Cefnogwyr Cymru'n dathlu creu hanes er gwaetha'r golled i Ffrainc
Yr ymateb yn St Gallen wedi'r chwiban olaf
- Cyhoeddwyd
Er i Gymru golli i Ffrainc yn eu hail gêm yn Euro 2025, mae aelodau o'r wal goch yn mynnu bod digon o reswm i ddathlu.
4-1 i Ffrainc oedd hi yn St Gallen nos Fercher, ond mae'r foment pan sgoriodd Jess Fishlock gôl gyntaf Cymru mewn pencampwriaeth ryngwladol wedi cael ei ddisgrifio fel "breuddwyd".
Dywedodd cefnogwyr eraill a wyliodd y gêm mewn digwyddiad yng Nghasnewydd fod chwaraewyr Cymru wedi "dangos digon o galon" a'u bod wedi "brwydro nes y diwedd".
Roedd sylwadau'r chwaraewyr a'r rheolwr yn llawer mwy cadarnhaol hefyd, gyda Rhian Wilkinson yn dweud ei bod yn falch iawn o "ddewrder" y garfan yn erbyn un o dimau gorau'r byd.

Roedd y wal goch yn amlwg o amgylch St Gallen cyn ac ar ôl y gêm nos Fercher
Fe siaradodd BBC Cymru â rhai cefnogwyr oedd yn gadael y stadiwm wedi'r chwiban olaf - gyda'r rhan fwyaf yn canolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol.
Dywedodd Haf, 18, o Gaerfyrddin: "Roedd yr hanner cyntaf yn rili da, collon ni'r ail hanner ond wnaethon ni chwarae'n dda.
"Roedd o'n well na be o'n i wedi ei ddisgwyl, ac o'n i'n dathlu gôl Fishlock - oedd o'n amazing chwarae teg iddi hi.
"Mae lot o obaith 'da fi am y Cymry, maen nhw'n neud yn dda."

Roedd perfformiad y merched yn "ardderchog," yn ôl Danielle o Gaerdydd
Dywedodd Danielle o Gaerdydd "nad oedd hi'n disgwyl i'r genod chwarae mor dda".
"Roedd yn gêm arbennig. Wrth gwrs doedd y sgôr ddim cweit beth o'n i'n meddwl ond wnaeth y merched yn ardderchog," meddai.
Dywedodd ei bod wedi cyfarfod teulu Jess Fishlock yn y stadiwm yn ystod y gêm a bod gweld y gôl yn fyw yn brofiad "arbennig".

Mae'r chwiroydd Mari (chwith) a Seren yn mwynhau gyda'u rhieni yn y Swistir a dywedodd Mari "byddai'n argymell i bawb ddod yma achos ma mor brydferth"
Yno hefyd roedd dwy chwaer o Aberllydan yn sir Benfro, Mari a Seren Kirk ac roedden nhw wrth eu bodd.
Dywedodd Mari, 23, wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru: "Oedd e'n anhygoel! Fi dal bach yn buzzed ar ôl y gôl yna really" ac wrth i Gymru "frwydro 'da tîm Ffrainc ar y dechre, o'dd yr awyrgylch gyda Cymru!"
Esboniodd ei bod wedi gwneud bach o gamgymeriad gan brynu tocynnau yng nghanol cefnogwyr Ffrainc ond dywedodd bod cymysgedd o gefnogwyr yno:
"Roedd pobl Swistir yn cefnogi ni hefyd a pan ath y gôl mewn oedden nhw'n canu a gweiddi 'WALES WALES WALES' felly odd e'n wych".
Dywedodd ei chwaer fach Seren, 13 bod "Mari'n sgrechian loads, roedd yr atmoshpere yn amazing".
Ychwanegodd ei bod wedi cael "goosebumps" pan sgoriodd Jesh Fishlock a bod yr holl brofiad yn hollol "arbennig doeddwn i methu credu fe".

Roedd gôl Jess Fishlock yn "freuddwyd arbennig," meddai Tarian
Roedd yr awyrgylch yn St Gallen yn "arbennig", meddai Tarian, 18, o Rydaman.
"Pan oedd unrhyw beth bach yn digwydd oedd e mor wych i weld," meddai.
"Roedd Yma o Hyd yn chwarae pob eiliad, non-stop - roedd o mor hwyl."
Dywedodd fod gwylio gôl Jess Fishlock fel "breuddwyd arbennig yn fy mhen",

Er y golled "maen nhw'n gwneud Rhian Wilkisnon a'r genedl yn browd" meddai Laura McAllister.
Wrth siarad ar Dros Frecwast dydd Iau dywedodd Cyn-gapten Cymru ac Is-lywydd Uefa Laura McAllister: "Ni gyd yn gwybod bod Ffrainc yn dîm o'r safon uchaf ac mae eu chwaraewyr nhw'n chware ar y lefel uchaf felly mae mor dda gweld y merched yn mynd allan a rhoi twrnamaint i'r cefnogwyr - llawn egni a llawn sgiliau hefyd, oherwydd ar adegau roedden ni'n edrych fel tîm oedd yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf."
Aeth ymlaen i ddweud fod gôl Jesh Fishlock – gôl gyntaf merched Cymru mewn prif gystadleuaeth – "yn foment bwysig iawn a hanesyddol i'r genedl".

"Y tîm yma, maen nhw'n dal i fy synnu gyda'u dewrder a'u parodrwydd i chwarae," meddai Rhian Wilkinson
Mewn cyfweliad gydag ITV wedi'r gêm, dywedodd rheolwr Cymru Rhian Wilkinson nad oedd hi "erioed wedi bod mor falch o'r tîm".
"Y tîm yma, maen nhw'n dal i fy synnu gyda'u dewrder a'u parodrwydd i chwarae," meddai.
"I fod mor ddewr â hynny, a chwarae fel hyn yn erbyn un o dimau gorau'r byd... ac i sgorio ein gôl gyntaf yn yr Euros - mae'n anhygoel.
"Dwi'n ofnadwy o falch heddiw... Do, fe wnaethon ni golli 4-1 ond dim y canlyniad yw'r peth mawr bob tro.
"Rydyn ni'n wlad newydd ar y lefel yma, ac rydyn ni wedi dangos i bawb pa mor falch ydyn ni i gynrychioli Cymru."
'Wnaethon ni adael popeth ar y cae'
Yn siarad wedi'r gêm, dywedodd capten Cymru, Angharad James ei bod hi'n "falch o'r perfformiad".
"Wnaethon ni adael popeth allan ar y cae heno," meddai.
"I sgorio'r gôl gyntaf yn yr Euros, mae'n deimlad gwych. Ni'n siomedig am y ffordd wnaethon ni roi'r goliau iddyn nhw ond oedd y perfformiad gymaint gwell.
"Mae'r teimlad yn un gwahanol i'r gêm gyntaf."
Ychwanegodd: "Dwi mor hapus i [Jess], moment hi oedd e. Mae hi wedi gweithio mor galed fel unigolyn dros yr 20 mlynedd diwethaf a dwi mor hapus iddi hi."
Dywedodd Carrie Jones ei bod hi'n teimlo "cymysgedd o emosiynau" wedi'r gêm.
"Wrth gwrs ein bod ni'n siomedig gyda'r canlyniad ond mae heddiw tipyn bach yn wahanol achos ni wedi ysbrydoli llawer o bobl yng Nghymru."

Roedd Alisha, 18, ac Oliver, 19, yn gwylio'r gêm mewn digwyddiad yng Nghasnewydd
Nôl adref yng Nghymru roedd nifer o gefnogwyr yn gwylio'r gêm mewn digwyddiadau gwahanol ar hyd y wlad, gan gynnwys Alisha ac Oliver wnaeth ddilyn y cyfan mewn clwb chwaraeon yng Nghasnewydd.
"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi brwydro'n dda, ond pan sgorion nhw'n drydedd dwi'n meddwl fod pennau pawb lawr ac roedd mwy o gamgymeriadau yn cael eu gwneud," meddai Oliver, 19.
"Be sydd angen i ni ei wneud rŵan ydi cadw ein pennau'n uchel, a deall ein bod ni'n gallu perfformio ar y llwyfan rhyngwladol, a'n bod ni'n haeddu bod yma."
Ychwanegodd Alisha, 18: "Mi wnes i fwynhau yn fawr, er ein bod ni wedi colli.
"Fe wnawn ni ddysgu o'r hyn ddigwyddodd, a gobeithio byddwn ni'n gallu taro 'nôl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf