Cyflenwad dŵr wedi ei adfer i 90% o gwsmeriaid
- Cyhoeddwyd
Mae cyflenwadau dŵr i 90% o gartrefi wedi eu hadfer, er gwaetha'r ffaith fod ambell bibell fechan wedi byrstio dros nos.
Er hyn, mae rhai pobl mewn "ardaloedd ar dir uwch" yn wynebu'r pedwerydd diwrnod heb ddŵr, ac yn gorfod aros nes prynhawn dydd Sul tan bod y cyflenwad yn cael ei adfer.
Cafodd tua 40,000 o gartrefi eu heffeithio gan y digwyddiad yn Nolgarrog, Conwy ddydd Mercher.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi trwsio ambell bibell oedd wedi byrstio dros nos wrth i'r system ail-lenwi ar ôl bod yn wag.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Roedd 'na adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan drigolion am bibell wedi byrstio ym Mryn Mhentywyn, Llandudno ac yn Fairways, Llandudno.
Fe wnaeth un fenyw adael sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn holi am fagiau tywod tua 22:00 nos Sadwrn, gan ddweud bod risg i'w thŷ brofi llifogydd.
Dywedodd Dŵr Cymru fod arolygwyr allan yn helpu pobl i reoli unrhyw ollyngiadau oedd yn digwydd.
Cafodd y bibell yn Nolgarrog ei thrwsio brynhawn Gwener, ond fe wnaeth y cwmni rybuddio y gallai gymryd hyd at 48 awr i bethau ddychwelyd i normal.
Wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast fore Sadwrn, dywedodd prif weithredwr y cwmni, Peter Perry, fod y digwyddiad yn "fethiant catastroffig" a oedd wedi ei achosi gan symudiad yn y tir, nad oedd modd iddyn nhw ei ragweld na'i atal.
Mae pedair gorsaf poteli dŵr wedi eu hagor ym Mharc Eirias, Zip World, Maes Parcio West Shore Llandudno a safle Bodlondeb yng Nghonwy.
Dywedodd Dŵr Cymru ddydd Sul y bydd cyflenwadau dŵr amgen yn parhau i gael eu darparu.