Amseroedd aros ambiwlansys y tu allan i ysbytai yn 'annerbyniol'

Fe fydd Jason Killens yn gadael ei rôl fel pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnodau hir pan mae ambiwlansys yn gorfod aros y tu allan i ysbytai Cymru yn "anghynaladwy, annerbyniol... ac angen eu datrys".
Dyna rybudd pennaeth y gwasanaeth yng Nghymru, Jason Killens, wrth iddo baratoi i adael ei swydd ar ôl saith mlynedd wrth y llyw.
Mae'n dweud bod yr oedi, sydd bedair gwaith yn hirach na pan gafodd ei benodi, yn golygu fod cannoedd o gleifion y mis yn wynebu niwed allai fod wedi ei osgoi.
Mae'r Athro Killens, fydd yn cymryd yr awenau fel prif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans yn Llundain fis nesaf, yn dweud bod ei benderfyniad yn "chwerw felys" ond yn mynnu ei fod yn gadael y gwasanaeth yng Nghymru mewn "lle gwell".
Wrth edrych nôl ar ei gyfnod yma mae'n dweud ei fod yn fwyaf balch "o ddewrder a dygnwch" staff yn ystod pandemig Covid-19.
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
Mae'r "oedi trosglwyddo" yn digwydd pan fo ambiwlansys yn gorfod aros y tu fas i unedau brys heb allu trosglwyddo cleifion nac ymateb i alwadau 999 newydd.
Maen nhw'n digwydd pan fo ysbytai yn llenwi ac i raddau helaeth y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth ambiwlans.
Cleifion yn wynebu 'niwed diangen'
Yn ôl Jason Killens, mae'r oedi yng Nghymru "ymysg y gwaethaf yn y DU".
"Pan ddes i yma yn 2018 roedden ni'n colli tua 6,000 o oriau bob mis (lle mae ambiwlans yn sownd y tu fas i uned frys), yn ystod y cyfnodau gwaethaf y llynedd roedden ni'n colli bron i 30,000 o oriau'r mis," meddai.
"Mae cannoedd o gleifion bob mis yn wynebu niwed diangen oherwydd nad ydyn ni'n cyrraedd yn ddigon cyflym."
"''Nes i ddim ymuno â'r gwasanaeth ambiwlans yn 1996 i fod yn gyfrifol am hynny. 'Nes i ymuno i roi gofal o'r radd flaenaf - felly hefyd y 5,000 o staff y gwasanaeth sy'n gweithio yma yng Nghymru."
"Mae'n achos rhwystredigaeth fawr i'n pobl ni... mae'n anghynaladwy, annerbyniol a rhaid datrys y sefyllfa."

Mae Jason Killens yn gwadu fod ei gyfnod wrth y llyw wedi bod yn gyfnod o orfod "rheoli dirywiad"
Ar ôl rhybuddio sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf am y sefyllfa, mae Jason Killens yn dweud ei fod yn "falch" fod Llywodraeth Cymru a chydweithwyr yn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd bellach yn "clywed y galwadau".
"Rwy'n croesi bysedd y bydd 'na weithredu sydd eisoes yn digwydd, a ry'n ni'n dechrau gweld gwelliannau."
Mae ystadegau swyddogol yn dangos dirywiad dros gyfnod o flynyddoedd yn amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans.
Mae Mr Killens yn dadlau fod hynny i raddau wedi digwydd o ganlyniad i'r oedi wrth drosglwyddo cleifion.
Gwasanaeth 'mwy soffistigedig'
Ond mae'n gwadu fod ei gyfnod wrth y llyw wedi bod yn gyfnod o orfod "rheoli dirywiad" gan ddweud bod y gwasanaeth bellach yn "llawer mwy soffistigedig" o ran gallu trin mwy o gleifion o bell neu ar leoliad heb orfod eu cymryd i'r ysbyty.
"Rwy'n becso llai am y rhifau (o ran amseroedd ymateb) a mwy am safon ein gofal a'i effaith," meddai.
"Nôl yn 2018 roedden ni'n mynd â'r mwyafrif o gleifion i unedau brys - nawr dim ond rhyw hanner o achosion"
"A ry'n ni'n gallu delio â thua chwarter galwadau gyda chyngor dros y ffôn neu ymgynghoriad fideo."

Mr Killens fydd prif weithredwr newydd y gwasanaeth ambiwlans yn Llundain
Wrth edrych yn ôl ar y saith mlynedd diwethaf mae Jason Killens yn dweud ei fod yn cael ei "synnu'n ddyddiol" gan ymroddiad staff a'i fod yn hynod o falch "o'u dewrder a'u dygnwch" yn ystod y pandemig.
"Rwy'n cofio ffonio'r aelodau cyntaf o staff wnaeth ddal Covid. Roedd un ohonyn nhw yn yr ardd mewn carafán yn ynysu o'i wraig a'i blant... bod yn hynod stoicaidd am y peth.
"Ond ry'n ni'n gwybod bod ein staff ni wedi gorfod mynd i gartrefi pobl tra eu bod nhw'n pryderu ac yn ofni'n fawr am ddal Covid.
"Fe gollon ni rai aelodau staff - gormod.
"Ond wrth edrych nôl dros y saith mlynedd diwethaf - y peth mwyaf arwyddocaol rwy'n falch ohono oedd sut y gwnaeth staff ymateb i'r hyn oedd angen iddyn nhw ei wneud."

Roedd Mr Killens yn gweithio i'r gwasanaeth ambwilans yn Llundain adeg yr ymosodiadau terfysgol yn 2005
Fe fydd Jason Killens yn gadael Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymuno â'r gwasanaeth yn Llundain - lle ddechreuodd ei yrfa yn 1996 fel technegydd meddygol.
Mae'n dweud ei fod yn brofiad emosiynol ailymuno â'r gwasanaeth 20 mlynedd yn union wedi'r ymosodiadau gan derfysgwyr yn Llundain yn haf 2005 - gan yr oedd e ar y pryd yn rhan o'r ymateb.
"Y bore hwnnw (7 Gorffennaf, 2005) roeddwn i yng nghlwb pêl-droed Millwall mewn cynhadledd i reolwyr - ac yn syth fe ddechreuodd ein pagers ni i gyd ganu," esboniodd.
"20 mlynedd yn ddiweddarach rwy'n dal i gofio'r straeon glywes i gan staff ar y diwrnod hwnnw ac yn y misoedd a'r blynyddoedd wedyn.
"Roedden nhw'n rhedeg i mewn i dwneli tywyll, llawn mwg a sŵn heb wybod beth fyddai'n eu hwynebu nhw."
'Nid gyrwyr â thystysgrifau ydyn ni bellach'
Wrth iddo ddychwelyd i Lundain mae Jason Killens yn dweud y bydd yn rhannu gwersi o'i brofiad yng Nghymru â'i gydweithwyr newydd - yn enwedig y gwaith sydd wedi'i gyflawni yma i roi'r gofal sydd angen ar gleifion heb orfod anfon criw ambiwlans os nad oes angen.
"(Un prif beth) yw'r dulliau rydym wedi eu datblygu i beidio anfon lle nad yw hynny'n addas.
"Mae'n rhaid i ni gyrraedd pwynt lle ry'n ni 'mond yn anfon ambiwlans at glaf sydd wir ei angen a chlaf sydd wir angen mynd i uned frys.
"Oherwydd mae'n clinigwyr ni yn gallu delio â llawer iawn o waith mewn ffyrdd gwahanol"
"Ry'n ni (fel gwasanaeth) wedi esblygu. Nid gyrwyr â thystysgrifau ydyn ni bellach.
"Rhaid i ni argyhoeddi cymunedau nad oes angen ambiwlans a mynd i uned frys ar bob achlysur."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi sefydlu tasglu i gynorthwyo byrddau iechyd i leihau'r amseroedd mae ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai.