ar 6 Hydref wedi i nifer o eitemau, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o arddangosfa ym mhrif adeilad Amgueddfa Werin Cymru.
Mae dau ddyn o ardal Northampton wedi eu cyhuddo yn dilyn y lladrad ond mae'r heddlu yn parhau i chwilio am yr eitemau a gafodd eu cipio.
Yn ystod ei chyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol dywedodd Ms Richardson bod gweld fideo o'r lladrad wedi bod yn sioc iddi.
Ychwanegodd eu bod wedi trafod cynlluniau diogelwch gydag amgueddfeydd eraill ers y digwyddiad ond bod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn gyson o fewn y diwydiant.

Mae Sain Ffagan wedi gwarchod eitemau hanesyddol Cymru ers iddi agor ei drysau yn 1948
Dywedodd bod amgueddfeydd yn darged i ladron oherwydd yr holl eitemau gwerthfawr sydd yn eu meddiant, a'r ffaith nad ydy'n bosib cadw popeth yn hollol ddiogel oherwydd natur y gwaith.
Meddai: "Mae'n anodd dydy i gadw pethe yn saff iawn. I sicrhau'r diogelwch rhaid i ni gadw pethe mewn safe neu strong room so os maen nhw allan mae 'na risg.
"So rhaid i ni benderfynu be' ddyla' ni rannu efo'r cyhoedd. Ond be' ydy'r pwynt os mae'r pethe arbennig tu ôl i ddrysau ar gau.
"Pobl Cymru biau'r eitemau dim yr amgueddfa felly mae'n bwysig i bobl Cymru eu gweld nhw."
Dywedodd nad oedd yn bosib siarad am rai materion ynglŷn â'r lladrad gan fod yr achos yn fyw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.