Ydy gelyniaeth Cymru a Lloegr mor gryf mewn pêl-droed menywod?

Fe fydd Jess Fishlock ac Alessia Russo yn brwydro ar y cae nos Sul
- Cyhoeddwyd
"Mae fel unrhyw ddarbi - dydych chi byth eisiau colli i'r gelyn."
Dyma sut y disgrifiodd Gareth Bale y tro diwethaf i Gymru wynebu Lloegr mewn pencampwriaeth Ewropeaidd.
Mae'n stereoteip sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o chwaraeon, os allwch chi guro'ch cymdogion, dyw canlyniadau eraill ddim yn tueddu i fod mor bwysig.
Mae Cymru'n paratoi i wynebu'r hen elyn unwaith eto ddydd Sul, a hynny wrth i'r ddau dîm frwydro am le yn rownd nesaf Euro 2025.
Dywedodd Hannah Cain mai "dyma ein gelyniaeth fwyaf ac yn rhywbeth rydym yn edrych ymlaen ar ei gyfer!"
Mae rhai cefnogwyr gêm y menywod wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw drafferth cefnogi timau Cymru a Lloegr wrth wylio'r bencampwriaeth, er bod y ddau dîm yn chwarae yn yr un grŵp.
Felly pam bod yr elyniaeth efallai ddim mor amlwg yng ngêm y menywod?
Mae rhai cefnogwyr yn dweud ei fod oherwydd bod gêm y merched mor gynhwysol, ac arbenigwyr yn dweud bod cefnogwyr yn fwy ymwybodol o'r "heriau" mae'n rhaid i bob menyw eu hwynebu er mwyn chwarae ar y llwyfannau mwyaf.

Er nad yw Hayley am gefnogi Lloegr dros Gymru, dywedodd mai llwyddiant Lloegr wnaeth godi ei diddordeb yn y gêm
Dechreuodd Hayley Clarke o Fangor wylio pêl-droed yn 2019, pan welodd rownd derfynol Cwpan y Byd ar y teledu.
"Nes i wylio a wedyn ar ôl hwnna nes i ddechrau gwylio gemau rhyngwladol Lloegr yn gyntaf", meddai.
Dydd Sul, Cymru fydd hi'n gefnogi, gan ddweud na fyddai "byth" yn cefnogi Lloegr dros ei mamwlad.
Ond mae hi'n cydnabod bod llwyddiant Lloegr wedi cyfrannu at ei diddordeb yn y gêm.
Doedd Hayley ddim yn gwybod bod prif gynghrair menywod Lloegr, y Women's Super League neu WSL, yn bodoli, ond ar ôl llwyddiant menywod Lloegr yn 2022, dewisodd gefnogi dîm menywod Arsenal gan fod lot o chwaraewyr Lloegr yn y tîm.
"'Oedd llwyddiant menywod Lloegr yn 2022 yn bendant yn hwb i fi ddechrau gwylio mwy o bêl-droed."
"Nes i ddechrau dilyn menywod Cymru syth ar ôl, a nes i fynd i wylio nhw yn y Cae Ras yn Wrecsam."
Ei gobaith yw y gallai llwyddiant menywod Cymru wrth gyrraedd Euros eleni gael effaith hirdymor.
"Hoffwn i gael tegwch o fewn y gêm, mwy o ferched ifanc yn cael eu dylanwadu trwy'r menywod."

Mae Siwan, yma gyda'i brawd, yn dweud ei bod eisiau "mwy o fuddsoddiad" yn y gêm i ferched
I Siwan Davies o'r Bala, "does dim byd gwell na gweld dwy wlad angerddol yn brwydro yn erbyn ei gilydd".
Ond mae yn gweld pam y gallai rhai gefnogi'r ddau dîm hefyd.
"Yn fy marn i, mae o lawr i'r WSL, gan fod cymaint o chwaraewyr o Loegr yn chwarae i'w hoff glwb", meddai.
Ond mae'n credu y bydd y gystadleuaeth rhwng y gwledydd yn tyfu ymhellach yn y dyfodol.
"Dwi'n credu, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, y bydd y gystadleuaeth yn tyfu rhwng y ddwy genedl wrth i dîm cenedlaethol Cymru dyfu a hefyd y cynghreiriau domestig yng Nghymru."
Er nad yw'r "gystadleuaeth mor gryf â gêm y dynion", mae'n credu y bydd "gwaddol y tîm Cymreig hwn yn arwain at greu mwy o gyfleoedd o fewn chwaraeon Cymru, nid pêl-droed yn unig".
Dywedodd hefyd ei bod hi'n "obeithiol" o weld mwy o bobl yn mynychu gemau menywod Cymru.
"Gobeithio y bydd mwy o fuddsoddiad yn cael ei roi yn y gamp. Dwi'n credu bod llawer mwy o waith i'w wneud i gyrraedd y cam y mae'n ei haeddu a dwi'n credu mai'r buddsoddiad hwnnw yw'r dechrau."

Mae gan Nicola Chapman deimladau cryf dros Gymru a Lloegr
Mae Nicola Chapman yn byw yng Nghaerdydd ond yn dod o Lundain yn wreiddiol, ac felly mae ganddi gariad tuag at y ddwy wlad.
Mae hi allan yn y Swistir yn dilyn y ddau dîm, ac ar ôl gwylio gemau Cymru a Lloegr yn erbyn yr Iseldiroedd, fe fydd hi yng ngêm olaf grŵp D rhwng Cymru a Lloegr ddydd Sul.
Daeth i Gymru i astudio yn 1999 ac mae wedi aros yma ers hynny.
Wrth bacio i fynd i'r Swistir, roedd ei chês wedi ei rhannu'n ddau, meddai, gydag un ochr yn llawn stash Cymru, a'r llall gyda chit Lloegr.
"Cynhwysiant" yng ngêm y menywod yw'r rheswm mae'n teimlo ei bod yn gallu cefnogi'r ddwy ochr.
"Rydych chi'n dal i gael y banter rhwng y ddwy ochr, ond mae'n teimlo'n llawer mwy caredig, a dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth mawr rhwng gêm y dynion a'r menywod yw'r cynhwysiant."
Bydd hi'n gwisgo lliwiau Cymru ddydd Sul, yn eistedd yn ochr Cymru ac yn canu ynghyd â Hen Wlad Fy Nhadau, ond ychwanegodd ei bod yn bosib y bydd rhaid iddi "eistedd ar ei dwylo" os bydd Lloegr yn sgorio.
'Undod ffeministaidd'
Felly beth mae'r ymchwil yn ei awgrymu am y teimlad yma yng ngêm y menywod?
Dywedodd Dr Penny Miles, darlithydd ac ymchwilydd i ddiwylliant cefnogwyr ym Mhrifysgol Caerfaddon, fod "undod ffeministaidd" o amgylch gêm y menywod.
"Mae'r amodau y mae chwaraewyr benywaidd wedi gorfod eu hwynebu ar y ddwy ochr i'r ffin yn golygu llawer mwy o undod.
"Er bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr lot ymhell ar y blaen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru o ran buddsoddiad, ni ddaeth yr amodau, y proffesiynoldeb i rym tan 2019 mewn gwirionedd."

Dr Penny Miles (dde) gyda grŵp cefnogwyr cyn gêm gartref Cymru yn erbyn Iwerddon
Ychwanegodd Dr Miles: "Mae'r cefnogwyr wedi gweld yr her y mae'r holl fenywod hyn wedi gorfod ei hwynebu, rwy'n credu bod hynny'n gwneud i chi fod eisiau cefnogi pêl-droed menywod, dim ots o ble maen nhw'n dod."
Mae'n disgwyl gweld cystadleuaeth rhwng timau yn datblygu wrth symud ymlaen, ond nid yw'r cefnogwyr trawsffiniol yn unigryw i Gymru a Lloegr.
"Roeddwn i yng Nghwpan y Byd yn 2019 ac roedd cefnogwyr Chile ac Ariannin i gyd yn cefnogi ei gilydd.
"Yn gyffredinol, mae'r gwledydd hyn yn cael eu hystyried yn gystadleuwyr mawr, ond y ffaith bod yr holl fenywod hyn wedi gallu cefnogi eu hunain fwy neu lai i gyrraedd yno.
"Doedd dim cwestiwn eu bod nhw i gyd yn cefnogi ei gilydd, yn enwedig y timau o America Ladin."
'Methu deall' bod yn ffan o'r ddau
Ers 2021, bu cynnydd o 45% yn y nifer sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed menywod yng Nghymru.
Mae nifer y timau pêl-droed menywod ledled Lloegr wedi mwy na dyblu dros y saith mlynedd diwethaf - gyda llawer yn gweld llwyddiant Lloegr yn 2022 fel y rheswm.
Ond nid pawb sy'n gweld hynny'n ddigon o reswm dros gefnogi Lloegr.
Mae Lianne Michelle o Gaerdydd yn dweud nad yw hi'n gallu "deall" sut mae pobl yn gallu cefnogi'r ddwy wlad.
"Dwi'n credu bod yna rivalry bendant a bydd hwnna yn dangos ar y cae."
Os ydych chi'n cytuno â chefnogi dau dîm neu beidio, mae'n amlwg bod gêm y menywod yn groesawgar ac yn gynhwysol.
Beth bynnag, pan ddaw dydd Sul, wrth gwrs Cymru fydd hi i mi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl