Chwe Gwlad: Tair i ennill eu capiau cyntaf yn erbyn yr Alban

Hannah Jones fydd capten Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni
- Cyhoeddwyd
Bydd Maisie Davies, Jenni Scoble ac Alaw Pyrs yn ennill eu capiau cyntaf wrth i Gymru herio'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Dyma fydd gêm gyntaf y prif hyfforddwr newydd, Sean Lynn wrth y llyw.
Fe fydd Davies a Scoble yn dechrau yn y rheng flaen gyda'r bachwr profiadol Carys Phillips, tra bod Pyrs wedi ei dewis yn yr ail reng wrth ochr Abbie Fleming.
Y canolwr Hannah Jones sydd wedi ei dewis yn gapten ar gyfer y bencampwriaeth eleni, tra bod ei chyd-chwaraewyr gyda Hartpury-Caerloyw - y blaenasgellwyr Kate Williams a Bethan Lewis a'r maswr Lleucu George - hefyd wedi eu dewis i ddechrau'r gêm yng Nghaeredin.

Fe gollodd Cymru o 18-20 yn erbyn yr Alban yn y Chwe Gwlad y llynedd
Jasmine Joyce, sydd wedi cynrychioli tîm Prydain deirgwaith yn y Gemau Olympaidd, fydd yn dechrau yn safle'r cefnwr gyda Lisa Neumann a Carys Cox yn cwblhau'r tri ôl.
Georgia Evans fydd yn chwarae yn safle'r wythwr, tra bod Kayleigh Powell o'r Harlequins wedi ei dewis yn y canol gyda Jones.
Fe fydd Cymru yn gobeithio am ganlyniadau gwell yn y bencampwriaeth eleni ar ôl ennill dim ond un gêm, a hynny ar y penwythnos olaf yn erbyn yr Eidal.

Cafodd Sean Lynn ei benodi yn brif hyfforddwr ym mis Ionawr yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda merched Hartpury-Caerloyw
Dyma fydd gêm gyntaf Sean Lynn wrth y llyw ers iddo gael ei benodi ym mis Ionawr, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at yr her sydd o'i flaen.
"Ry'n ni gyd yn gyffrous ar ddechrau pennod newydd fel hyn yn ein hanes ac mae pawb yn edrych ymlaen at wynebu tîm talentog Yr Alban ar eu tomen eu hunain," meddai.
"Mae hi wedi bod yn wythnos brysur iawn ac er nad ydym wedi cael llawer o amser i baratoi gyda'n gilydd fel carfan lawn – mae'r cyffro o fewn y garfan yn heintus.
"Mae'n gemau ni yn erbyn yr Albanwyr yn dueddol o fod yn rhai tynn ac agos o ran y sgôr – ond 'ry'n ni'n wirioneddol edrych ymlaen at hon.
"Byddwn yn parchu bygythiad Yr Alban wrth gwrs, ond canolbwyntio arnom ni'n hunain fyddwn ni yn y man cyntaf. Wedyn fe gawn ni adeiladu ar ein perfformiad ac anelu at yr hyn yr ydym yn gobeithio ei gyflawni yn y gystadleuaeth hon."
Tîm Cymru
Jasmine Joyce, Lisa Neumann, Hannah Jones (capten), Kayleigh Powell, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Maisie Davies, Carys Phillips, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Alaw Pyrs, Kate Williams, Bethan Lewis, Georgia Evans.
Eilyddion: Kelsey Jones, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Gwen Crabb, Bryonie King, Meg Davies, Courtney Keight, Nel Metcalfe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024