'Y Ceidwadwyr heb gyllido cynllun i gefnogi gweithwyr Tata'
- Cyhoeddwyd
Doedd y gronfa gwerth £80m i gefnogi gweithwyr dur Tata ddim wedi ei chyllido gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd Jo Stevens nad oedd arian wedi ei neilltuo ar gyfer y gronfa i helpu gweithwyr i wella sgiliau a dod o hyd i waith.
Mewn cyfweliad a rhaglen Politics Wales ddydd Sul, esboniodd ei bod hi wedi darganfod "nad oedd yr arian yno - doedd o ddim yn bodoli".
Gwrthod yr awgrym nad oedd y cynllun wedi ei gyllido wnaeth cyn-Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, a ddisgrifiodd sylwadau Ms Stevens fel ymgais i dynnu sylw oddi ar faterion eraill.
Ond mae swyddogion o fewn Swyddfa Cymru wedi cadarnhau nad oedd arian wedi ei glustnodi ar gyfer y gronfa.
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd29 Medi 2024
Cafodd £80m ar gyfer y gronfa ei gynnwys yn y gyllideb a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher gan y Canghellor Rachel Reeves
Yn wreiddiol, cafodd y cynllun ei gyhoeddi nôl ym mis Medi y llynedd gan Ysgrifennydd Busnes y Ceidwadwyr ar y pryd, Kemi Badenoch.
Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn mai Ms Badenoch yw arweinydd newydd y blaid Geidwadol, ac mae hi wedi cael cais am ymateb.
'Syfrdanol'
Dywedodd Ms Stevens ei bod hi "wedi llwyddo i berswadio'r Trysorlys i ddod o hyd i arian o fannau eraill er mwyn rhyddhau £13.5m dros yr haf, fel bod modd sefydlu'r gronfa a chefnogi'r gweithwyr a'r busnesau sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi".
"Ro'n i hefyd wedi llwyddo i berswadio'r Trysorlys i gadarnhau gwerth £80m o gyllid ar gyfer y gronfa, ac £20m ar gyfer y cynllun i gefnogi canol tref Port Talbot."
Yn ôl undeb Community, mae'r awgrym nad oedd y llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi ariannu'r gronfa yn "gwbl syfrdanol".
Awgrymodd Swyddog Cenedlaethol yr undeb fod hyn "yn adrodd cyfrolau o ran difaterwch y llywodraeth flaenorol ynglŷn â dyfodol y gweithwyr dur a'r cymunedau sydd wedi eu heffeithio".
Wrth ymateb i sylwadau Ms Stevens, dywedodd ei rhagflaenydd, David TC Davies: "Roedd y gronfa wedi ei gyllido yn llawn.
"Ymgais yw hyn gan Ysgrifennydd Cymru i geisio tynnu sylw i ffwrdd o'r effaith y mae'r gyllideb am ei gael ar fusnesau bach a ffermydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Mae'r llywodraeth newydd wedi bod yn glir ein bod ni wedi etifeddu sefyllfa heriol, gyda gwerth £22bn o gynlluniau gwariant oedd ddim wedi eu cyllido.
"Un o'r addewidion yma oedd y gronfa gwerth £80m i gefnogi gweithwyr Tata.
"Wedi'r gyllideb ar 30 Hydref, mae'r gronfa bellach wedi ei chyllido yn llawn, a bydd yn parhau i gefnogi'r gweithwyr a'r busnesau sydd wedi eu heffeithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024
- Cyhoeddwyd11 Medi 2024
- Cyhoeddwyd31 Awst 2024